Canllawiau Ysgrifennu Adroddiad Papur Newydd

Download Report

Transcript Canllawiau Ysgrifennu Adroddiad Papur Newydd

Pwy sy’n ysgrifennu adroddiad
papur newydd?
•
Mae adroddiadau ar wahanol bynciau yn cael eu
hysgrifennu bob dydd ar gyfer papurau newydd.
• Mae nifer o bethau i'w cofio wrth ysgrifennu
adroddiad papur newydd:
• Mae'n bwysig bod gan bob adroddiad bennawd sy'n denu sylw.
Gallwn ni wneud hyn mewn sawl ffordd wahanol.
• MAINT Y LLYTHRENNAU YN Y PENNAWD
Yn aml iawn mae maint y llythrennau sydd yn y pennawd yn llawer
mwy na maint y llythrennau yn yr adroddiad ei hun.
• Rydych chi'n gallu cip-ddarllen pob math o wahanol benawdau.
• Unwaith bydd pennawd wedi denu eich sylw, mae’n debyg y
byddwch yn awyddus i ddarllen yr adroddiad.
Cyflythrennu
Mae penawdau da yn bwysig er
mwyn tynnu sylw'r darllenydd.
Mae'r gohebydd yn gwneud
hyn yn aml gan ddefnyddio
geiriau sy'n dechrau gyda'r un
llythyren. Cyflythrennu yw'r
enw ar hyn.
Dyma enghreifftiau:
bisgedi
blasus
ffrindiau
ffyddlon
Mae gohebwyr yn gwneud gwaith tebyg
i dditectif sef casglu gwybodaeth o
sawl ffynhonnell er mwyn darganfod
beth ddigwyddodd go iawn.
Dydd Gwener diwethaf roedd
protest fawr yn erbyn cynlluniau
i adeiladu archfarchnad yng
nghanol y dref. Daeth cannoedd
o bobl leol at ei gilydd i achub y
cae chwarae.
Mae'n bwysig bod gohebwyr yn gofyn
y cwestiynau hyn:
Unwaith y byddwch chi wedi
casglu'r wybodaeth, mae'n
bwysig eich bod yn manylu ar y
ffeithiau. Mae'n bwysig eich bod
yn gofyn:
Dydy gohebwyr ddim yn gallu bod
ym mhob man ar yr un pryd! Dyna
pam ei bod yn bwysig cyfweld â
llygad-dystion.
Mae llygad-dystion yn aml wedi gweld y digwyddiad
gyda‘u llygaid nhw eu hunain. Hebddyn nhw, mae'n anodd
iawn i'r gohebydd gael darlun teg o'r digwyddiad.
Mae'n bwysig dyfynnu'n union beth mae'r llygad-dystion
yn ei ddweud gan ddefnyddio dyfynodau'n gywir.
Dywedodd Bet Jones
“Rydw i wedi byw yn y dref yma ers
blynyddoedd a welais i erioed
protest fel hyn o’r blaen. Roedd
pobl yn flin iawn. Clywais un dyn yn
gweiddi ar y cynghorwyr wrth iddyn
nhw fynd i mewn i’r swyddfa.”
Lluniau
Mae defnyddio lluniau
yn ddefnyddiol.
Darllenwch yr
enghraifft hon.
Mae'r llun yn eich
helpu i greu darlun
o'r anghenfil.
Testun:
Pennawd Bachog:
Pryd?
Beth?
Ble?
Sut?
Pam?
Sylwadau llygad-dystion: