TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 BIOLEG 1 Ymaddasiad a Chystadleuaeth Dosbarthu Organebau Mae’n debyg fod hyd at 15 miliwn o Organebau byw (pethau byw) yn bodoli. TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Dim.
Download ReportTranscript TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 BIOLEG 1 Ymaddasiad a Chystadleuaeth Dosbarthu Organebau Mae’n debyg fod hyd at 15 miliwn o Organebau byw (pethau byw) yn bodoli. TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Dim.
TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 BIOLEG 1 Ymaddasiad a Chystadleuaeth Dosbarthu Organebau Mae’n debyg fod hyd at 15 miliwn o Organebau byw (pethau byw) yn bodoli. TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Dim ond 1.8 miliwn o’r rhain sydd wedi eu henwi! Er mwyn ei gwneud hi’n haws astudio organebau, mae gwyddonwyr yn eu rhannu yn grwpiau – dosbarthu yw’r enw am hyn. Pam dosbarthu organebau? TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Mae gwyddonwyr yn rhoi organebau sydd yn debyg i’w gilydd yn yr un grŵp. Fel arfer, gallwch weld fod nodweddion (characteristics) yr organebau yn debyg. Gallwch hefyd gael organebau sydd yn edrych yn hollol wahanol i’w gilydd, ond fod ganddynt DNA tebyg. Y System Grwpio TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Teyrnas Y grŵp cyntaf y rhoddir unrhyw organeb ynddo yw’r grŵp Teyrnas. Enghraifftiau yw’r deyrnas Anifeiliaid a’r deyrnas Planhigion. Mae’r deyrnas Anifeiliaid yn cynnwys organebau mor wahanol â phryfyn ag eliffant! TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Dosbarthu’r Teigr Teyrnas Anifeiliaid Ffylwm Dosbarth Chordata (fertebrata) Mamolion Urdd Cigysyddion Teulu Felidae Genws Panthera Rhywogaeth tigris Enw Gwyddonol Er mwyn rhoi enw gwyddonol i organeb, rydych yn cymeryd enw ei genws a’i enw rhywogaeth e.e. gyda’r teigr bydd yr enw yn: Panthera tigris TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 System finomaidd yw’r enw ar y dull hwn o enwi. Bydd yr enw yn ymddangos ar ffurf italig gyda phrif lythyren i’r enw genws a llythyren fach i’r rhywogaeth. TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Pam fod angen enw gwyddonol ar organeb? Mae pob gwlad ar draws y byd yn defnyddio’r system finomaidd i enwi organebau. Bydd gwyddonwyr ym mhob gwlad yn gwybod beth yw Panthera tigris er fod gan yr anifial enw cyffredin gwahanol e.e. yn China , 老虎 yw’r gair am deigr! TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Pam Lladin? O’r iaith Lladin y daw enwau’r grwpiau. Mae hyn oherwydd mai’r gwyddonydd a ddechreuodd y broses yma oedd Carl von Linne (1707 -1778). Roedd ef mor hoff o’r iaith Lladin, nes iddo newid ei enw ei hun i’r iaith honno – Carolus Linnaeus! Yn y dyddiau hynny, Lladin oedd iaith addysgu gwyddoniaeth ac mae’r enwau yn parhau hyd heddiw. Ymaddasiad TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Mae pob organeb byw wedi ei addasu (adapt) i fyw mewn cynefin (habitat) penodol. Cymharu Dau Lwynog TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Mae’r ddau lwynog canlynol yn perthyn yn agos i’w gilydd, ond gan eu bod wedi addasu i fyw mewn cynefinoedd hollol wahanol, maent yn edrych yn wahanol: Llwynog yr Anialwch Llwynog yr Arctig Gwahaniaethau rhwng y llwynogod Maint y glust – mae clust ag arwynebedd arwyneb mawr yn caniatáu i wres belydru o’r corff ac mae clust fach yn cadw cymaint o wres yn y corff â phosibl. TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Braster corff a chot ffwr drwchus – yn fwy amlwg gan anifeiliaid yr arctig er mwyn ynysu eu cyrff. Lliw – mae bod â ffwr sydd yr un lliw a’r amgylchedd yn golygu fod yr anifail yn anodd i’w weld yn erbyn ei gefndir. Cuddliw yw’r enw am hyn. Ymaddasiad Planhigion TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Mae planhigion hefyd yn addasu i fyw yn eu cynefin. Os yw planhigyn yn byw mewn cynefin poeth a sych, yna mae’n rhaid iddo gadw dŵr yn llwyddiannus. Ymaddasiad Planhigion TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Dyma sut mae’r cactws yn ymdopi ag amodau’r diffeithdir (desert) : Drain (spines) yn lle dail Coesyn suddlon (succulent stem) Cwtigl trwchus (fel haen o gwyr/ wax yw hwn dros ddeilen). Dim stomata (tyllau bach) yn y ddeilen na’r coesyn. TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Mae’r ddau addasiad yma o gymorth i’r organeb oroesi gan fod cynhyrchu nifer fawr o epil yn cynyddu’r siawns fod un ohonynt yn goroesi. Pryfaid yn dodwy llawer iawn o wyau Dant y Llew yn gwasgaru ei hadau TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Cystadleuaeth Os yw organebau yn byw yn yr un cynefin ac yn dibynnu ar yr un adnoddau, yna maent yn cystadlu gydai’i gilydd. Mae hyn yn gallu digwydd rhwng organebau o’r un rhywogaeth (species) neu o wahanol rywogaethau. Ymladd! TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Pam eich bod yn credu fod y ddau lew yma yn ymladd? Gallai hyn fod oherwydd cystadlaeaeth am: • fwyd • tiriogaeth • partner TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 O bethau bychain …… Mae’r fesen (acorn) yma wedi egino i fod yn goeden dderwen ifanc. Bydd hi’n cystadlu am nifer o bethau yn y goedwig fel: lle i dyfu golau haul dŵr mwynau o’r pridd TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Ysglyfaethwyr ac Ysglyfaeth Mae maint poblogaeth yn dibynnu ar nifer yr ysglyfaethwyr a’r ysglyfaeth sydd yn bresennol. Yn yr enghraifft yma, yr ysglyfaethwr yw’r lyncs a’r ysglyfaeth yw’r ysgyfarnog (hare): Os y bydd poblogaeth yr ysgyfarnog yn cynyddu, bydd rhagor o fwyd ar gael i’r lyncs, felly bydd eu niferoedd yn cynyddu. TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Gan fod mwy o’r ysgyfarnogod yn cael eu bwyta, mae eu poblogaeth yn gostwng. Mae niferoedd yr ysglyfaethwr a’r ysglyfaeth felly yn dilyn patrwm ei gilydd. Mae’r graff sydd yn dilyn yn dangos hyn: TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Graff Niferoedd Ysglyfaethwr/ Ysglyfaeth Rhywogaethau Sydd yn Ddangosyddion Llygredd TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Dangosydd llygredd yw unrhyw beth sydd yn dangos fod llygredd yn digwydd. Mae rhywogaethau yn amrywio rhwng ardal sydd wedi ei llygru ac ardal lân e.e. gallwch ddarganfod lefelau llygredd mewn dŵr croyw trwy edrych ar beth sydd yn byw ynddo. TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Rhywogaethau Dangosol mewn Dŵr Croyw (freshwater) Mae presenoldeb uchel o diwblyngyr (tubeworms) mewn afon yn dynodi fod lefel yr ocsigen yn isel iawn. Mae’n nhw’n goch am eu bod yn cynnwys haemoglobin (fel sydd yng nghelloedd coch y gwaed) ac maent yn gallu casglu ocsigen yn hawdd o’r dŵr. Tiwblyngyr coch TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Gall y mesur o lefel ocsigen fod yn ddangosydd o lygredd. Mae lefelau pH yn cael eu mesur hefyd i weld pa mor lan yw dŵr. Gellir defnyddio cofnodydd data i fesur y ffactorau yma. Cofnodydd data TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Indecs Biotig Trent Dull safonol o fesur llygredd yw hwn. Mae wedi ei seilio ar y ffaith fod gwahanol organebau yn gallu gwrthsefyll gwahanol raddau o lygredd. Mae’r sleid nesaf yn dangos esiampl o Ddadansoddiad Indecs Biotig Trent. Ddadansoddiad Indecs Biotig Trent TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Indecs Cyflwr Anifeiliaid Nodweddiadol. XI-X VII-X Glân iawn Brithyll, eog Glân Pysgod ac arthropodau amrywiol VI-VII Glân Fel yr uchod ond llai o rywogaethau V-VI Eithaf glân Ychydig o bysgod, llau dŵr croyw III-IV Amheus Llai o rywogaethau o blith yr uchod II-IV Amheus Fel yr uchod ond dim pysgod Gwael Larfau gwybed a llyngyr Gwael Organebau anaerobig yn unig I-III 0-I TGAU Gwyddonaieth Pennod 1 Cen Mae planhigion hefyd yn gallu bod yn ddangosyddion da i lygredd. Mae cen yn sensitif iawn i lefelau o sylffwr deuocsid yn yr aer ac felly nid ydynt yn tyfu yn dda ar goed sydd mewn ardal lygredig. Cen yn tyfu ar goeden mewn ardal gydag aer glân