Rhifau Arbennig

Download Report

Transcript Rhifau Arbennig

Rhifau Arbennig
Lluosrifau, ffactorau, eilrifau,
odrifau, rhifau sgwâr, rhifau ciwb,
rhifau cysefin, israddau
Odrifau ac Eilrifau
Odrifau yw rhifau na ellir rhannu â 2 heb adael
gweddill, e.e. 1, 3, 5, 7, 21, 57, 109, 251 ayb
Eilrifau yw rhifau y gellir rhannu â 2 heb adael gweddill,
e.e. 2, 4, 6, 8, 22, 58, 110, 252 ayb
Nodwch 5 odrif ac eilrif arall:
Odrifau ................................................
Eilrifau ................................................
Lluosrifau
Ystyr lluosrif yw rhif y gellir rhannu â rhif llawn arall gan beidio â
gadael gweddill.
e.e.
Lluosrifau 6 yw 6, 12, 30 neu 66 ayb.
Mae hyn oherwydd y gellir lluosi 6 ag 1, 2, 5 neu 11 gan roi
rhif llawn.
Lluosrifau 18 yw 18, 36, 54, 90, 180.
Mae hyn oherwydd y gellir lluosi 18 ag 1, 2, 3, 5 neu 10 gan
roi rhif llawn.
Ffactorau
Ystyr ffactor yw unrhyw rif y gellir rhannu rhif ag ef gan beidio â gadael
gweddill
e.e.
Ffactorau 6 yw 1, 2, 3, 6.
Mae hyn oherwydd y gellir rhannu 6 ag 1, 2, 3 neu 6 gan roi
rhif llawn a dim gweddill.
Ffactorau 18 yw 1, 2, 3, 6, 9, 18.
Mae hyn oherwydd y gellir rhannu 18 ag 1, 2, 3, 6, 9, 18 gan
roi rhif llawn a dim gweddill.
Rhifau Cysefin
Ceir rhif cysefin pan fo 2 a dim ond 2 ffactor gan rif, sef 1 a’r rhif ei hun.
Er enghraifft, mae 2 yn rhif cysefin gan mai dim ond 1 a 2 yw ei ffactorau.
Mae 7 yn rhif cysefin gan mai dim ond 1 a 7 yw ei ffactorau.
Nid yw 9 yn rhif cysefin gan fod 1,3 a 9 yn ffactorau iddo.
Nodwch 6 rhif cysefin arall:
.............................................................................
Ffactorau Cyffredin
Ystyr ffactor cyffredin yw rhif sy’n ffactor i fwy nag un rhif.
Er enghraifft, mae 2 yn ffactor cyffredin 6 a 10 gan fod 2 yn un o
ffactorau 6 a 10.
Mae 3 yn ffactor cyffredin 12 a 21 gan fod 3 yn un o ffactorau 12 a 21.
Nid yw 5 yn ffactor cyffredin 10 a 21 gan nad yw 5 yn un o ffactorau
10 a 21.
Nodwch ffactorau cyffredin 27 a 42:.......................................................................
Ffactor Cyffredin Mwyaf
Ystyr ffactor cyffredin mwyaf yw’r rhif mwyaf sy’n ffactor o
ddau rif.
Er enghraifft,
Ffactorau 12 yw 1, 2, 3, 6 a 12.
Ffactorau 30 yw 1, 2, 3, 5, 6, 10, 15 a 30.
Mae gan 12 a 30 y ffactorau cyffredin 1, 2, 3 a 6.
Felly ffactor cyffredin mwyaf 12 a 30 yw 6.
Nodwch ffactor cyffredin mwyaf 22 a 48:.....................................................................
Rhifau Sgwâr
Ystyr rhif sgwâr yw’r ateb a geir pan rydym yn lluosi rhif llawn â’i hun.
E.e.
Mae 1 yn rhif sgwâr oherwydd mae 1x1=1
Mae 9 a 64 yn rhifau sgwâr, oherwydd mae 3x3=9 ac 8x8=64
Nid yw 8 yn rhif sgwâr oherwydd ni allwn luosi rhif llawn â’i hun a
chael ateb o 8.
Nodwch 5 rhif sgŵar arall:
............................................................................
Rhifau Ciwb
Ystyr rhif ciwb yw’r ateb a geir pan rydym yn lluosi rhif llawn â’i hun ddwywaith.
E.e.
Mae 1 yn rhif sgwâr oherwydd mae 1x1x1=1
Mae 8 a 64 yn rhifau ciwb, oherwydd mae 2x2x2=8 ac 4x4x4=64
Nid yw 20 yn rhif ciwb oherwydd ni allwn luosi rhif llawn â’i hun
ddwywaith a chael ateb o 20.
Nodwch 5 rhif ciwb arall: ............................................................................
Israddau
Ystyr isradd yw rhif pan rydym yn ei luosi â’i hun nifer arbennig o
weithiau sy’n rhoi ateb penodol.
E.e.
Mae 3 yn ail-isradd 9 oherwydd mae 3x3=9.
Mae 5 yn trydydd-isradd 125 oherwydd mae 5x5x5=125.
Nid oes rhaid i israddau fod yn rhifau llawn, er enghraifft mae 2.7 yn ailisradd 7.89, ac mae 6.31 yn drydydd-isradd 251.239591.
CORLAT
CORLAT
• 4 x (6 ÷ 3) + 42 – 1
• (8 – 4)3 ÷ 8 + 2 x 5
4 x 2 + 42 – 1
4 x 2 + 16 – 1
8 + 16 – 1
24 – 1
23
43 ÷ 8 + 2 x 5
64 ÷ 8 + 2 x 5
8+2x5
8 + 10
18