Oedfa Pasg: Y Ceidwad - Ppt

Download Report

Transcript Oedfa Pasg: Y Ceidwad - Ppt

Iesu, pwy all fod yn fwy na thi?
Iesu, ti yw ’ngobaith i,
Iesu, ti yw ’mywyd i,
Iesu, fy nghyflawnder i,
Iesu, caraf di.
Iesu, daethost gynt i’n daear ni,
Gwisgo cnawd a wnaethost ti,
Yn ddibechod rhodiaist ti
Er mwyn dod i’n hachub ni,
Iesu caraf di.
Iesu, gwrando ar fy egwan gri,
Llanw fi a’th Ysbryd di,
Rho im nerth i fyw i ti,
Profi o’th lawenydd di,
Iesu, caraf di.
Iesu, ar y groes fe’m prynaist i,
Drosof rhoist dy waed yn lli,
golchaist fi ar Galfarî,
ynot mae ngorfoledd i,
Iesu, ceraist ni
Iesu, do, fe atgyfodaist ti,
drylliaist rym y bedd i mi,
caf ryw ddydd dy weled di
a’th dragwyddol foli di,
Iesu, caraf di.
Caneuon Ffydd: 423
O’r fath Geidwad rhyfeddol yw Iesu,
O’r fath Geidwad rhyfeddol i ni;
Gan roi heibio ogoniant y nefoedd
Daeth ei hun i’w groes ar Galafarî.
Cân Hosanna, cân Hosanna,
Cân Hosanna rown i Frenin nef:
Cân Hosanna, pêr Hosanna
Cân Hosanna iddo ef.
Atgyfododd o’r bedd, Haleliwia!
A bydd yntau am byth yn fyw;
Ar ddeheulaw y Tad heddiw’n eiriol,
Gwrando’n cri a wna er gwanned yw.
Cân Hosanna, cân Hosanna,
Cân Hosanna rown i Frenin nef:
Cân Hosanna, pêr Hosanna
Cân Hosanna iddo ef.
Ond mae’n dyfod ryw ddiwrnod i’n
cymryd,
Cawn ein dwyn ato’n ddiogel i’r nef;
O’r llawenydd i ni fydd ei weled,
A rhoi clod am byth i’w gariad ef.
Cân Hosanna, cân Hosanna,
Cân Hosanna rown i Frenin nef:
Cân Hosanna, pêr Hosanna
Cân Hosanna iddo ef.
Caneuon Ffydd: 398
Hawlfraint © Y Parchg William T.E. Owen, 35 Maes Ceiro, Bow Street, Aberystwyth, SY23 5BG
Dwylo ffeind oedd dwylo
Iesu ym mhob man,
Yn iacháu y cleifion
a bendithio’r gwan;
Golchi traed blinedig,
dal rhai isa’r byd,
Dwylo ffeind oedd dwylo
Iesu Grist o hyd.
Cymer di fy nwylo,
Arglwydd Iesu, nawr;
Gwna hwy’n gryf i rannu
Caredigrwydd mawr;
Gad i mi dy wylio,
Iesu, ar fy nhaith,
Nes troi’n ffeind fy nwylo
innau yn dy waith.
Caneuon Ffydd: 372
Hawlfraint © y Parch. Dafydd Owen,
18 Ffordd Fictoria, Hen Golwyn Conwy
Hapus wyt fi am fod Iesu’n y nef
Heddiw’n fy ngharu,
fy Ngheidwad yw ef:
Dweud mae y Beibl
y gwrendy fy nghri,
Iesu sy’n rhoddi ei gariad i mi.
Iesu sy’n rhoi ei gariad i mi,
cariad i mi, cariad i mi,
Iesu sy’n rhoi ei gariad i mi,
cariad i mi bob dydd.
Weithiau anghofiaf
A chrwydraf ymhell,
Yntau sy’n maddau
A’m caru yn well,
Rhoddi mae Iesu
ei hunan i gyd,
Dweud am ei gariad
wnaf finnau o hyd.
Iesu sy’n rhoi ei gariad i mi,
cariad i mi, cariad i mi,
Iesu sy’n rhoi ei gariad i mi,
cariad i mi bob dydd.
Mawl fo i’r Arglwydd
bob diwrnod o’m hoes,
Canaf am fawredd
ei gariad a’i groes;
Hapus yw ’mywyd
a llon yw fy nghri,
Iesu sy’n rhoddi ei gariad i mi.
Iesu sy’n rhoi ei gariad i mi,
cariad i mi, cariad i mi,
Iesu sy’n rhoi ei gariad i mi,
cariad i mi bob dydd.
Caneuon Ffydd: 402
Philip Bliss cyf Eddie Jones
Hawlfraint © Y Lolfa, Tal-y-bont, Ceredigion. SY24 5AP