Cwrs_Meistroli.ppt

Download Report

Transcript Cwrs_Meistroli.ppt

CWRS
MEISTROLI (Uwch 2)
Cwrs Meistroli
Cyffredinol
• Bwriedir y cwrs ar gyfer y dysgwyr hynny sydd
yn siarad Cymraeg yn eithaf rhugl ond sydd am
ymestyn eu sgiliau llafar a chanolbwyntio ar
ddatblygu sgiliau ysgrifennu, gwrando a darllen.
Y mae’r cwrs yn paratoi dysgwyr i sefyll arholiad
Defnyddio’r Gymraeg Uwch, os y dymunant.
Cwrs Meistroli
Mae’r cwrs yn:
1)
Parhau i ymestyn sgiliau llafar wrth drafod amrywiaeth o bynciau
2)
Cadarnhau ac ymestyn prif batrymau’r Gymraeg a phwyntiau
gramadegol eraill
3)
Ehangu geirfa
4)
Ymestyn sgiliau darllen wrth ymdrin ag erthyglau Cymraeg dilys o
gyhoeddiadau megis “Golwg” a’r “Cymro”.
5)
Ymestyn sgiliau ysgrifennu, gan ganolbwyntio ar ddarnau
cofnodol, llythyrau ffurfiol a darnau hunanfynegiannol
6)
Ymestyn sgiliau gwrando a gwylio wrth ymdrin â darnau wedi’u
codi o raglenni Radio Cymru a S4C
7)
Cyflwyno’r dysgwyr i agweddau ar yr iaith lenyddol
8)
Cyflwyno’r dysgwyr i rai agweddau ar ddiwylliant Cymraeg
Cwrs Meistroli
• Y Gwaith Llafar Cychwynnol
• Ceir nodiadau manwl ymhob uned
• Cynigir gwaith creiddiol a gwaith ymestyn
ar gyfer dosbarthiadau 6 awr
• Gall tiwtor newid y pwnc neu gynnig
syniadau mwy addas, yn enwedig pethau
cyfoes
Cwrs Meistroli
• Y Gwaith Gramadeg
• Cyflwynir pwyntiau gramadeg newydd yn
nhraean cyntaf y cwrs
• Yn nes ymlaen mae ymarfer ysgrifennu darnau
cofnodol, llythyrau ffurfiol a cheir profion cloze o
hen bapurau arholiad
• Mae gwaith adolygu’r pwyntiau gramadeg a
gododd yn y Cwrs Uwch ymhob uned
• Argymhellir tynnu sylw at wallau a wneir yn
gyson – ar lafar ac ar bapur
Cwrs Meistroli
• Gwrando/Gwylio a Deall
• Y mae naill ai darn gwrando a deall neu
ddarn gwylio a deall ymhob uned
• Mae’r rhai yn dod o hen bapurau arholiad
ond gellir defnyddio deunydd sydd ar gael
ar y we neu allan o “Gwrando’n Astud”
hefyd
Cwrs Meistroli
• Y DRILIAU
• Ceir amrywiaeth ymhob uned
• Cael y dysgwyr i ymateb yn gyflym i
sbardun llafar yn unig
• Dyw pob dosbarth ddim yn hoffi’r driliau
hyn ond gall fod yn ddisgyblaeth dda ac yn
gymorth i’w sgiliau llafar
Cwrs Meistroli
• GEIRFA
• Ceir ymarferion geirfa ymhob uned
• Rhaid iddynt ddewis y gair cywir a’i roi mewn
bwlch i greu brawddeg synhwyrol
• Gall y dysgwyr greu brawddegau newydd gydag
unrhyw geiriau anodd neu anghyfarwydd
• Ceir tua ugain o eiriau newydd ymhob uned ond
gall llawer mwy godi yn ystod y wers
• Dylid creu cardiau fflach i ymarfer geirfa newydd
Cwrs Meistroli
• YR IAITH LENYDDOL
• Bwriad yr adran hon yw cyflwyno’r ffurfiau
llenyddol i ddysgwyr fel eu bod yn eu deall
wrth ddod ar eu traws wrth ddarllen
• Does dim rhaid iddynt ddefnyddio’r ffurfiau
hyn fel arfer
• Yr unig eithriad yw’r llythyr ffurfiol ond
maent yn ymarfer ar gyfer hwn yn y cwrs
Cwrs Meistroli
• CEFNDIR
• Darnau darllen yw’r rhain sydd yn rhoi cefndir ar
nifer o bynciau ynglŷn â diwylliant, hanes, yr iaith
Gymraeg, mudiadau Cymreig ac yn y blaen
• Anogir y tiwtoriaid i gyfoethogi’r darnau darllen
trwy fynd ag unrhyw ddeunyddiau ychwanegol i’r
dosbarth, trefnu ymweliad gan rywun yn y maes,
neu fynd â’r dysgwyr ar ymweliad pwrpasol
• Posibiliadau eraill – llyfrau, CDau sain a
gweledol, taflenni,cyhoeddiadau eraill
Cwrs Meistroli
• Paratoi ar gyfer yr Arholiad
• Mae’r dysgwyr yn cael eu paratoi ar gyfer yr Arholiad
Uwch trwy’r cwrs, gan gynnwys rhoi’r darnau ffolio at ei
gilydd
• Dylid annog y dysgwyr yn gynnar i feddwl am eu project
– ymarferol neu lenyddol
• Dylid eu hannog i ddarllen. Gellid dangod y llyfrau gosod
ar ddehcrau’r flyddyn a pharatoi darnau allan ohonynt i
gyd-ddarllen yn y dosbarth
• Dyw’r cwrs ddim yn eu paratoi ar gyfer
• i) cynnal tair sgwrs 10 munud ar dâp gyda siaradwyr
rhugl
• ii) darllen 2 lyfr
• Iii) gwneud y project arbennig
• Gall y tiwtor gynnig cymorth ychwanegol unigol os yw
hyn yn bosibl
Cwrs Meistroli
• Unedau Rhwydwaith y Coleg Agored
• Ymgorfforir 6 uned lefel 3 ar hyn o bryd. Dylid
cadw cymaint o dystiolaeth ag sydd yn bosibl
• 1.Cynnal sgwrs
• 2. Ymgeisio am Swydd
• 3. Darllen Cyfrol
• 4. Gwylio a Deall
• 5. Ysgrifennu bob dydd
• 6. Ysgrifennu hunanfynegiannol
• Bwriedir ychwanegu at y rhain yn y dyfodol agos
Diolch yn fawr iawn