Transcript Slide 1
Nia Wyn Williams Ysgol Morfa Nefyn Astudiaeth Achos – Llywodraeth Cymru. Ei ddweud o’n dda sy’n sail i ddarllen ac ysgrifennu. Bydd Llafaredd yn cael lle canolog wrth addysgu yn ysgol Morfa. Defnyddir ystod eang o dechnegau i sicrhau bod y dysgwyr yn meistroli ynganu a mynegiant er mwyn magu hyder mewn iaith. Dyma beth ddywedodd Estyn ym mis Ebrill 2011: ‘Mae safon iaith mynegiant llafar eithriadol o uchel gan y rhan a fwyaf o’r disgyblion ac mae’r athrawon yn modelu safonau iaith arbennig o raenus ac yn gosod disgwyliadau uchel iawn ar gyfer y disgyblion. Nodwedd arbennig yw’r eirfa gyfoethog a’r gystrawen gadarn sydd gan y disgyblion. Mae gan bron bob un ymwybyddiaeth gadarn o bwysigrwydd ynganu’n glir ac i ystyried ac ymateb i ofynion cynulleidfa.’ Cyn symud i sesiynau darllen ac ysgrifennu mae’r ysgol yn credu mewn gwneud llawer o waith llafaredd: Mae’n bwysig modelu iaith dda bob amser a chywiro siarad bler! Mae iaith yn rhywbeth a fydd ganddyn nhw bob dydd trwy gydol eu bywydau ac os gallwn ni eu helpu i’w meistroli yn gynnar byddan nhw’n siwr o lwyddo Pam fod llafaredd/cyfathrebu yn bwysig i blant o oed cynnar? I gyfathrebu gyda’i cyfoedion ac oedolion yn yr ysgol a thu hwnt. I ddysgu patrymau iaith dyddiol e.e Mae gen i..... Dwi yn mynd i .... Wyt ti isio...? Os gwelwch yn dda ga i ..... Mae angen dangos i blentyn pa mor bwysig yw siarad yn eglur a chlir a mynegi ei hun yn gywir. Mae’n bwysig bod oedolion yn modelu iaith dda a chyfoethog bob amser. Mae’n bwysig i oedolion gywiro ynganiad a brawddegau plant yn ddyddiol! ..\Clip 1 - Cofrestrau Gweithgaredd: Newyddion fore Llun: Gweler clip o blant yr ysgol yn dweud newyddion fore Llun wrth eu partner trafod. Y Dasg:..\FFolder llafaredd\Clip 2 - Newyddion Un plentyn yn gwrando yn astud ar newyddion y llall. Sgiliau: Gwrando, cwestiynu, cyfathrebu, cofio ac adrodd yn ôl i weddill y dosbarth. Mae’n bwysig bod athrawon yn ymyrryd drwy’r adeg i gywiro ynganiad e.e llythrennau dwbwl, iaith fratiog a chyflwyno patrwm brawddegol gywir. Tasg ysgrifenedig: Plant i ysgrifennu newyddion eu partner trafod ac yna darllen y gwaith i weddill y dosbarth. Llythrennedd Yn ystod y weithgaredd flaenorol gwelwyd gyfuniad o ‘Lythrennedd ar waith’ a hynny wedi ei weu yn naturiol drwy’i gilydd: Llafaredd Ysgrifennu Darllen Llafaredd yw gwaelodlin ‘Llythrennedd’. Mae’n rhaid i blant allu siarad a hynny yn siarad cywir cyn ysgrifennu a darllen. Partner Trafod ..\Clip 3 - Grid GED ffermio Grid GED – Partner Trafod: Her i’r plant nodi gyda ‘partner trafod’ beth maent yn ei wybod yn barod am ffermio Sgiliau: • Cyd drafod • Cyfathrebu • Siarad yn glir • Cyswllt llygaid • Ysgrifennu – her y dasg yw rhestru • Darllen yn glir ac eglur gyda mynegiant. Llafaredd – Gweithgareddau posib Gosod her i’r plant i ddweud eu dweud: Thema - Titanic: ‘A’i merched a phlant yn unig ddylai fynd ar y cychod achub?’ Creu dadl...\Clip 4 - Dadl Titanic Dysgu sgil newydd o siarad e.e Rwy’n cytuno/anghytuno........ Rydw i yn /dydw i ddim.......... Dwi’n credu / dydw i ddim yn credu........ Yn sicr...... yn bendant ....... heb os nac oni bai...... yn fy marn i .......... Llafaredd yn y Cyfnod Sylfaen . Rhoi cyfleoedd i blant ymwneud a chwarae rôl yn ardal y Cyfnod Sylfaen...\Clip 6 - Titanic a Bwrdd y Seder Thema - Titianic: cefndir i’r clip fideo: idiomau, ansoddeiriau a gwybodaeth am y Titanic wedi eu cyflwyno o flaenllaw i’r plant yn ystod y thema. Adnoddau ar gael - Chwaraewr CD (cerddoriaeth y Titanic) offerynnau cerdd, pypedau a.y.y.b. Grŵp yn ail fyw rhan o stori’r Titanic yn annibynnol. Thema - Moses/Aifft–‘Pasg yr Iddew’-cefndir i’r clip: Ymweld a Choleg y Bala (swper olaf), dysgu termau Iddewig newydd, creu ‘Bwrdd y Seder’, edrych ar lyfrau gwybodaeth e.e ‘ Iddew ydw i’, Defnyddio gwybodaeth parod i chwarae rôl oddi mewn i ardal y Cyfnod Sylfaen yn annibynnol. Thema - Moses - Y 10 Pla! Grwpiau o blant i greu newyddion brys o’r 10 Pla yn yr Aifft. Byd Bach: Plant Bl 0 a 1 yn creu stori yn cyd fynd a thema ‘Y Gofod’. Effaith Llafaredd ar waith Effaith llafaredd ar ysgifennu ysgrifenedig ..\Clip 7- Bedydd Mae’n bwyisg rhoi tasgau amrywiol i blant i ddeall iaith unai yn iaith syml neu iaith estynedig. Cyflwyno berfau ac idiomau: Mae’n bwysig rhoi gweithgareddau i helpu plant i adnabod a deall ystyr berfau ac idiomau cyn ysgrifennu. Tasg: Gweithio gyda phartner Dewis berf/idiom Un partner i greu brawddeg yn defnyddio berf ac idiom. Partner arall i feimio’r frawddeg. “Dyfynodau” Pennill - ‘Y Llaw’ “Ddoi di i’r mynydd?” meddai’r fawd, “ I beth?” meddai bys yr uwd, “ I hela llwynog”, meddai’r hirfys, “Beth os gwêl ni?” meddai’r cwtfys, “Llechu dan lechan”, meddai’r bys bychan. Tasg/Her Ysgrifenedig : Disgrifio gogoniant Cantre’r Gwaelod Darllen rhan gychwynnol y stori - ble mae brenin Gwyddno yn clodfori ac yn canmol Cantre’r Gwaelod. Tasg y plant mewn grwpiau yw gwerthu Cantre’r Gwaelod i weddill yr ysgol (h.y. i blant, cymorthyddion ac athrawon yr ysgol). Y gynulleidfa uchod i ddangos (drwy glapio) pa grŵp oedd yn gwerthu Cantre’r Gwaelod orau. Taith Torth: Ysgrifennu llyfr yn olrhain taith y dorth o’r cae i’r siop...\Clip 10- Taith torth Plant i gŷd-weithio mewn grwpiau Rhoi trefn ar luniau o daith y dorth. Penderfynu pwy sydd yn cychwyn... gorffen Dilyn patrwm brawddegol e.e Yn gyntaf...yn ail....yn drydydd.... Ymarfer siarad yn eglur a chlir, cofio, yngnau yn gywir gyda llai cryf ac eglur. Cyflwyno ei gwaith i weddill y dosbarth. Ysgrifennu deialog fel grŵp yn deillio o’r gwaith byrfyfyr. ..\Clip 11 - Celtiaid Gwella eu gwaith wrth iddynt ysgrifennu y ddeialog h.y ychwanegu ansoddair gwell, idiom arall. Ymarfer y ddeilaog ar ôl ei hysgrifennu. Plant i benderfynu sut i berfformio eu gwaith i weddill yr ysgol: Grŵp 1 - Creu Ffilm: Cymeriadu- defnyddio gwisg ac unrhyw adnodd addas i gyfoethogi y ddeialog. Grŵp 2 - Sioe bypedau Plant i greu pypedau eu hunain, bod yn ymwybodol o gynulleidfa. Thema Tân Gwyllt Gweithgareddau llafar: Ardal TGch: Creu poster a’r 2Publish+. Darllen y gwaith ar recordydd bach. Ardal Byd Bach: Chwarae yn rhydd yn y Byd Bach Ardal Cerddoriaeth/Dawns: Creu synau Tân gwyllt Ardal Chwarae rôl: Ail greu stori Guto Ffowc a’r Powdwr Gwn. Gobeithio bod ganddoch chi ddarlun clir o sut rydym yn datblygu Llafaredd yn ysgol Morfa Nefyn. Y gobaith yw yr ewch a defnyddio rhai o’r syniadau ar lawr eich dosbarth. Peidiwch a meddwl y bydd y plant yn ymateb ar unwaith i dasgu newydd, mae angen gweithio ar ddatblygu hyder, datblygu llafaredd gyda ynganiad eglur a chlir a chreu brwdfrydedd ymysg y plant. Cofiwch ganmol pob ymdrech! Diolch am wrando.