Transcript Lefel 4
CYMEDROLI ALLANOL GRWPIAU CLWSTWR CYFNODAU ALLWEDDOL 2/3, 2011 CYMRAEG Cyfarfodydd gwybodaeth gyda chynrychiolwyr grwpiau clwstwr Haf 2011 Y TÎM CYMRAEG Prif Gymedrolwr Nona Breese Dirprwy Gymedrolwyr Eurgain Dafydd Catherine deSchoolmeester Arbenigwr Pwnc AdAS Nia Mair Jones EICH RÔL CHI FEL CYSWLLT Y CLWSTWR Derbyn gwybodaeth gan CBAC. Cydlynu gyda’r cysylltydd arall yn y clwstwr. Adrodd yn ôl i ysgolion eraill yn y clwstwr e.e. adborth/gwybodaeth a ddaw oddi wrth CBAC. Cadw cofnod o’r cyfarfodydd clwstwr a’r modd y dewiswyd y samplau. Anfon tystiolaeth sampl y clwstwr at CBAC. SAFONI A CHYMEDROLI SAFONI Defnyddio samplau o waith disgyblion i alluogi athrawon i ddod i gytundeb ynghylch nodweddion elfennau lefel. Samplau o waith unigol yw’r prif ffocws. CYMEDROLI Llunio barn ynghylch y lefel cyrhaeddiad sy’n cyd-fynd orau â lefel cyrhaeddiad disgybl ar ddiwedd cyfnod allweddol. Bydd angen bod cynrychiolwyr o bob clwstwr/teulu o ysgolion yn cwrdd i gymedroli gwaith nifer o ddisgyblion o’r clwstwr/teulu o ysgolion. Manteisio i’r eithaf ar asesu tudalen 10 ‘...er mwyn cydnabod cynnydd o fewn cyfnod allweddol, gallai barn sy’n cyd-fynd orau ddefnyddio nodweddion disgrifiadau lefel cyfagos i nodi a yw dysgwr yn gweithio ar waelod, yn ddiogel oddi mewn, neu ar frig Deilliant/Lefel y Cwricwlwm Cenedlaethol. Yn nodweddiadol, gall dysgwyr ar waelod Deilliant/Lefel ddangos nodweddion y Deilliant/Lefel honno yn bennaf ar draws ystod o waith, ond eto i gyd efallai y bydd rhai o nodweddion y Deilliant/Lefel flaenorol i’w gweld mewn rhai agweddau ar y gwaith. Bydd dysgwr sy’n ddiogel o fewn y Deilliant/Lefel yn dangos nodweddion y Deilliant/Lefel honno ar draws ystod o waith. Bydd dysgwr ar frig Deilliant/Lefel yn dangos nodweddion y lefel honno yn glir ar draws ystod o waith gyda rhai enghreifftiau o nodweddion y Deilliant/Lefel nesaf. Gall ysgolion arbennig ac ysgolion prif ffrwd ddefnyddio barn sy’n cyd-fynd orau o’r fath i rannu gwybodaeth am ddysgwyr unigol, o fewn ysgolion a rhyngddynt. Ar ddiwedd cyfnod allweddol rhaid adrodd ar gyrhaeddiad dysgwyr, gan nodi’r Deilliant/Lefel gyfan fwyaf priodol. Rhaid cofnodi pob cyrhaeddiad fel ei bod ar lefel benodol, hyd yn oed os yw ar waelod y Deilliant/Lefel, yn ddiogel oddi mewn iddi neu ar ei brig.’ TYSTIOLAETH Proffil y disgybl sy’n cael ei anfon at CBAC Llawer mwy o wybodaeth gan yr athro am y disgybl Tystiolaeth Ddigonol Osgoi tasgau tebyg Amrywiaeth o gyddestunau Ystyried cryfderau ac ardaloedd i’w datblygu Ystod o dasgau dros gyfnod o amser Llafaredd Darllen Ysgrifennu Dim nifer penodedig o dasgau Digon i ddod i benderfyniad cyd-fynd orau 7 CYD-FYND ORAU PWYSOLI Mae’r pwysoli yn bwysig yn y Gymraeg: Llafaredd Darllen Ysgrifennu 4 3 3 Gellir defnyddio tabl pwrpasol ar gyfer hyn. Cyfanswm lefelau Darllen ac Ysgrifennu Lefel Llafaredd 6 7 8 9 10 11 12 13 14 3 3 3 4 4 4 5 5 5 5 4 3 4 4 4 5 5 5 6 6 5 4 4 4 5 5 5 6 6 6 6 4 5 5 5 5 6 6 6 7 7 5 5 5 6 6 6 6 7 7 Bwriwch fod disgybl wedi cael y lefelau canlynol yn y cydrannau gwahanol: Llafaredd Darllen Ysgrifennu – – – Lefel 5 Lefel 4 Lefel 3 Yn gyntaf, adiwch y lefelau darllen ac ysgrifennu at ei gilydd. Bydd y cyfanswm yn dangos ar ba golofn i edrych arni er enghraifft 4 + 3 = 7 Yna, bydd y lefel Llafaredd yn dangos ar ba res i edrych arni. Y lefel pwnc yw’r rhif a geir lle mae’r golofn a’r rhes yn cyfarfod. Felly os yw’r cyfanswm darllen ac ysgrifennu yn 7, a’r llafaredd yn 5, yna gwelir mai’r lefel pwnc yw 4. Cyfanswm lefelau Darllen ac Ysgrifennu 6 Lefel Llafaredd 7 8 9 10 11 12 13 14 Cyfanswm y darllen a’r ysgrifennu 3 3 3 4 4 4 5 5 5 5 4 3 4 4 4 5 5 5 6 6 5 Y lefel i lafaredd 4 4 Y radd derfynol 4 5 5 5 6 6 6 6 4 5 5 5 5 6 6 6 7 7 5 5 5 6 6 6 6 7 7 Lefel Pwnc Targed Cyrhaeddiad Lefel Pwysiad Lefel x Pwysiad Llafaredd 3 4 12 Darllen 4 3 12 Ysgrifennu 4 3 12 10 36 Cyfanswm 36/10 = 3.6 Talgrynnwch i’r rhif cyfan agosaf, felly Lefel Pwnc = 4 Lefel Pwnc Targed Cyrhaeddiad Lefel Pwysiad Lefel x Pwysiad Llafaredd 5 4 20 Darllen 4 3 12 Ysgrifennu 4 3 12 10 44 Cyfanswm 44/10 = 4.4 Talgrynnwch i’r rhif cyfan agosaf, felly Lefel Pwnc = 4 Adborth: Targed Cyrhaeddiad 1 Llafaredd Mae’r clystyrau i’w canmol am: dystiolaeth helaeth mewn amrywiaeth o ffurfiau ymateb i ddeunydd darllen ar lafar defnyddio offer technegol i gasglu tystiolaeth cyfeirio at lefelau cyfagos enghreifftio amrediad Ystod a Sgiliau’r Rhaglen Astudio enghreifftio gwaith llafaredd traws gwricwlaidd Adborth: Llafaredd Eithriad oedd darllen cyflwyniadau personol tystiolaeth o drafodaeth grŵp yn unig. mwy na thri dysgwr yn trafod mewn grŵp sylwebaeth nad oedd yn cyd-fynd gyda’r dystiolaeth Ardaloedd i’w datblygu. Dylid ystyried maint y grwpiau sicrhau bod sylwebaeth ar gyfer pob darn o dystiolaeth sicrhau tystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau’r lefel dan sylw sicrhau bod y dysgwr dan sylw yn glir/hawdd i’w adnabod Adborth: Targed Cyrhaeddiad 2 Darllen Er mwyn darlunio ehangder Ystod a Ffurfiau’r Rhaglen Astudio disgwylid ymatebion mewn gwahanol arddulliau i amrywiaeth o symbyliadau Mae’r clystyrau i’w canmol am gynnwys amrywiaeth o dasgau e.e. adolygiad, dyddiadur, portread o gymeriad cynnwys ymatebion i ddarllen llenyddol ac anllenyddol defnyddio deunyddiau pynciol e.e. cywain gwybodaeth am hadau cynnwys ymatebion trwy ysgrifennu a thrwy lafar cynnwys symbyliadau (o fewn rheswm) strwythuro’r tasgau i gwmpasu sawl elfen cynnwys tasg ‘darllen ar goedd’ (Lefel 4) Adborth: Targed Cyrhaeddiad 2 Darllen Eithriad oedd asesu’r un sgil ddwy waith asesu deunydd darllen mewn iaith arall cynnwys tasg ‘darllen ar goedd’ ar Lefel 5 peidio â chynnwys symbyliadau cynnwys rhestr ddarllen dysgwyr, sylwadau beirniad Cwis Llyfrau, sgôr darllen dysgwyr. Ni ellir derbyn y rhain fel tystiolaeth oherwydd nid oes a wnelont o gwbl â’r disgrifiad lefel. Ardaloedd i’w datblygu. Dylid cynnwys tystiolaeth o ymateb i ddeunyddiau llenyddol ac anllenyddol cynnwys y cwestiwn / cwestiynau ystyried addasrwydd symbyliad e.e. a yw’n rhy hawdd / anodd, a yw’n rhoi digon o gyfleoedd i’r dysgwyr, a yw’n addas i’w oedran? Adborth: Targed Cyrhaeddiad 3 Ysgrifennu Mae’r clystyrau i’w canmol am gynnwys amrywiaeth o wahanol ffurfiau creadigol a ffeithiol/ mynegi barn cynnwys ysgrifennu ffeithiol o faes arall o fewn y cwricwlwm defnyddio tystiolaeth sydd eisoes yn bodoli yn ffeiliau/ llyfrau’r dysgwyr creu ymwybyddiaeth o dechnegau gweledol e.e. amrywio ffont, is-benawdau rhoi cynhaliaeth ymlaen llaw e.e. gwylio rhaglen deledu cyn mynegi barn defnyddio pwnc llosg lleol/pwnc cyfoes yn symbyliad asesu TC2 a TC3 ar yr un dasg Adborth: Targed Cyrhaeddiad 3 Ysgrifennu Eithriad oedd derbyn 10 darn o waith – pytiog ailadrodd yr un ffurf gormod o dystiolaeth yn cwmpasu’r un ‘llinyn’ tystiolaeth o un math o ysgrifennu yn unig Ardaloedd i'w datblygu egluro cyd-destun/cefndir y dasg cynnwys amrywiaeth o ffurfiau cynnwys ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu ffeithiol/mynegi barn Gofynion 2011-2012 Mae gofyn i bob clwstwr gyflwyno TYSTIOLAETH TYSTIOLAETH = Proffiliau + Sylwebaethau + Cefndir/cyddestun y tasgau Bydd y dystiolaeth yn: ateb y gofynion statudol adnodd asesu gwerthfawr o fewn y clystyrau adlewyrchu dealltwriaeth aelodau’r clystyrau o’r safonau cenedlaethol Proffiliau Proffil Proffil Proffil Proffil 1 1 1 1 dysgwr dysgwr dysgwr dysgwr ar ar ar ar Lefel Lefel Lefel Lefel 4 5 4 5 CA2, CA2, CA3, CA3, Blwyddyn Blwyddyn Blwyddyn Blwyddyn 6 6 9 9 Dylai pob proffil gynnwys tystiolaeth o’r 3 TC yn seiliedig ar Raglen Astudio Cymraeg (Ystod a Sgiliau) digon o dystiolaeth i adlewyrchu gofynion y lefelau a gynrychiolir cyfraniadau unigol, gwaith pâr, gwaith grŵp a pherfformio i amrywiaeth o gynulleidfaoedd yn y dystiolaeth Llafaredd tystiolaeth llenyddol ac anllenyddol yn y 2 DC Darllen ac Ysgrifennu Ni chymedrolir proffiliau: • sy’n cynnwys tystiolaeth o waith gwahanol ddysgwyr • ar yr un lefel o fewn yr un CA h.y 2 broffil Lefel 4, CA3 • heb sylwebaeth Sylwebaethau Rhaid cynnwys sylwebaethau cytunedig aelodau’r clwstwr gyda’r proffiliau. Disgwylir i’r sylwebaethau: egluro sut y daethpwyd i’r lefel cyd-fynd orau ym mhob TC egluro pam bod tystiolaeth ar lefel arbennig ac nid ar lefel arall cyfeirio at ofynion lefelau eraill cyfleu dealltwriaeth aelodau’r clwstwr o ofynion lefelau Gall y sylwebaeth fod ar wahanol ffurfiau, megis copi o anodiadau gwreiddiol, pwyntiau bwled, rhestr wirio neu’r daflen ddewisol a baratowyd gan CBAC. Cefndir a chyd-destun Disgwylir gwybodaeth am gefndir a chyd-destun tasgau e.e. faint o gynhaliaeth a roddwyd, beth oedd y symbyliad, gwaith pâr, fframweithiau, pa ddrafft ydyw, pa ddysgwr a asesir (pan fo gwaith grŵp/pâr) Dylid cynnwys y symbyliadau (o fewn rheswm) Disgwylir i glystyrau gofnodi manylion eu cyfarfod(ydd) cymedroli ar daflen a baratoir gan CBAC. Fframwaith amser a dyddiadau Dyddiad Digwyddiad Mehefin 20/21/28 (2011) Cyfarfodydd Rhanbarthol (Caerdydd/Abertawe/Llandudno) Hydref (2011) Pecyn Gweinyddol yn cyrraedd y cyswllt clwstwr Gwanwyn – Mawrth 30ain (2012) Anfon proffiliau’r clwstwr i CBAC Haf - Mai (2012) Cymedroli Allanol – proffiliau clwstwr Haf - Mehefin (2012) Dychwelyd proffiliau’r clwstwr ac adroddiadau cymedrolwyr yn ôl at gyswllt clwstwr Copi o’r adroddiad at aelod perthnasol o’r ALl Gwaith Cymedrolwyr Allanol • Ydy’r cymedrolwyr yn cytuno â’r penderfyniad cyd-fynd orau ar gyfer Lefel Pwnc y dysgwr dan sylw yn ôl y sylwebaeth? • Ydy’r cymedrolwyr yn cytuno ar y lefel cyd-fynd orau o fewn pob Targed Cyrhaeddiad yn ôl y sylwebaeth? YSGRIFENNU ADRODDIAD 27 ADBORTH i GLYSTYRAU Adroddiad ar bob proffil Codau: C Cytuno’n llwyr gyda dyfarniad cyd-fynd orau’r clwstwr C(m) Cytuno gyda dyfarniad cyd- fynd orau’r clwstwr ond ceir rhai materion a nodir yn yr adroddiad Mc Methu cytuno gyda dyfarniad cyd-fynd orau’r clwstwr N Ni dderbyniwyd tystiolaeth Pan fo anghytuno bydd y rheswm yng nghorff yr adroddiad Rhaid cofio beth yw ‘tystiolaeth’ CYHOEDDIADAU DEFNYDDIOL Y BROSES cynrychiolydd o bob ysgol o fewn y clwstwr i fynychu’r cyfarfodydd. ystyried proffiliau pob ysgol o fewn y clwstwr. cymedroli’r proffiliau a dod i farn ar y lefelau cyd-fynd orau. dewis y proffiliau fydd yn cael eu defnyddio gan y grŵp clwstwr fel ffynhonnell tystiolaeth. nodi cefndir a chyd-destun y tasgau e.e. gwaith pâr, a chynnwys copi o’r sbardun pan fo’n ymarferol bosib. ysgrifennu sylwebaeth ar bob tasg ac ar ddiwedd pob targed cyrhaeddiad i ddangos sut y penderfynwyd ar lefel cyd-fynd orau. sicrhau bod copїau o’r dystiolaeth a gymedrolwyd ym mhob ysgol ynghyd ag adroddiad y cymedrolwyr allanol. Taflenni CBAC proses y clwstwr (gorfodol) manylion y dystiolaeth sampl (dewisol) Enghreifftiau o arfer da Enghreifftiau o broffiliau Lefel 4 CA2 a Lefel 5 CA3