Beth ydyw Addysg Ddwyieithog?

Download Report

Transcript Beth ydyw Addysg Ddwyieithog?

Beth yw
addysg
ddwyieithog?
Gwahanol fathau o ‘addysg ddwyieithog’
Beth yw ystyr
‘addysg cyfrwng Cymraeg’
neu
‘addysg ddwyieithog’
ledled Cymru heddiw ?
Nodiadau ar gyfer y sleid
”Gwahanol fathau o ’addysg ddwyieithog’ ”
• Un agwedd o’r maes cyfrwng Cymraeg sydd wedi peri cryn
ansicrwydd ac amwysedd dros y blynyddoedd yw’r diffyg
eglurder o ran yr hyn a olygir gan dermau megis “cyfrwng
Cymraeg”, “dwyieithog” . . .’
• Beth sy’n ‘gyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog’ am y gyfundrefn?
Ai cefndir ieithyddol y plant ?
Ai natur y ddarpariaeth gwricwlaidd a’r modd y mae’r ddwy iaith
yn cael eu dyrannu ar draws yr oedrannau ac ar draws y
cwricwlwm ?
Ai’r deilliannau ieithyddol i’r disgybl unigol?
Cazden, C.B., & Snow, C.E. (eds.). (1990).
English Plus: Issues in Bilingual Education.
‘Bilingual education . . .
is a simple label for a
complex phenomenon.’
Colin Baker, ‘Bilingual Education in Wales’ yn Hugo
Baetens Beardsmore (gol.), European Models of
Bilingual Education, 1993,15.
‘There exists a wide variety of bilingual education
provision in Wales.
In between basically monolingual Welsh and
monolingual English schools in Wales, there is the
widest variety of practice of bilingual education.
The kaleidoscopic variety of bilingual educational
practice in Wales makes the production of a
simple typology inherently dangerous.’
Nodiadau ar gyfer y sleid flaenorol:
• Cyfeiriodd Baker(1993:15) at yr ‘amrywiaeth
caleidosgopig’ o ymarfer addysgol dwyieithog’ yn bodoli ar
draws Cymru.
•
Nid yw’n bosibl llunio teipoleg syml o addysg ddwyieithog yng
Nghymru.
•
Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain mae addysg gynradd ac
uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cynnwys disgyblion o sbectrwm
ieithyddol eang ac amrywiol (Lewis 2008:75).
•Amlygir “amrywiaeth”
(o ran methodoleg addysgu a modelau cynllunio) ac
“amrywiaith” (o ran proffil ieithyddol y disgyblion) yn yr
ysgolion a arsyllwyd.
Mae mwyafrif o’r dosbarthiadau dan sylw yn cynnwys disgyblion
o gefndir ieithyddol amrywiol, er enghraifft, siaradwyr Cymraeg
Iaith 1 ac Iaith 2, a siaradwyr nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg
yn iaith gyntaf iddynt.
• Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau dysgu gan athrawon.
• Yr ymchwil yma wedi canolbwyntio ar ddim ond 38 ysgol – o
ymestyn yr ymchwil, fe fydden ni wedi dod ar draws
amrywiaethau pellach.
Llywodraeth Cynulliad Cymru. (2009).
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg,
dogfen ymgynghorol, 5.1
‘Mae patrymau darpariaeth cyfrwng Cymraeg a
dwyieithog ledled Cymru yn gymhleth.
Ceir
gwahaniaethau
sylweddol
rhwng
awdurdodau o ran polisïau a roddir ar waith i
hyrwyddo a datblygu sgiliau iaith Cymraeg a
Saesneg.’
Mae ein hymchwil yn cytuno â hyn.
Llywodraeth Cynulliad Cymru. (2010).
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg,
para. 2.14
‘Bydd deilliannau ieithyddol y mathau
gwahanol hyn o ddarpariaeth yn amrywio’n
sylweddol . . .
Felly, nid yw darpariaeth ddwyieithog bob
amser yn sicrhau bod unigolyn yn
datblygu i fod yn siaradwr dwyieithog.’
Nodiadau ar gyfer y sleid flaenorol
• Cydnabyddir nad yw pob math o ddarpariaeth
ddwyieithog yn arwain at ddwyieithrwydd llawn yn
y Strategaeth: ‘Bydd deilliannau ieithyddol...
• Onid dyma’r maen prawf pwysicaf ynghylch beth
a olygir wrth ‘addysg ddwyieithog’ yng Nghymru
heddiw – bod plentyn ar ddiwedd ei gyfnod yn
yr ysgol yn gwbl hyderus yn ei ddefnydd o’r
Gymraeg a’r Saesneg?
‘cyd-ieithu’
‘co-languaging’
(Ofelia Garcìa)
(Ofelia Garcìa)
‘addysgu a dysgu yn
y sefyllfa
ddwyieithog’
(Cen Williams)
‘teaching and
learning in a
bilingual setting’
(Cen Williams)
Nodiadau ar gyfer y sleid ”Cyd-ieithu’
a ‘Co-languaging’ ”
• Mae Ofelia Garcia yn galw yr hyn a ddiffiniwyd
gan Cen Williams fel ‘addysgu a dysgu yn y
sefyllfa ddwyieithog’ yn ‘co-languaging’
• cyd-ieithu yn y Gymraeg?
Addysg Ddwyieithog
yng Nghymru
Addysgu a dysgu
dwyieithog
Defnyddio
un iaith
(e.e. modiwl C & S
arwahân)
Iaith y dosbarth:
Athro:
defnyddio un iaith
Disgybl :
defnyddio un iaith
Deilliant:
dwyieithrwydd
pob dysgwr
Defnyddio
dwy iaith
(e.e. trawsieithu)
Iaith y dosbarth:
Athro:
defnyddio dwy iaith
Disgybl:
defnyddio dwy iaith
Deilliant:
dwyieithrwydd
pob dysgwr
Addysgu a dysgu
mewn sefyllfa
ddwyieithog
Dosbarthiadau
C & S yn yr ysgol
Iaith y dosbarth:
Athro:
defnyddio un iaith
Disgybl:
defnyddio un iaith
Deilliant:
amrywio yn ôl
cefndir ieithyddol y
dysgwr
Grwpiau C & S
arwahân
yn y dosbarth
Iaith y dosbarth:
Athro:
defnyddio dwy iaith
Disgybl:
defnyddio un iaith
Deilliant:
amrywio yn ôl
cefndir ieithyddol y
dysgwr
Nodiadau ar gyfer y sleid ‘Addysg
Ddwyieithog yng Nghymru’”
• Dyma ymgais weledol i geisio dosbarthu a chategoreiddio gwahanol
drefniadaethau sy’n dod o dan ambarel ‘Addysg ddwyieithog’
• Mae’r diffiniad o addysg ddwyieithog yn gymhleth ac yn cwmpasu
amrywiaeth o sefyllfaoedd.
• Mae’n bosibl gwahaniaethu rhwng ‘addysgu a dysgu dwyieithog’
ac ‘addysgu a dysgu mewn sefyllfa ddwyieithog’.
•Mae ymgais i ddatblygu ddwyieithrwydd pob disgybl mewn dosbarth
dwyieithog.
•Canolbwyntio ar un iaith a wna’r disgybl mewn sefyllfa ddwyieithog.
Adnabod gwahanol fathau o
addysg ddwyieithog yng Nghymru
Gwaith trafod:
1. O’ch profiad chi, a yw’r dosbarthiad hwn yn
cwmpasu gwahanol fathau o ‘addysg
ddwyieithog’ yng Nghymru heddiw ?
2. Ydych chi’n cytuno/anghytuno gyda’r diffiniadau
hyn?
3. Ydych chi’n gallu adnabod categorïau
ychwanegol ?