Transcript Erbyn diwedd yr uned, byddwch chi wedi dysgu :
Erbyn diwedd yr uned, byddwch chi wedi dysgu :-
sut i labelu blodyn Swyddogaeth pob rhan o’r blodyn
Labelwch y deiagramau
deilen coesyn petal sepal anther gwreiddyn stigma
Petalau : Lliwgar i atynnu pryfed Coesyn : Dal y planhigyn i fyny er mwyn peillio Deilen : Gwneud bwyd i’r planhigyn. Mae angen goleuni ar y dail i wneud bwyd.
Stigma : Rhan benywaidd y blodyn. Mae hwn yn ludiog er mwyn dal y paill.
Anther : Darn gwrywaidd y blodyn. Yn yr anther mae’r paill.
Gwreiddyn : Mae’r gwreiddiau yn amsugno dwr a maethynnau o’r pridd. Maent hefyd yn angori’r planhigyn yn y pridd.
Sepal : Mae’r sepal yn amddiffyn y blodyn cyn iddo flaguro.
Stigma Petal Sepal Gwreiddyn Anther Deilen Coesyn