Cynhwysedd - Mathemateg

Download Report

Transcript Cynhwysedd - Mathemateg

Cynhwysedd

Cynhwysedd

Cynhwysedd yw dull o fesur faint o hylif y gallai cynhwysydd ei ddal,

e.e. faint o ddŵr y mae jwg yn ei ddal.

Gallwn fesur cynhwysedd trwy ddefnyddio unedau metrig ac imperial

- e.e. Litrau, galwyni, peintiau, centimetrau ciwb ayb

Mae ____ mililitr mewn 1 centilitr. Mae ____ mililitr mewn 1 litr.

Mae ____ centilitr mewn 1 litr.

Mae ____ peint mewn 1 galwyn.

Mae ____ owns hylif mewn 1 peint.

Mae ____ centimetr ciwb mewn 1 metr ciwb.

Cynhwysedd

Enghreifftiau 1. Trawsnewidiwch 6cl yn ml 6cl = 6 x 10 = 60ml 2. Trawnewidiwch 9 peint yn ownsys hylif.

9 peint = 9 x 20 = 180 owns hylif 3. Trawsnewidiwch 3200ml yn l.

3200ml = 3200 ÷ 1000 = 3.2l

Cwestiynau

Trawsnewidiwch:        6cl = ______ ml 180owns hylif = ______peint 2300000cm 3 = ______m 3 9 galwyn = ______ peint 500ml= ______l 3l = ______ cl 960 owns hylif = ______galwyni

Cwestiynau

1.

2.

3.

Cynhwysedd jwg yw 30ml a chynhwysedd bwced yw 310ml. Mae’r jwg yn cael ei lenwi â dŵr ac mae’r dŵr yn cael ei arllwys i mewn i’r bwced. Mae hwn yn digwydd 10 gwaith. Dangoswch pam na fydd y bwced yn gorlifo.

Mae Mari yn llenwi ei baddon â dŵr, sef 100 litr, ond mae’r plwg yn torri ac felly ni all y dŵr arllwys ohono. Mae’n penderfynu defnyddio bwced â chynhwysedd o 12 litr er mwyn arllwys y dŵr. Sawl bwcediad y bydd angen er mwyn gwagio’r baddon?

Mae Siôn yn prynu potel 2 litr o lemwnêd er mwyn llenwi poteli llai ar gyfer mynd i’r ysgol. Os yw’r poteli llai yn dal 440ml, sawl potel y gallai lenwi ag 1 botel fawr?