Pynciau Cyfarwydd

Download Report

Transcript Pynciau Cyfarwydd

Dw i’n hoffi merlota.
Mae ceffyl gyda fi o’r
enw Seren.
Dw i wrth fy modd
gyda’r certiau ond
mae’n gas gyda fi nofio
– mae’n ddiflas!!
Emma
11 oed
Yn fy marn i mae sgio
yn anhygoel. Mae’n her
ac yn hwyl. Beth
bynnag, mae’r twmpath
yn ofnadwy! Ych a fi!!
Caron
12 oed
Steffan
12 oed
Mae Llangrannog yn wych, yn
enwedig y gweithgareddau. Fy
hoff beth ydy’r trampolin ond dw
i’n hoffi gwibgartio hefyd achos
mae’n gyffrous. Hoffwn i ddod
eto – yn bendant!!
Jac
11 oed
LLANGRANNOG
1) Ydych chi’n cytuno gyda barn y bobl ifanc? Rhowch
resymau dros eich ateb.
2) Beth ydych chi’n hoffi am y gwersyll?
3) Beth dydych chi ddim yn hoffi?
4) Ydych chi wedi bod yn Llangrannog? (Pryd? / Gyda phwy?)
5) Hoffech chi fynd yno? Pam?
1) Do you agree with the opinions of the young people? Give
reasons for your answers
2) What do you like about the camp?
3) What don’t you like?
4) Have you been to Llangrannog? (When? / With who?)
5) Would you like to go there? Why?
Dw i’n hoffi pêl-droed ond
mae’n gas gyda fi rygbi .
Fy hoff chwaraeon i ydy tennis
achos mae’n hwyl. Dw i’n hoffi
golff hefyd. Dw i’n chwarae golff
gyda Dad bob dydd Sul.
http://www.flickr.com/photos/l
akelandlocal/6878293833/
I fod yn onest, dw i ddim yn hoffi
chwaraeon. Dw i ddim eisiau cadw’n
ffit. Mae’n well gyda fi wylio’r
teledu bob dydd. Mae’n ymlaciol!!
http://www.flickr.com/pho
tos/grahoo/4328065174/
Fy hobiau ydy
chwaraeon dŵr.
Dw i’n mwynhau
syrffio, sgio dŵr,
nofio a hwylio.
Dylai fod
chwaraeon dŵr ar y
cwricwlwm ysgol!
CHWARAEON
1)
Ydych chi’n cytuno gyda barn y bobl ifanc? Rhowch
resymau dros eich ateb.
2)
Beth ydy eich hoff chwaraeon chi?
3)
Beth dydych chi ddim yn hoffi?
4)
Ydy cadw’n ffit yn bwysig yn eich barn chi? Pam?
5)
Trafodwch sut rydych chi’n cadw’n ffit.
1)
Do you agree with the opinions of the young people?
Give reasons for your answers
2)
What are your favourite sports?
3)
What don’t you like?
4)
Is keeping fit important in your opinion? Why?
5)
Discuss how you keep fit.
http://www.flickr.com/photos/sxld/4609295582/
Dw i’n hoffi celf a
drama ond dw i ddim
yn hoffi hanes.
(Mari 14 oed)
http://www.flickr.com/photos/
armandolobos/4023567265/
Fy hoff bwnc i ydy
mathemateg achos
mae’n ddefnyddiol.
Hefyd, mae’r athro
mathemateg yn
ddoniol!
(Tara 13 oed)
Wel, dw i wrth fy modd yn
dysgu hanes ond mae’n well
gyda fi chwaraeon a
gwyddoniaeth. Mae chwaraeon
yn helpu cadw’n ffit ac mae
gwyddoniaeth yn ddiddorol
iawn. Rydyn ni’n gwneud
arbrofion yn y labordy bob
wythnos.
(Aled 14 oed)
http://www.flickr.com/photos/58847482@N03/5488322593/
PYNCIAU YSGOL
1) Ydych chi’n cytuno gyda Mari, Tara neu Aled?
Rhowch resymau dros eich ateb.
2) Beth ydy eich hoff bynciau? Pam?
3) Beth dydych chi ddim yn hoffi? Pam?
4) Trafodwch yr amserlen ddelfrydol.
1) Do you agree with Mari, Tara or Aled?
Give reasons for your answers
2) What are your favourite subjects? Why?
3) What don’t you like? Why?
4) Discuss the ideal timetable
Helen (Disgybl Ysgol 13oed)
Dw i ddim yn hoffi gwisg ysgol.
Mae’n ddiflas.
Yn fy marn i mae gwisg
ysgol yn syniad da.
Does dim ffws yn y bore.
Hefyd, mae pawb yn
edrych yn smart.
http://www.flickr.com/photos/t
hedigitalstory/3485565257/
http://www.flickr.com/p
hotos/therogue/3511510
629/
Dw i’n meddwl
bod gwisg ysgol
yn bwysig. Mae
pawb yn edrych
yn smart a does
dim cystadleuaeth.
Yn bendant,
http://www.flickr.com/photos/760
rhaid cael gwisg
29035@N02/6829448375/
ysgol.
Mr Dewi Wyn James (Pennaeth Ysgol)
Siw Griffiths (Mam)
I fod yn onest, does dim ots gyda fi. Mae
gwisg ysgol yn iawn fel arfer, ond mae’n
gallu bod yn anghyfforddus yn yr haf.
Hoffwn i wisgo dillad fy hunan weithiau –
dillad fel jîns,
crys T … Hefyd,
beth sy’n bod gyda
treinyrs? Mae
esgidiau du mor ddiflas
ac yn hen ffasiwn
ofnadwy!!
http://www.flickr.com/ph
otos/botheredbybees/708
Gareth (disgybl 15 oed)
648865/
GWISG YSGOL
1) Ydych chi’n cytuno gyda’r bobl yma?
Rhowch resymau dros eich ateb.
2) Disgrifiwch eich gwisg ysgol chi.
3) Beth hoffech chi wisgo i’r ysgol?
1) Do you agree with these people?
reasons for your answers
2) Describe your uniform.
3) What would you like to wear to school?
Give
Dw i’n siopa gyda ffrindiau bob
dydd Sadwrn.
Dw i’n
hoffi siopa
dillad achos
mae’n hwyl!
(Sara, 15 oed)
http://www.flickr.com/photos/rhinoneal/4368831646/
Dw i’n mwynhau siopa bob amser,
yn enwedig siopa mewn dinas. Dw
i’n hoffi Caerdydd ac Abertawe.
Mae’n anhygoel. Ond mae un
broblem!! Rhaid cael arian
http://www.flickr.com/phot
os/ttdesign/2505739132/
Merched sy’n hoffi siopa! Dim
bechgyn. Mae’n well gyda fi
chwaraeon.
Gwastraff amser
a gwastraff arian
ydy siopa
yn fy marn i!!!
(Marc, 14 oed)
http://www.flickr.com/photos/campascca/900868724/
O na! Mae’n gas gyda fi siopa, yn
enwedig siopa dillad. Mae’n ddiflas ac
mae’n ddrud.
Hefyd does dim
dewis da yn yr
ardal. Dw i ddim
yn hoffi siopa bwyd
http://www.flickr.com/p
chwaith. Mae mynd
hotos/balladist/21930361
09/
i Tesco gyda Mam
Owain
yn hunllef!!
(Elan 13 oed)
(14 oed)
SIOPA
1) Trafodwch sylwadau’r bobl ifanc.
chi’n cytuno gyda nhw? Pam?
2) Ble ydych chi’n siopa yn yr ardal?
(siopa dillad / siopa bwyd / siopa ar gyfer yr ysgol …)
3) Disgrifiwch adeg pan aethoch chi i siopa yn ddiweddar?
(Ble aethoch chi? / Gyda phwy? / Sut? / Beth brynoch chi? …)
1) Discuss the young people’s comments.
Do you agree with them? Why?
2) Where do you go shopping in the area?
(clothes shopping / food shopping / shopping for school …)
3) Describe a times when you went shopping recently?
(Where did you go? / With who? / How? / What did you buy? …)
Ydych
Cerys
Dw i’n byw yn y
ddinas. Mae’n
fendigedig achos
dw i’n gallu
siopa, siopa,
siopa …
http://www.flickr.com/photos/
merfam/402274007/
Dw i wrth fy modd
yn byw ar fferm yn y
wlad. Mae’n dawel
ac yn hwyl. Mae’n
gas gyda fi’r ddinas
gyda’r traffig a’r
llygredd!
Mae byw ar bwys y
traeth yn anhygoel!
Dw i’n gallu syrffio
bob dydd. Weithiau
hoffwn i fyw yn
Hawaii yn lle Sir
Benfro, ond fel arfer
dw i’n hapus iawn
yma.
http://www.flickr.com/phot
os/akras/3689950659/
http://www.flickr.com/photos/stev
enkiyoda/3132282153/
Does dim cartref
gyda fi nawr.
Roeddwn i’n
arfer byw gyda’r
teulu ond roedd
problemau.
Heddiw – dw i’n
byw ar y stryd ac
mae’n anodd.
Bethan
http://www.flickr.com/photos/amanky/5009212045/
Huw
Beca
Y CARTREF
1) Ble ydych chi’n byw? Ydych chi’n hoffi byw yno?
2) Hoffech chi newid lle gydag un o’r bobl ifanc yma? Pam?
3) Beth ydy manteision ac anfanteision y bobl ifanc?
1) Where do you live? Do you like living there?
2) Would you like to change places with one of theses young
people? Why?
3) What are the advantages and disadvantages of these young
people?
Dw i’n hoffi rygbi
achos mae’n hwyl.
Marc

Fy hobi i ydy
nofio. Mae’n
helpu cadw’n
ffit.
Jac
Dw i’n hoffi
merlota ond dw i
ddim yn hoffi hoci.
Mae’n ddiflas!
Ffion
-x-
http://www.flickr.com/photos/elinoel/4
651825746/
http://www.flickr.com/photos/walkingthedeepfield/3030766717/
http://www.flickr.com/photos/robertataylor/533288394/
GWAITH GRŴP
•
Ydych chi’n cytuno gyda Ffion, Jac a Marc? (Do you agree with Ffion, Jac and Marc?)
•
Beth ydych chi’n hoffi? Pam? (What do you like? Why?)
•
Beth dydych chi ddim yn hoffi? Pam? (What don’t you like? Why?)
Fy hoff bwnc
ydy hanes.
Mae’n
fendigedig.
Dw i’n hoffi
mathemateg ond dw
i ddim yn hoffi
Ffrangeg. Mae’n
ddiflas.
Yn fy marn i mae
technoleg yn hwyl.
Dw i’n hoffi drama
hefyd weithiau.
http://www.flickr.com/phot
os/moregoodfoundation/51
35115069/
http://www.flickr.com/photos/saritaag
erman/3454246912/
http://www.flickr.com/photos/
moregoodfoundation/494605
8968/
i. Beth ydy eich hoff bwnc ysgol? Rhowch reswm.(What’s your favourite school subject? Give a reason)
ii. Beth dydych chi ddim yn hoffi? Rhowch reswm. (What don’t you like? Give a reason)
iii.Ydych chi’n cytuno gyda’r bobl ifanc yma? Trafodwch.
(Do you agree with these young people? Discuss.)
Cymraeg Saesneg Ffrangeg Sbaeneg Mathemateg Gwyddoniaeth (Bioleg / Cemeg / Ffiseg)
Technoleg Gwybodaeth
Technoleg
Hanes Daearyddiaeth Addysg Grefyddol Tecstiliau Drama
Celf / Arlunio Miwsig / Cerdd Technoleg Bwyd Busnes Tiwtorial Chwaraeon Ymarfer Corff
Dw i wrth fy modd gyda’r Nadolig.
Mae’n amser i’r teulu. Fel arfer
rydyn ni’n mynd i sgio neu rydyn
ni’n mynd i’r Caribi. Mae torheulo ar
y traeth ar ddiwrnod y Nadolig yn
rhyfedd ond yn wych. Faswn i ddim
yn hoffi aros yng Nghymru.
(Sera 13 oed)
Ydw i’n hoffi’r Nadolig? Wel, dw i
ddim yn siwr. Mae problem gyda fi.
Dydd Nadolig ydy fy mhenblwydd i
hefyd. Y broblem – un set o
anrhegion ac mae pawb arall yn cael
anrhegion yr un pryd. Dydy fy
mhenblwydd i ddim yn arbennig.
Mae penblwydd fy chwaer ym mis
Awst ac rydyn ni’n cael parti, cacen a
llawer o hwyl. (Beth, 14 oed)
Yn fy marn i mae pobl yn mynd dros
be llestri yn ystod y Nadolig. Maen
nhw’n siopa bob dydd drwy’r dydd.
Maen nhw’n gwario gormod o arian.
Mae pobl yn yfed gormod ac mae
pobl yn bwyta gormod. Rydw i’n
hoffi’r carolau a’r tinsel ac hefyd
rydw i’n hoffi bod gyda’r teulu. Beth
bynnag mae pob yn anghofio am stori
Mair a Joseff a’r baban
Iesu. (Sam 13 oed)
Mae pawb yn hoffi’r Nadolig. Does
dim ysgol a does dim gwaith. Mae’n
anhygoel!! Fy hoff beth ydy’r cinio
gyda’r twrci a’r pwdin Dolig. Wrth
gwrs rydw i’n hoffi agor anrhegion
hefyd. I ddweud y gwir dyma fy hoff
adeg o’r flwyddyn. Mae’n
fendigedig. (Ifan 14 oed)
1. Wyt ti’n cytuno gyda’r bobl ifanc?
2. Wyt ti’n hoffi’r Nadolig?
3. Sut hoffet ti dreulio’r Nadolig?
HELPU YN Y TŶ
Pwy?
Ni?
Rydw i’n helpu yn y ty bob
Dw i ddim yn helpu yn y ty o
Dw i’n glanhau fy stafell bob wythnos.
dydd. Fel arfer rydw i’n golchi
gwbl. Dim gobaith. Dw i’n rhy
Does dim dewis gyda fi. Rheol Mam!!
llestri amser brecwast. Hefyd
brysur. Mae gwaith cartref gyda
Wedyn, dw i’n golchi car Dad pan dw i
rydw i’n helpu coginio bob
fi ac hefyd rydw i wedi blino yn
eisiau arian. Hefyd dw i’n torri’r lawnt.
nos. Rydw i’n mwynhau helpu
y nos. Rydw i wedi gweithio’n
Mae fy chwaer yn golchi’r ffenestri.
weithiau ond dw i ddim yn
galed yn yr ysgol. Gwaith merch
Mae’r arian yn dda. Hoffwn i gael
hapus i helpu pan mae operau
ydy gwaith ty. Dim gwaith
arian am lanhau fy stafell wely ond yn
sebon ar y teledu.
bachgen fel fi.
ol Mam dydy hynny ddim yn opsiwn!!
(Carrie 13 oed)
(Josh 14 oed)
(Cefin 13 oed)
Darllenwch am Carrie, Josh a Cefin.
i. Trafodwch helpu yn y ty.
ii. Sut ydych chi’n helpu yn y ty?
iii. Beth wnaethoch chi i helpu yn y tŷ wythnos
ddiwethaf?
Mae ofn llygod arna i. Mae
dwy gath gyda ni ac maen
nhw’n hoffi hela llygod.
Rwyn sgrechian bob tro.
Creaduriaid bach salw ydy
llygod yn fy marn i. (Jess)
Pan oeddwn i’n fach
roeddwn i’n ofni’r
tywyllwch. Doeddwn i ddim
yn gallu cysgu heb olau yn
Mae ofn adar arna i. Mae
ofn cŵn ar fy chwaer.
Mae ofn gwartheg ar
Mam. Mae ofn mamgu
ar Dad. Am deulu!!
(Dafydd)
.
fy stafell wely Hefyd
roedd ofn pryn cop arna i. I
fod yn onest mae hynny dal
yn wir heddiw (Jenna)
• Siaradwch am ofnau y bobl ifanc?
• Oes ofn unrhyw beth arnoch chi? Beth?
Oes ofn unrhyw beth arna i?
Nac oes i ddweud y gwir.
Dw i’n reit ddewr. Wel, dw
i’n un deg pedwar erbyn
hyn. Dw i’n fawr ac yn
gryf. Does dim ofn unrhyw
beth arna i. (Luke)
Hoffwn i fod yn ...
Hoffwn i fod yn athro
chwaraeon achos dw i wrth fy
modd gyda chwaraeon a dw
i’n hoffi gweithio gyda phobl
ifanc. Bydd rhaid imi astudio
chwaraeon yn y coleg. (Tim)
Rydw i eisiau bod fel Dad. Plymer ydy e ac
mae e’n gweithio’n galed bob dydd. Aeth e
ddim i’;r coleg ond mae busnes da gyda fe.
Hoffwn i weithio yn y busnes gyda Dad.
Bydd yn wych. (Ffred)
Hoffwn i
fod yn
astronot!
Hoffwn i fod yn gogydd fel Gordon
Ramsey a Jamie Oliver. Fy hobi ydy
coginio ac dw i’n astudio Technoleg
Bwyd yn yr ysgol. Baswn i’n hoffi
agor tŷ bwyta fy hunan. Dyam fy
mreuddwyd. (Elinor)
• Trafodwch sylwadau
y bobol ifanc.
• Beth hoffech chi wneud
yn y dyfodol? Pam?
• Pa swyddi ydych chi’n
meddwl fydd yn addas i
aelodau eich grŵp?
Yn fy marn i mae’r ysgol
yn iawn ond mae gwisg
ysgol yn syniad ofnadwy
ac mor hen-ffasiwn. Dylen
ni wisgo dillad ein hunain.
Dw i’n hoffi’r ysgol
fel arfer ond mae’n
gas gyda fi hanes
achos mae’r athro yn
llym bob amser.
Mae dyddiau ysgol yn
bwysig iawn. Rydych
chi’n dysgu llawer o
sgiliau newydd ac yn
gwneud ffrindiau da.
Dydy fy ffrind ddim yn
dod i’r ysgol. Mae ei
mam yn ei dysgu yn y
tŷ. Faswn i ddim yn
hapus gyda hynny –
dim o gwbl!
http://www.flickr.com/photos/rebeccagrace/352462292/
Dw i’n hapus
iawn yn yr
ysgol ond
weithiau dw i’n
blino gyda’r
rheolau.
person
1
YR YSGOL
person
2
person
3
1) Ydych chi’n cytuno gyda barn y bobl ifanc? Rhowch
resymau dros eich ateb.
2) Beth ydy eich hoff bynciau chi? Beth am eich cas bynciau?
3) Pa bynciau hoffech chi ddysgu?
4) Disgrifiwch wers dda a gawsoch chi’n ddiweddar.
1) Do you agree with the opinions of the young people? Give
reasons for your answers
2) What are your favourite subjects? What are your worst subjects?
3) What subjects would you like to learn?
4) Describe a good lesson that you had recently.
Problemau? Dim o
gwbl. Mae bywyd
person ifanc yn hawdd.
Does dim stress gyda ni
a does dim
cyfrifoldebau gyda ni.
Mae bywyd yn braf!
Yn bendant mae
problemau gyda
phobl ifanc heddiw.
Problemau fel smygu
ac yfed dan oed.
Oes, mae problemau
gyda ni, yn enwedig
gyda merched. Rhaid
bod yn denau. Rhaid
edrych fel model.
Mae’n anodd
weithiau! Dw i jyst
eisiau bod yn fi!!!
http://www.flickr.com/photos/kimmanleyort/410803888/
Dw i’n meddwl bod pobl ifanc
dan bwysau. Mae arholiadau
ysgol bob amser neu’r gwaith
cwrs. Wedyn mae rhieni a
ffrindiau yn gweiddi am sylw.
Mae amser hamdden felly mor
bwysig. Cadw’n ffit a bwyta’n
iach ydy’r ateb wrth gwrs.
Wel, dyna fy marn i!!
Person
1
PROBLEMAU
Perso
n
2
Person
3
1) Ydych chi’n cytuno gyda’r bobl ifanc? Rhowch resymau
dros eich ateb.
2) Beth ydy problemau pobl ifanc yn yr ardal hon?
3) Sut allen ni ddatrys y problemau?
1) Do you agree with the young people? Give reasons for
your answers
2) What are the problems of young people in this area?
3) How can we solve the problems?
Dw i’n dechrau
gweithio dydd Llun – ar
fferm yn yr ardal. Dw
i’n edrych mlaen. Dw i
reli eisiau bod yn
ffermwr.
O’r diwedd. Dim
mwy o waith ysgol.
Wel, am y tro. Dw i
eisiau astudio
Cymraeg, Hanes,
Drama a Mathemateg
yn y chweched ym
mis Medi. Ond am
nawr – parti, parti
parti …
Dw i’n bwriadu
mynd i’r coleg ym
mis Medi i astudio
harddwch. Bydd yn
brofiad da a bydd
digon o waith imi
yn y dyfodol.
http://www.flickr.com/photos/24859704@N07/3436162896/
Dw i wedi cael llond
bol o’r ysgol. Felly dw
i wedi cael prentisiaeth
gyda Gwyn Price,
plymwr yn yr ardal.
Bydda i’n mynd i’r
coleg unwaith yr
wythnos ac yn dysgu
yn y gwaith wedyn.
Dw i’n teimlo’n
gyffrous iawn.
Diolch byth. Hwyl fawr
Ysgol Greenhill. Mae’n
gas gyda fi’r ysgol. Dw
i’n siwr fy mod i wedi
methu’r arholiadau
TGAU a dw i ddim yn
gwybod beth i wneud
nesa. Ta beth, dw i’n
mynd i Sbaen am
wythnos nos Wener.
DIWEDD YR ARHOLIADAU
•
•
•
•
•
•
Trafodwch beth mae’r bobl ifanc yma’n gwneud ar ddiwedd
yr arholiadau
Beth ydych chi eisiau gwneud ar ôl yr arholiadau TGAU?
Pa ddewisiadau sydd ar gael?
Trafodwch sut hoffech chi ddathlu diwedd yr arholiadau
Discuss what these young people are doing at the end of the exams.
What do you want to do after the GCSE exams? What choices are
available?
Discuss how you would like to celebrate the end of the exams.
Does dim amser gyda phobl ifanc weithio
gyda’r nos neu ar y penwythnos. Mae
gwaith cartref gyda nhw.
Dw i ddim eisiau gweithio
– dim yn yr ysgol a dim
mewn gweithle. Mae’n
well gyda fi chwarae ar y
cyfrifiadur a gwrando ar
gerddoriaeth.
Dydy pobl ifanc ddim yn
gweithio’n galed yn yr ysgol – dim
y dyddiau hyn. Felly, dylen nhw
weithio ar y penwythnos. Rhaid
iddyn nhw ddysgu beth ydy
gwaith. Dechreuais i weithio yn 12
oed ac dw i wedi gweithio’n galed
bob dydd ers hynny.
Mae gwaith rhan amser yn
helpu dysgu sgiliau
newydd. Bydd yn helpu yn
y dyfodol hefyd. Beth yw’r
broblem?
Mae gwaith rhan
amser yn helpu
cynilo arian. Dw i
eisiau arian i fynd i’r
coleg. Hefyd dw i’n
dysgu gweithio mewn
tîm. Yn fy marn i
mae’n bwysig iawn.
GWAITH RHAN AMSER
•
•
•
•
•
•
•
•
Oes gwaith rhan amser gydag aelodau’r grŵp? (Ble? Pryd? …)
Ydych chi’n meddwl bod gwaith rhan amser yn syniad da?
Trafodwch ymatebion y bobl wahanol.
Beth ydy manteision ac anfanteision gwaith rhan amser?
Beth fyddai eich gwaith rhan amser delfrydol chi?
Do the members of the group work part time? (Where? When? …)
Do you think that part time work is a good idea? Discuss the
responses of the different people.
What are the advantages and disadvantages of part time work?
What would be your ideal part time job?
“Dydy pobl ifanc heddi ddim yn ymarfer digon.
Maen nhw’n gwastraffu amser o flaen y cyfrifiadur
neu’r teledu.” (Jack Griffiths, 57 oed)
“Yn fy marn i mae bwyta’n iach yn bwysig
iawn heddiw. Mae gormod o bobl ifanc yn
bwyta bwyd cyflym. Dydyn nhw ddim yn
poeni am y corff” (Sara Williams, 27 oed)
“I fod yn onest dw i’n hoffi cadw’n ffit ac
rydyn ni’n cadw’n ffit fel teulu. Dydy
plant ddim yn mynd i gadw’n ffit os
ydy’r rhieni yn gorwedd o flaen y
teledu bob dydd” (Dai Owen, 42 oed)
“ Dydy hi ddim yn
bwysig beth mae person
yn bwyta. Bod yn hapus
sy’n bwysig. A mwynhau
wrth gwrs!!” (Tom
Price 31 oed)
GOFALU AM Y CORFF
1. Ydy hi’n bwysig edrych ar ôl y corff? Beth ydych chi’n gwneud
i gadw’n ffit? (Ble? Pryd? Gyda phwy? …)
2. Trafodwch sylwadau’r bobl wahanol ar gadw’n heini a gofalu am
y corff.
3. Dydy un o’ch ffrindiau chi ddim yn cadw’n heini o gwbl. Rydych
chi eisiau perswadio fe / hi i ymuno â’r gampfa. Rhaid i chi
drafod eich rhesymau gyda’r grŵp.
1) Is taking care of your body important? What do you do to keep fit?
(Where? When? With who? …)
2) Discuss the different people’s comments on keeping fit and
looking after the body.
3) One of your friends doesn’t keep fit at all. You want to persuade
him / her to join the gym. You must discuss your reasons with
the group.
Wel, yn fy marn i mae dwy broblem gyda’r
cwricwlwm ysgol. Yn gyntaf, mae gormod o wersi
gwyddoniaeth ar yr amserlen. Dw i’n casau
gwyddoniaeth. Dw i ddim yn deall gwyddoniaeth.
Yn fy marn i mae’r cwricwlwm ysgol yn iawn. Dw i’n
Dw i’n cael wyth gwers o wyddoniaeth bob
hapus gyda’r dewis ar gyfer TGAU. Beth bynnag mae
pythefnos. Mae’n ofnadwy!
maint ambell ddosbarth yn broblem. Mae tri deg
Yn ail, does dim digon o
chwech person yn y dosbarth
chwaraeon ar yr amserlen.
Saesneg ac mae tri deg saith
Mae ystadegau yn dangos
person yn y dosbarth
bod gordewdra yn broblem
daearyddiaeth. Dydy hyn
ond dydy’r ysgol ddim yn
ddim yn deg.
helpu. (Josh, 14 oed)
(Meleri, 15 oed)
Dw i’n astudio deg pwnc TGAU
yn cynnwys gwyddoniaeth,
mathemateg, celf a sbaeneg. Mae
dewis da yn fy ysgol i. Beth
http://www.flickr.com/p
hotos/sbavido/47025727
bynnag, roeddwn i eisiau dysgu
20/
astudiaethau busnes hefyd ond
doedd hyn ddim yn bosibl. Mae’r ysgol arall yn y
dref yn cynnig astudiaethau busnes a drama.
Dydyn ni ddim. Problemau staffio oedd ateb y
pennaeth! Ond dylen ni fod yr un peth. Dw i ddim
eisiau symud ysgol. Mae fy ffrindiau yma.
(Marc, 15 oed)
Mae’n gas gyda fi ysgol. Mae’n wastraff amser. Ych a
fi!! Does dim diddordeb gyda fi. Dw i eisiau gweithio
mewn siop trin gwallt yn y dyfodol. Dw i ddim eisiau
dysgu Ffrangeg neu Hanes. I beth?
Does dim eisiau pynciau fel hyn
arna i. Dw i jyst eisiau gadael.
Dydy’r ysgol ddim iws i berson
fel fi.
(Kelly, 15 oed)
CWRICWLWM YSGOL
• Trafodwch eich pynciau TGAU. Ydych chi’n hapus gyda’ch dewis?
• Mae sawl barn gwahanol gyda’r 4 person ifanc yma. Ydych chi’n cytuno
neu anghytuno gydag un neu fwy ohonyn nhw? Rhowch resymau.
• Sut hoffech chi newid y cwricwlwm ysgol?
• Discuss your GCSE subjects. Are you happy with your choice?
•These 4 young people have a number of different opinions. Do you agree or
disagree with one or more of them. Give reasons.
• How would you like to change the school curriculum?
Yn fy marn i mae cadw
anifeiliaid mewn sw neu syrcas yn
greulon. Dylai anifeiliaid gwyllt aros
yn y jyngl.
Gwelais i raglen
deledu yn ddiweddar
yn trafod ieir batri.
Mae’n greulon. Mae
gormod o ieir mewn caets
a dydyn nhw ddim
yn cael awyr iach
o gwbl.
Dw i’n byw yn y wlad. Felly, dw i’n
cytuno gyda hela’r llwynog. Dydy
hyn ddim yn greulon. Hefyd mae’n
ffordd dda i gadw’n ffit ac
i ymlacio.
I fod yn onest, dw i wrth fy modd yn gweld
asynnod ar y traeth. Maen nhw’n ciwt ac yn hoffus.
Maen nhw’n hoffi gweithio – yn bendant!
Rhaid dweud – mae arbrofi ar anifeiliaid yn anghywir.
Does dim esgus arbrofi ar lygod neu fwnciod, yn enwedig
ar gyfer colur. Mae’n warthus!
ANIFEILIAID
Ymatebwch i’r swigod. Ydych chi’n cytuno neu anghytuno gyda’r pwyntiau?
(Respond to the bubbles. Do you agree or disagree with the points?)
Mae’r lluniau yn cyfeirio at dopigau gwahanol yn ymwneud ag anifeiliaid.
Trafodwch un o’r pynciau yn fanwl gyda’r grŵp.
(The pictures refer to different topics to do with animals. Discuss one of the topics
thoroughly with the group)
e.e.
Cadw anifeiliaid gwyllt mewn sw (keeping wild animals in a zoo)
Anifeiliaid yn gwneud triciau mewn syrcas (animals doing tricks in the circus)
Nofio gyda dolffiniaid (swimming with dolphins)
Hela’r llwynog / cadno (fox hunting)
Asynnod ar gweithio y traethau (donkeys working on the beach)
Arbrofi ar anifeiliaid (experimenting on animals)
Es i ar wyliau i Awstralia. Roedd yn brofiad
anhygoel. Yn fy marn i mae’n bwysig i deithio i
wledydd eraill. Mae Cymru mor ddiflas!! (Sam)
Dw i ddim yn mynd ar wyliau. Mae pob peth
yma yng Nghymru. Mae cymaint i wneud a
digon i weld. Does dim eisiau teithio tramor.
Dim diolch (Ceri)
Rydyn ni’n mynd ar wyliau bob
blwyddyn ond yn fy marn i mae’n
ddiflas. Byddai’n well gyda fi aros adre
gyda ffrindiau ond mae fy rhieni yn
dweud bod yn bwysig gwneud
rhywbeth fel teulu. Eleni, aethon ni i
Ffrainc a’r llynedd aethon ni i’r Eidal. I
fod yn onest mae’n wastraff arian. (Nia)
Dw i’n hoffi mynd ar wyliau antur gyda ffrindiau. Dw i’n dysgu
sgiliau newydd ac um gwneud ffrindiau newydd. Dim ond un peth
sy’n sbwylio’r gwyliau – ciwiau yn y maes awyr! Am ofnadwy.
(Matt)
Dw i’n byw yn Doc Penfro a does dim byd i
wneud yma, Mae’n ddiflas. Does dim siopau da
yma ac mae’n ganolfan hamdden yn ddrud.
Does dim gwaith yma chwaith. I fod yn onest,
mae’r ysgol yn well na gwyliau’r haf. Am
drist!! (Geraint)
GWYLIAU
1.
Ble ydych chi’n mynd ar wyliau fel arfer? (Gyda phwy? Pryd? …)
2.
Trafodwch sylwadau’r pump person ifanc.
3.
Disgrifiwch wyliau da neu wyliau drwg a gawsoch chi yn y gorffennol.
4.
Disgrifiwch eich gwyliau delfrydol.
1) Where do you usually go on holiday? (With who? When? …)
2) Discuss the comments of the five young people
3) Describe a good or bad holiday that you have had in the past.
4) Describe your ideal holiday.
Nawr, meddyliwch am drip i’r Adran Gymraeg.
Ble allech chi fynd? Pryd? Beth fydd pwras y trip? …
Now, think of a trip for the Welsh Department.
Where can you go? When? What would be the purpose of the trip?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn chwech oed yn yr ysgol
gynradd. Dw i wrth fy modd yn dysgu Cymraeg erbyn
hyn ac hoffwn i astudio Cymraeg yn y chweched. Yn fy
marn i mae’n bwysig i siarad iaith y wlad. Hefyd bydd
siarad Cymraeg yn helpu gyda gwaith yn y dyfodol.
(Sasha, 16 oed)
Yn fy marn i mae dysgu
Cymraeg yn bwysig. Dw i
eisiau siarad Cymraeg gyda
fy merch (Efa, 5 wythnos
oed). Felly, dw i’n mynd i
ddosbarth nos Cymraeg.
Mae’n hwyl ac dw i wedi
gwneud llawer o ffrindiau
newydd hefyd. Wedyn mae
cylch Ti a Fi – mae pawb yn
dysgu neu yn siarad
Cymraeg. Mae Efa mor
lwcus. Bydd hi’n
ddwyieithog. (Caron, 24 oed)
Mae ffrindiau gyda fi mewn
ysgol ddwyieithog. Dw i eisiau
deall Cymraeg felly achos
maen nhw’n siarad Cymraeg
bob amser. Hefyd mae cariad
newydd gyda fi ac mae e’n
siarad Cymraeg.
Mae teulu Ben yn siarad
Cymraeg hefyd. Felly, mae
dysgu Cymraeg yn bwysig
iawn imi nawr. Pwysig iawn
iawn!!
Dw i’n gweithio’n galed yn y
wers Gymraeg nawr. Dydy’r
athro ddim yn deall beth sydd
wedi digwydd!! Dw i’n
mynd i gael A* yn yr arholiad
TGAU (Emma, 15 oed)
Ces i fy ngeni yn Llundain. Symudais i
Sir Benfro yn un deg tri oed. Ces i sioc
– roedd rhaid imi ddysgu Cymraeg. Dw
i ddim yn hoffi’r ysgol a dw i ddim yn
hoffi Saesneg a Ffrangeg. Felly mae
dysgu Cymraeg yn boen!! Dw i ddim
yn gallu dysgu iaith newydd. Mae’n
anodd. Beth bynnag, rhaid bod yn onest
– dw i ddim yn hoffi dysgu unrhyw
beth. Dw i jyst eisiau gadael yr ysgol.
Mae siop sglodion
gyda Dad. Dw i’n
hapus yno. Does
dim eisiau TGAU arna i.
(Iwan, 14 oed)
Dw i’n hoffi cyflogi pobl sy’n
siarad Cymraeg. Mae’n
ddefnyddiol iawn yn y gweithle.
Hefyd mae sgiliau cyfathrebu da
gyda phobl ddwyieithog. Hefyd
maen nhw eisiau gweithio.
(Mark James, rheolwr cwmni)
DYSGU CYMRAEG
Mae pob person ifanc yn Nghymru yn dysgu Cymraeg tan yn 16 oed. Ydy hyn yn
syniad da? Trafodwch eich profiadau chi o ddysgu Cymraeg yn eich grŵp.
•
Beth ydy manteision dysgu Cymraeg?
•
Mae llawer o bobl yn penderfynu dysgu Cymraeg nawr. Pam?
Defnyddiwch y deunydd darllen fel sbardun i’ch trafodaeth.
Every young person in Wales learns Welsh until they are 16 years old. Is this a good
idea? Discuss your experiences of learning Welsh with the group.
•
What are the advantages of learning Welsh?
•
Many people are deciding to learn Welsh now. Why?
Use the reading material as a basis for your discussion.
Fy hobi ydy siopa. Mae’n wych. Beth bynnag
does dim siopau da yn yr ardal.
Dw i’n hoffi siopa yng Nghaerdydd ac
Abertawe.
Mae dilyn ffasiwn yn bwysig. Rhaid edrych
yn dda.
(Gwenno, 16 oed)
Yn fy marn i mae siopa dillad yn hwyl ond
mae’n gallu bod yn ddrud. I fod yn onest dw i’n
prynu dillad yn Primark a Tesco.
Beth ydy’r broblem? Mae’r dillad yn dda ac yn
rhesymol. Mae ffasiwn yn newid bob amser.
Hefyd mae siopau fel Monsoon a Next yn
ddrud.
(Kelly, 15 oed)
Siopa dillad? Am wastraff amser!! Mae’n gas
gyda fi siopa – mae’n ofnadwy.
Mae’n ddrud! Mae’n ddiflas ac mae’n boen.
Mam sy’n prynu dillad i fi. Dydy ffasiwn ddim
yn bwysig. Dw i’n byw
mewn jîns, crys T a
treinyrs. Dim problem!!
( Justin, 14 oed)
“Merched sy’n hoffi ffasiwn” – dw i ddim yn
cytuno gyda hyn. Bachgen ydw i ac dw i’n
hoffi ffasiwn. Dw i’n hoffi edrych yn smart ond
hefyd dw i eisiau bod yn
gyfforddus. Mae’n gas gyda
fi ddillad hen ffasiwn ac dw
i’n casau gwisg ysgol. Dw i
ddim yn hoffi’r lliw glas a
brown chwaith,
Fy hoff liwiau ydy du a llwyd ond weithiau dw
i’n hoffi gwisgo coch. Wel, mae’n wahanol ac
mae’n well na gwisgo pinc!! (Owain, 17 oed)
SIOPA DILLAD
• Ydych chi’n hoffi siopa dillad? Ble? Pryd? Gyda phwy?
• Pwy sy’n debyg i chi? Gwenno, Justin, Kelly neu Owain? Trafodwch hyn.
• “Does dim rhaid gwisgo labelau drud i fod yn ffasiynol!” Ymatebwch.
• Do you like clothes shopping? Where? When? With who?
• Who is similar to you? Gwenno, Justin, Kelly or Owain? Discuss this.
• “You don’t need expensive labels to be fashionable!”. Respond.
lliwiau
steil
anorecsia
pwysau ffrindiau
modelau
archfarchnad
colur
sioe ffasiwn
diffyg arian
tatŵ
costau
steil gwallt
maint
dylanwad
bod yn ymarferol / bod yn gall
Does dim llawer o amser
hamdden gyda fi achos mae
gwaith rhan amser gyda fi.
Dw i’n gweithio mewn caffi
yn y dref. Beth bynnag dw
i’n hoffi gwylio operau sebon
ar y teledu neu weithiau dw
i’n mynd i’r clwb nos gyda
ffrindiau. (Mared, 16 oed)
Fel arfer dw i’n mynd i’r
sinema gyda ffrindiau yn fy
amser hamdden. Weithiau
rydyn ni’n bowlio deg hefyd.
Cymdeithasu sy’n bwysig imi.
(Nia, 15 oed)
Yn fy amser
hamdden dw i’n
hoffi chwarae
rygbi a golff. I fod
yn onest mae
cadw’n ffit yn
bwysig iawn imi
achos dw i ddim
eisiau bod yn dew.
Gwastraff amser
ydy gwylio’r teledu.
(Hywel, 14 oed)
http://www.flickr.com/photos/nikkijwragg/2001628868/
Wel, dw i’n hoffi darllen yn fy amser hamdden ac
hefyd dw i’n hoffi ffilmiau arswyd. Wedyn, dw i’n
mwynhau syrffio ar y penwythnos gyda ffrindiau.
I fod yn onest mae llawer o hobiau gyda fi. Felly,
does dim ots am y tywydd – mae digon gyda fi i
wneud. Mae’n wych. (Rhys, 15 oed)
AMSER HAMDDEN
1.
Beth ydych chi’n gwneud yn eich amser hamdden?
2.
Beth sydd ar gael i bobl ifanc yn yr ardal? Beth hoffech chi gael?
3.
Darllenwch am Nia, Hywel, Mared a Rhys. Gyda phwy hoffech chi dreulio
amser? Rhowch resymau.
4.
Mae amser hamdden yn bwysig. Pam?
1) What do you do in your leisure time?
2) What is available for young people in the area? What would you like to have?
3) Read about Nia, Hywel, Mared and Rhys. Who would you like to spend time
with? Give reasons.
4) Leisure time is important. Why?
Beth ydy dy hoff bwnc?
Dw i’n hoffi chwaraeon
achos mae’n hwyl.
Fy hoff bwnc ydy drama achos
dw i’n hoffi actio.
1. Beth ydy dy hoff bwnc?
Pam?
2. Beth ydy dy gas bwnc?
Pam?
3. Wyt ti’n cytuno gyda’r
bobl ifanc? Pam?
PYNCIAU
YSGOL
Yn fy marn i mae hanes
yn fendigedig. Mae’r
athro yn neis.
Weithiau dw i’n hoffi Cymraeg
ond weithiau dw i’n hoffi Technoleg
Cymraeg Ffrangeg Sbaeneg
Almaeneg Saesneg Mathemateg
Hanes Daearyddiaeth
Gwyddoniaeth Addysg Grefyddol
Celf Miwsig
Technoleg
Chwaraeon Drama
Technoleg Gwybodaeth