Cyflwyniad i Ficrobau (MS PowerPoint) - e-Bug
Download
Report
Transcript Cyflwyniad i Ficrobau (MS PowerPoint) - e-Bug
Beth yw micro-organebau?
Microbau
– Organebau un gell yw microbau
– Maen nhw’n rhy fach i’w gweld â llygad noeth
– Maen nhw i’w cael YM MHOBMAN bron ar y ddaear
– Enwau arall arnyn nhw yw bygiau, germau a microbau
– Maen nhw’n cael eu rhannu’n dri grŵp gwahanol fel arfer
• Bacteria
• Firws
• Ffwng
Bacteria
– Maen nhw’n cael maetholion o’u hamgylcheddau er mwyn byw. Corff dynol
yw’r amgylchedd mewn rhai achosion
– Mae’r rhan fwyaf yn ddefnyddiol neu’n ddiniwed. Ond mae rhai’n achosi
clefydau
– Gall bacteria atgynhyrchu y tu allan i’r corff neu yn y corff wrth iddyn nhw
achosi heintiau
– Mae rhai mathau o facteria yn dda i’n cyrff:
• Mae bacteria da yn byw yn ein perfedd ac yn ein helpu ni i ddefnyddio’r
maetholion o’r bwyd rydym yn ei fwyta ac yn creu gwastraff o’r gweddill.
– Maen nhw i’w cael ym mhobman ar y ddaear, yn y môr, mewn creigiau,
mewn llosgfynyddoedd, yn ein cyrff ac yn y pridd
Strwythur Bacteria
Cellbilen
Cellfur
Cromosom
Cytoplasm
Cromosom:
Deunydd genetig (DNA) y gell
Cellfur:
Mae’r cellfur wedi’i wneud o beptidoglycan ac mae’n cadw
siâp cyffredinol cell facterol
Cellbilen:
Leinin tu mewn i’r cellfur, yn darparu ffin ar gyfer cynnwys
y gell a rhwystr i sylweddau rhag dod mewn ac allan.
Cytoplasm:
Disgrifio’r tu mewn i’r gell, a’i chynnwys.
Siapiau Bacteria
Mae yna 3 siâp gwahanol
Peli neu coci
(Staffylococws)
Rhodenni
(Lactobasilws)
Sbiralau
(Campylobacter)
Firysau
– Mae firysau hyd yn oed yn llai na bacteria ac yn gallu byw y TU MEWN i
facteria weithiau.
– Mae’r rhan fwyaf o firysau’n ein gwneud ni’n sâl.
– Mae clefydau fel BRECH YR IEIR a’r FFLIW yn cael eu hachosi gan firysau.
– Gall firysau ledaenu’n hawdd o un person i’r llall.
– Nid yw firysau’n gallu atgynhyrchu ar eu pen eu hunain. Maen nhw’n heintio
celloedd eraill ac yn dwyn eu mecanwaith atgynhyrchu er mwyn gwneud
hynny eu hunain.
– Maen nhw’n lluosogi yn y gell ‘letyol’ ac ar ôl defnyddio holl fecanwaith
atgynhyrchu y gell mae miloedd o gelloedd firaol yn ffrwydro o’r gell. Caiff y
gell letyol ei difa’n llwyr.
Strwythur Firysau
Amlen
• Haen lipid ddwbl yn dal deunydd
genetig y celloedd.
Amlen
Asid
niwclëig
Glycoproteinau
Cymhleth
(Bacterioffag– firws sy’n
heintio bacteria)
Glycoproteinau
Mae gan y rhain ddau ddiben
• Angori’r firws i’r gell letyol.
• Cludo deunydd genetig o’r firws i’r
gell letyol.
Asid niwclëig
• Deunydd DNA neu RNA, ond nid yw
celloedd firysau’n cynnwys y ddau yn
aml iawn. Mae’r rhan fwyaf o
firysau’n cynnwys deunydd RNA.
Siapiau Firysau
Helical
Isosahedral
(Firws mosäig tybaco)
(Ffliw)
Cymhleth
(Bacterioffag – firws sy’n heintio bacteria)
Ffyngau
– Y microbau mwyaf a mwyaf hyblyg ohonynt i gyd
– Strwythurau mawr tebyg i blanhigion heb gloroffyl
– Angen amsguno maetholion o’r hyn maen nhw’n tyfu arno
– Gall ffyngau fod yn ddefnyddiol iawn ac mae pobl wedi’u defnyddio
– Yn y diwydiant bwyd – bragu cwrw, gwneud i fara godi
– Mewn meddygaeth – i wneud gwrthfiotigau
– Fe allan nhw fod yn niweidiol os ydyn nhw’n dwyn maetholion gan
organeb fyw arall. Enghreifftiau yw llwydni ar fara a tharwden y
traed a achosir gan grŵp o ffyngau o’r enw dermatoffytau
– Mae ffyngau i’w cael yn yr aer, ar blanhigion ac mewn dŵr
Strwythur Ffyngau
Sborangia
Sporangioffor
Rhisoidau
Sborangia:
Corff sy’n cynhyrchu sborau.
Sporangioffor:
Coesyn ffilamentog y mae’r sborangiwm yn ffurfio arno.
Rhisoidau:
Mae’r hyffae is-wyneb yn arbenigo mewn amsugno bwyd.