Canllawiau Ysgrifennu Portread

Download Report

Transcript Canllawiau Ysgrifennu Portread

Llun o berson gan arlunydd neu awdur yw portread.
Defnyddio pensil neu baent mae arlunydd i greu darlun o
berson. Mae awdur yn defnyddio geiriau i greu ei ddisgrifiad
o berson. Mae’n disgrifio golwg a personiaeth ac yn dweud
tipyn o hanes y person.
Golwg
Personoliaeth
Hanes
Gweithredoedd
Ysgrifennu Portread
• Bydd rhaid i chi syllu ar wahanol bobl.
Er mwyn llwyddo i
ysgrifennu portread
bydd rhaid i chi
ymddwyn fel
ditectif!
• Bydd rhaid i chi sylwi ar beth mae pobl yn ei wisgo.
• Bydd rhaid i chi sylwi ar beth mae pobl yn ei ddweud a'r
ffordd maen nhw'n siarad.
• Bydd rhaid i chi sylwi ar y ffordd mae pobl yn ymddwyn ac
weithiau'n teimlo.
• Os byddwch yn sylwi ar y pethau bach - y pethau sy'n
gwneud un person yn wahanol i bawb arall yn y byd –
bydd eich portread yn un gwych!
Creu darlun o gymeriad
Er mwyn cael darlun llawn o berson bydd rhaid i chi:
• ddisgrifio golwg,
• disgrifio personoliaeth,
Golwg
Hanes
• disgrifio gweithredoedd,
• disgrifio hanes
Personoliaeth
Gweithredoedd
Mae pawb yn wahanol! Rydym yn edrych yn
wahanol i’n gilydd ac mae ein cymeriad yn
wahanol hefyd.
Dynes dal, denau oedd Nain Tyddyn Gwyn.
Roedd ganddi lygaid mawr crwn fel dwy
soser, trwyn bach smwt ac anferth o geg
lydan a edrychai’n union fel ceg clown.
Roedd ei chroen wedi crebachu fel petai
hi wedi bod yn y bath am ddwy flynedd.
Roedd Nain Bryn Melyn, ar y llaw arall, yn
bwten fach grwn gyda gwallt gwyn, cyrliog.
Gwisgai sbectol fach hanner lleuad ar
flaen ei thrwyn a mwclis mawr lliwgar am
ei gwddf bob amser. Roedd ganddi fochau
coch fel dwy bêl griced oedd yn neidio i
fyny at ei llygaid pan fyddai’n chwerthin.
Darllenwch y disgrifiadau eto
a thynnwch luniau ohonyn nhw!
Cofiwch ddisgrifio’r person o’r corun i’r sawdl neu o’r sawdl
i’r corun.
Dyma enghraifft:
Geneth efo gwallt brown, cyrliog, coesau
main a thrwyn smwt oedd Sara. Roedd
ganddi fochau coch a thraed anferth.
Mae'r enghraifft hon yn well!
Geneth efo gwallt brown, cyrliog, trwyn
smwt a bochau coch oedd Sara. Roedd
ganddi goesau main a thraed anferth.
Enghraifft
Gwallt du, pigog sydd gan Arwel gwallt sy'n wahanol i wallt pawb arall
yn y dosbarth! Mae ganddo wyneb
crwn a dwy glust eithaf mawr fel rhai
Gwilym, ei dad-cu! Mae ganddo lygaid
glas a brychni haul yn gorchuddio ei
wyneb. Mae ei ddannedd yn gam a’i
wên yn ddireidus.!
Wyneb main a chul sydd gan Morgan
ac arno fop o wallt coch! Pan mae
o'n codi yn y bore mae ei wallt yn
debyg i bigau draenog! Mae ei
ddillad bob amser yn flêr a dydy o
ddim yn poeni rhyw lawer am
ffasiwn. Mae ei lygaid bach glas yn
disgleirio fel dwy farblen a’i
wefusau fel twll botwm o dan ei
drwyn hir. Mae’n gwgu bob amser!
Er mwyn creu darlun llawn o'r person, mae defnyddio
ansoddeiriau'n bwysig.
Edrychwch ar y disgrifiad ac uwcholeuwch yr
ansoddeiriau.
• Beth ydy eich barn chi am y dewis o ansoddeiriau?
• Ydy’r ansoddeiriau’n addas?
Trafodwch gyda phartner.
Wyneb main a chul sydd gan Morgan ac
arno fop o wallt coch! Pan mae o'n codi yn
y bore mae ei wallt yn debyg i bigau
draenog! Mae ei ddillad bob amser yn
flêr a dydy o ddim yn poeni rhyw lawer
am ffasiwn. Mae ei lygaid bach glas yn
disgleirio fel dwy farblen a’i wefusau fel
twll botwm o dan ei drwyn hir. Mae’n
gwgu bob amser!
Ni ddylem orddefnyddio ansoddeiriau neu bydd y disgrifiad
yn un diflas!
Disgrifio’r Corff
Does dim angen disgrifio pob un manylyn bach am y person
neu'r cymeriad rydych yn ei ddisgrifio.
Canolbwyntiwch ar beth sy'n mynd i wneud y disgrifiad yn
un byw ac yn wahanol i unrhyw berson arall.
Disgrifio gwisg
Mae'n bwysig hefyd disgrifio'r hyn mae'r cymeriad yn ei
wisgo.
Mae hyn yn dweud rhywbeth wrthon ni am y cymeriadau.
Darllenwch y disgrifiad hwn o Now Dafydd:
Gwisgai drowsus byr, patrymog a hen
grys chwys tyllog. Roedd ei wallt
cyrliog yn un nyth blêr o dan ei gap
gwlân.
Mae yma ddarlun clir o’r hyn mae o’n
ei wisgo a'r ffordd mae o'n edrych.
Tynnwch lun cymeriad sydd ychydig
yn wahanol! Rhowch enw iddo/iddi.
Labelwch y llun gan ddefnyddio
ansoddeiriau diddorol. Dangoswch
eich llun a'ch dewis o ansoddeiriau
diddorol i weddill y dosbarth!
Mae personoliaeth pawb yn wahanol!
Dyma ddisgrifiad o Emyr o'r stori
Anna Ffenna Ffostus:
Bachgen bach tawel, breuddwydiol iawn oedd Emyr. Nid
oedd yn hoffi rhuthro o gwmpas. Doedd o ddim yn hoffi
chwaraeon swnllyd. Fyddai arno byth eisiau chwarae pêldroed na chwarae cuddio. Yn wir, prin y byddai'n chwarae
gyda'r plant eraill o gwbl. Yn yr ysgol, safai Emyr yn aml â'i
gefn ar y wal yn gwylio'r plant yn chwarae. Weithiau fe
deimlai'n unig iawn. Fe syllai ac fe syllai ar y plant, ond ni
fyddai'n mynd atyn nhw chwaith. Bellach roedd y plant
wedi blino gofyn iddo ymuno â nhw yn y chwarae.
Anna Ffenna Ffostus gan Emily Huws, Cynllun y Porth
Trafodwch gymeriad Emyr.
Bachgen bach tawel, breuddwydiol iawn oedd Emyr. Nid
oedd yn hoffi rhuthro o gwmpas. Doedd o ddim yn hoffi
chwaraeon swnllyd. Fyddai arno byth eisiau chwarae pêldroed na chwarae cuddio. Yn wir, prin y byddai'n chwarae
gyda'r plant eraill o gwbl. Yn yr ysgol, safai Emyr yn aml â'i
gefn ar y wal yn gwylio'r plant yn chwarae. Weithiau fe
deimlai'n unig iawn. Fe syllai ac fe syllai ar y plant, ond ni
fyddai'n mynd atyn nhw chwaith. Bellach roedd y plant
wedi blino gofyn iddo ymuno â nhw yn y chwarae.
Anna Ffenna Ffostus gan Emily Huws, Cynllun y Porth
Darllenwch y testun hwn.
"Gwych bechgyn!" bloeddiodd Mr Ifans yr athro chwaraeon, a llamu
ar y cae efo'i goesau hirion.
"Absolutely brilliant!"
Doedden nhw ddim yn gwybod eto beth oedd wedi hitio nhw!
Wedi dysgu Cymraeg oedd Mr Ifans, tua'r un pryd â phan
newidiodd ei enw o Evans i Ifans. Roedd o mor frwdfrydig am bob
dim bob amser, ac edrychai'n debyg i ebol efo'i osgo heglog a'i
wallt hir.
Pac o Straeon Rygbi 2 - Alun Wyn Bevan - Gwasg Gomer
Manylion diddorol
Mae'n bwysig manylu ar beth mae'r cymeriad yn ei wneud o
ddydd i ddydd.
Efallai bod rhai ohonoch chi'n gafael yn eich gên pan rydych
yn pendroni dros rhyw broblem.
Efallai bod ambell un ohonoch chi'n crychu eich talcen pan
rydych yn edrych yn flin ar rywun arall.
Efallai bod ambell un ohonoch yn cnoi eich ewinedd pan
rydych chi'n teimlo'n nerfus.
Idiomau
Darllenwch y disgrifiad hwn.
Roedd Gwion yn eistedd y tu allan i ystafell y prifathro.
Roedd golwg euog iawn arno. Gwyddai y byddai’r prifathro
yn gandryll a dechreuodd ymarfer ei esgusodion.
Darllenwch y disgrifiad hwn eto. Beth sy'n wahanol ynddo
y tro hwn?
Roedd Gwion yn eistedd â’i galon yn ei wddf y tu allan i
ystafell y prifathro. Roedd golwg bryderus iawn arno.
Gwyddai y byddai’r prifathro yn gandryll a dechreuodd
ymarfer ei esgusodion. Roedd hi ar ben arno.
Mae'r idiomau yn datblygu'r disgrifiad ymhellach. Mae'n
gwneud y disgrifiad yn llawer iawn mwy diddorol i'w
ddarllen.
Ysgrifennwch frawddegau yn cynnwys yr idiomau
hyn. Darllenwch nhw i weddill y dosbarth.
Darllenwch y disgrifiad hwn o hanes y cymeriad Emyr:
Gwesty mawr oedd ei gartref - gwesty ar fin y ffordd. Dros
y ffordd roedd y traeth. Doedd yno ddim ond y gwesty ac
ychydig o fythynnod, rhyw lond dwrn o garafanau a siop
fechan. Yn yr haf byddai pobl yn heidio yno. Fe fyddai'n
rhaid i Emyr gysgu mewn ystafell fechan ym mhen ucha'r tŷ
gan fod pob ystafell arall yn llawn o ymwelwyr a phobl oedd
yn gweithio yn y gwesty...
Drwy gydol y gaeaf byddai'r gwesty'n wag. Bron na fedrai
Emyr glywed pin yn disgyn yno. Lle bu symud a siarad,
chwarae a chwerthin, yn awr doedd dim ond tawelwch.
Dawnsiai'r llwch yn llafnau melyn yn yr haul gwantan yn yr
ystafelloedd mawrion.
Anna Ffenna Ffostus gan Emily Huws, Cynllun y Porth
Portread mewn stori
Pan rydyn ni'n ysgrifennu portread mewn stori, portread
byr iawn ydy o a rhaid sicrhau bod y cymeriadau yn
datblygu wrth i'r stori fynd yn ei blaen.
Cameo ydy'r gair rydyn ni'n ei ddefnyddio am y portread
byr yma o gymeriad neu gymeriadau mewn stori.
Mae disgrifio beth mae'r cymeriadau'n ei wneud yn
bwysig ac yn dweud llawer iawn amdanynt.
Chwiliwch am enghreifftiau mewn
llyfrau stori.