Methodoleg addysg ddwyieithog: trefniadau iaith yn y dosbarth PRYD a SUT mae athrawon a dysgwyr yn defnyddio un neu ddwy iaith yn y dosbarth? Nodiadau ar gyfer : ”PRYD.
Download ReportTranscript Methodoleg addysg ddwyieithog: trefniadau iaith yn y dosbarth PRYD a SUT mae athrawon a dysgwyr yn defnyddio un neu ddwy iaith yn y dosbarth? Nodiadau ar gyfer : ”PRYD.
Methodoleg addysg ddwyieithog: trefniadau iaith yn y dosbarth PRYD a SUT mae athrawon a dysgwyr yn defnyddio un neu ddwy iaith yn y dosbarth? Nodiadau ar gyfer : ”PRYD a SUT mae athrawon a dysgwyr yn defnyddio un neu ddwy iaith yn y dosbarth? ” Cwestiwn allweddol o fewn maes addysg ddwyieithog ydy: PRYD a SUT mae athrawon yn defnyddio dwy iaith yn y dosbarth? Arolwg defnyddio un neu ddwy iaith mewn 100 gwers Cymraeg: addysg drochi 2 Ymateb yr athro i iaith y disgybl 5 Cymraeg: disgyblion cartrefi Cymraeg 5 Cyfieithu: cefnogi dysgwyr I2 11 Cymraeg: disgyblion Iaith 1 & Iaith 2 14 Nifer o drefniadau iaith 14 Cyfieithu: terminoleg cysylltiedig â'r pwnc 14 Cyfieithu: dosbarth cyfan 17 Trawsieithu 18 0 2 4 6 … 8 10 12 14 16 18 20 Nodiadau ar gyfer : Arolwg defnyddio un neu ddwy iaith mewn 100 gwers • Dyma ganlyniadau ‘Arolwg defnyddio un neu ddwy iaith yn y dosbarth’. • Arsyllwyd 100 o wersi. • Roedd rhai athrawon yn defnyddio un iaith yn bennaf yn y wers er mai datblygu dwyieithrwydd disgyblion oedd y nod. • Er enghraifft, cyflwynir unedau neu fodiwlau trwy gyfrwng un iaith ac eraill trwy gyfrwng yr iaith arall ar gyfer yr holl ddysgwyr. • Gwelir bod cyfieithu yn digwydd mewn gwahanol sefyllfaoedd, er enghraifft, - cyfieithu termau - cyfieithu i gefnogi dysgwyr -cyfieithu ar gyfer y dosbarth cyfan • Trawsieithu oedd y strategaeth fwyaf poblogaidd ar gyfer defnyddio dwy iaith yn y dosbarth. Addysg Ddwyieithog yn Ysgolion Cymru Gwahanol drefniadau iaith yn y dosbarth Ysgolion Cymraeg/ Dwyieithog Defnyddio UN iaith yn y dosbarth: Defnyddio DWY iaith yn y dosbarth: Defnyddio DWY iaith yn y dosbarth: wedi ei gynllunio heb ei gynllunio wedi ei gynllunio Addysgu a dysgu drwy’r Gymraegdisgyblion o gefndir Cymraeg Addysg drochidisgyblion o gefndir di-Gymraeg Addysgu a dysgu drwy’r Gymraegcyfuniad o ddisgyblion o gefndir Cymraeg & di-Gymraeg Athro yn ymateb i iaith y disgybl Trawsieithu Cyfieithu (dosbarth cyfan) Cyfieithu: cefnogi dysgwyr (Cymraeg a Saesneg) Cyfieithu: terminoleg Cyfuniad o drefniadau iaith Nodiadau ar gyfer : ”Gwahanol drefniadau iaith yn y dosbarth” • Mae’r diagram hwn yn ymgais i gategoreiddio y gwahanol fathau o drefniadau iaith yn y dosbarth. • Mae TRI phrif gategori: 1. Defnyddio un iaith: wedi ei gynllunio 2. Defnyddio dwy iaith: heb ei gynllunio 3. Defnyddio dwy iaith: wedi ei gynllunio • Tybed a ydy’r categorïau hyn yn gyfarwydd ichi? • Trafodwch y cwestiynau a welir ar y sleid nesaf. Defnyddio un neu ddwy iaith yn y dosbarth • O’ch profiad chi, ydy’r categorïau hyn yn cwmpasu y defnydd o un neu ddwy iaith o fewn addysg ddwyieithog yng Nghymru? • Oes trefniadaethau ieithyddol posibl eraill ? • Beth ydych chi’n ystyried ydy manteision ac anfanteision: - defnyddio un iaith yn y dosbarth ? - defnyddio dwy iaith yn y dosbarth ?