Gloywi Iaith Siân Esmor, Canolfan Bedwyr

Download Report

Transcript Gloywi Iaith Siân Esmor, Canolfan Bedwyr

Gloywi Iaith
Siân Esmor, Canolfan Bedwyr
Cynhadledd Tiwtoriaid
Cymraeg i Oedolion
Gogledd Cymru
22 Hydref 2011
Nod y sesiwn
• Cadarnhau ac atgyfnerthu’r hyn yr ydym eisoes
yn ei wybod
• Edrych ar rai pwyntiau ieithyddol sy’n medru
achosi poen meddwl i diwtoriaid
• Rhoi’r hyder i chi ymdrin â’r pwyntiau hynny
• Mewn geiriau eraill, mynd i’r afael â’r bwgan
hwnnw o’r enw…..
• GRAMADEG!
Rhannau ymadrodd
• Partner A + Partner A, Partner B + Partner B:
Darllenwch y disgrifiadau o’r rhannau ymadrodd
sydd gennych gan sicrhau eich bod yn deall yr
esboniadau
• Partner A + Partner B:
Esboniwch y rhannau ymadrodd ar eich taflen
chi i’ch partner newydd
• Yna parwch y geiriau sydd wedi eu hamlygu yn y
darn gyda’r rhannau ymadrodd ar yr ail daflen
Cwmni Seren Arian wedi’i atgyfodi
(o wefan golwg360.com)
• Mae cwmni Seren Arian wedi’i atgyfodi fel Gwyliau Seren
Arian Cyf ar ôl i ddyn busnes brynu’r cwmni aeth i ddwylo’r
gweinyddwyr ddechrau’r mis.
• Mae rheolwyr blaenorol Seren Arian wedi cyhoeddi heddiw
eu bod wedi ail strwythuro ac ail agor cwmni newydd a fydd
yn gweithredu fel Gwyliau Seren Arian. Mae’r staff i gyd – ac
eithrio dau - wedi cael eu swyddi’n ôl, meddai’r rheolwr
cyffredinol wrth Golwg360.
• Fe aeth un o gwmnïau gwyliau enwoca’ Cymru i ddwylo’r
gweinyddwyr ddechrau fis Hydref. Fe gollodd 12 o bobl eu
gwaith gyda chwmni Seren Arian o Gaernarfon, sydd wedi
bod yn trefnu gwyliau gartre’ a thramor ers mwy nag 20
mlynedd.
• Roedd y cwmni wedi cau ei swyddfa yn Wrecsam
ynghynt eleni.
Dewch o hyd i’r rhain yn y darn
•
•
•
•
•
•
•
•
•
•
•
•
•
•
•
Enw gwrywaidd unigol
Enw benywaidd unigol
Enw lluosog
Enw priod
Rhagenw
Ansoddair
Cysylltair
Berfenw
Berf gryno
Berf gwmpasog
Goddrych berf
Gwrthrych berf
Adferf
Arddodiad
Y fannod
Atebion
Enw gwrywaidd unigol
Enw benywaidd unigol
Enw lluosog
Enw priod
Rhagenw
Ansoddair
Cysylltair
Berfenw
Berf gryno
Berf gwmpasog
Goddrych berf
Gwrthrych berf
Adferf
Arddodiad
Y fannod
cwmni
swyddfa
rheolwyr
Gwyliau Seren Arian Cyf.
eu
newydd
a
trefnu
aeth
Roedd y cwmni wedi cau
12 o bobl
eu gwaith
heddiw
o
(ddwylo)’r
Ateb cwestiynau dysgwyr – pam?
• yn ddysgwr
• yn dda
ond
• yn dysgu Cymraeg
ac yn Ninbych
• Pam?
• Treiglad meddal mewn enw ac ansoddair ar ôl
‘yn’ traethiadol. Dim treiglad mewn berfenw.
• Treiglad trwynol ar ôl yr arddodiad ‘yn’ (=in)
Pam?
• y gath
yr _ardd
• y baned
y faled
• y delyn
y ddiod
OND
y llyfrgell, y rhaw
y faneg
• Nid yw ll a rh yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod
mewn enw benywaidd unigol
• Cofiwch:
yn
y mor
cyn
un
Pam?
• Rydw i’n ysgrifennu llythyr
• Ysgrifennaf lythyr
• Ysgrifennir llythyr
• Mae gwrthrych berf gryno bersonol yn treiglo’n
feddal.
• Nid yw gwrthrych berf gwmpasog yn treiglo.
• Nid yw gwrthrych berf amhersonol yn treiglo.
Pam?
• Dydd Llun yw fy hoff ddiwrnod
• Rydw i’n dysgu’r modiwl gloywi ar ddydd Llun
• Byddaf yn y swyddfa ddydd Llun
•
•
•
•
Dydd Llun = y diwrnod
Ar ddydd Llun = ‘on a Monday’, h.y. yn arferol
Ddydd Llun = ‘on Monday’
Yn y frawddeg olaf, mae ‘dydd Llun’ yn
gweithredu fel adferf, ac felly’n treiglo’n feddal.
Pam?
• Cefais glywed manylion y cyfarfod
• Cyhoeddwyd dyddiad y cyfarfod nesaf
• Cefais glywed rai dyddiau wedyn fanylion y
cyfarfod
• Cyhoeddwyd ar unwaith ddyddiad y cyfarfod
nesaf
• Treiglad meddal yn dilyn sangiad, sef ymadrodd
sy’n torri ar draws rhediad y frawddeg
Pam?
• Os bydd hi’n braf yfory, mi gaf fynd am dro ar fy
meic newydd
• Pe bawn i yn artist, mi dynnwn lun rhyfeddod y
machlud dros Benrhyn Llŷn
• Gofynnais iddo a gawn i ganiatâd i fynychu’r
gynhadledd
• Mae’n bosib’ cyfieithu’r tri i’r Saesneg fel ‘if’ – a
dyna’r broblem i’r dysgwyr
Pam?
• Os = amod pendant (‘if’)
h.y. dim ond os bydd hi’n braf y caf fynd ar y beic
• Pe = amod ag elfen o amheuaeth yn perthyn
iddo
h.y. does dim sicrwydd o gwbl fy mod i’n artist,
nac yn debygol o fod yn un chwaith.
• Mae’r dysgwyr yn adnabod hwn fel patrwm
‘taswn’ (Pe buaswn>Petaswn>taswn)
• A holiadol = cyflwyno cwestiwn anuniongyrchol.
Mae elfen o gwestiwn yma (‘whether’)
Pam?
• Penderfynu i fynd
OND
• Mynd i nofio √
• Paratoi i adael √
X
cytuno i chwarae √
tueddu i gytuno √
• Nid oes angen ‘i’ o flaen berfenw yn y Gymraeg.
Mae’n gyflawn heb yr arddodiad. Ond yn yr
enghreifftiau isaf, mae’r arddodiad ‘i’ yn dod
gyda’r berfenw o’i flaen ac felly mae’n gywir.
Llyfrau defnyddiol
Gwallau gramadegol cyffredin
• Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr
• Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu
Llyfrau defnyddiol
Treiglo
• Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr
• Y Treigladur
• Taclo’r Treigladau
Llyfrau defnyddiol
Berfau
• Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr
• Y Llyfr Berfau
Llyfrau defnyddiol
Meddwl yn Saesneg
• Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr
• Pa Arddodiad?
Llyfrau defnyddiol
Gramadeg gyffredinol
• Gramadeg Cymraeg Cyfoes/
Welsh Contemporary Grammar (CBAC)
• Gramadeg y Gymraeg
(Peter Wynn Thomas)
• Cymraeg Da
(Heini Gruffudd)
Manylion cyswllt
• Siân Esmor
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor
Dyfrdwy
Ffordd y Coleg
Bangor, Gwynedd
LL57 2DG
• (01248) 383247 / 383293
• [email protected]