Transcript Tasg 1
Ymarferion Adolygu Gramadeg
Tasg - tabl treigladau
Pwy fydd y cyntaf i allu ysgrifennu’r tabl treigladau yn gywir?
Cytsain
ll m rh p t c b d g
Treiglad Meddal
b d g f dd r l f
Treiglad Trwynol
mh nh ngh m n ng
Treiglad Llaes
ph th ch
Ymarferion adolygu
Rhannwch yn dimoedd o dri.
Pan fydd y frawddeg yn ymddangos ar y sgrîn, penderfynwch fel tîm beth yw’r camgymeriad, y cywiriad a’r rheswm a nodwch hwy ar bapur.
Bydd eich athro/athrawes yn egluro’r atebion ar ddiwedd y cwis a’r tîm sydd wedi cael y nifer fwyaf o atebion cywir fydd yn ennill!
Camgymeriad
â’i ci 1. Aeth Sian â’i ci adref.
Cywiriad
â’i chi
Rheswm
Mae’r enw ‘ci’ yn treiglo’n llaes ar ôl y rhagenw mewnol, trydydd person unigol, benywaidd ‘ei’.
Camgymeriad
fy ci 2. Mae fy ci yn wael.
Cywiriad
fy nghi
Rheswm
Mae’r enw ‘ci’ yn treiglo’n drwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’.
3. Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn prifysgol Bangor.
Camgymeriad
yn prifysgol
Cywiriad
ym mhrifysgol
Rheswm
Mae’r enw ‘prifysgol’ yn treiglo’n drwynol ar ôl yr arddodiad ‘yn’. 4. Yr wythnos diwethaf, aeth y Frenhines i Caernarfon.
Camgymeriad
i Caernarfon
Cywiriad
i Gaernarfon
Rheswm
Mae’r enw ‘Caernarfon’ yn treiglo’n feddal ar ôl yr arddodiad ‘i’.
5. Mae Nia yn perthyn iddo fi.
Camgymeriad
iddo fi
Cywiriad
i mi
Rheswm
Mae’r arddodiad ‘i’ wedi cael ei redeg yn anghywir.
6. Rwy’n mynd i’r meddyg p’nawn ‘ma.
Camgymeriad
i’r meddyg
Cywiriad
at y meddyg
Rheswm
Defnyddiwyd yr arddodiad anghywir. Mynd ‘at’ berson yr ydych ac ‘i’ le. Dylanwad cyfieithu uniongyrchol o’r Saesneg yw hyn.
7. Roedd y dinas yn brydferth yng ngolau’r lleuad.
Camgymeriad
y dinas
Cywiriad
y ddinas
Rheswm
Mae enw benywaidd unigol (dinas) yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod ‘y’.
8. Roedd y gi yn cyfarth yn ffyrnig.
Camgymeriad
y gi
Cywiriad
y ci
Rheswm
Camdreiglad. Nid yw enw gwrywaidd unigol (ci) yn treiglo ar ôl y fannod ‘y’.
9. Clywaf fod y bwyd yn flasus yno neithiwr.
Camgymeriad
clywaf
Cywiriad
clywais
Rheswm
Mae amser anghywir y ferf wedi cael ei ddefnyddio. Gan fod y weithred wedi digwydd ‘neithiwr’, mae angen amser gorffennol y ferf yn y person cyntaf unigol i gyd-fynd.
10. Gwelir yr artist lawer o’i luniau mewn orielau.
Camgymeriad
gwelir
Cywiriad
gwêl
Rheswm
Gan mai am yr artist y sonnir dylid fod wedi defnyddio ffurf amhersonol y ferf yn hytrach na’r personol. O’r herwydd, mae angen y ferf trydydd person unigol yn yr amser presennol i gyd-fynd.
11. Un cath, dau gi a cheffyl sy’n byw acw.
Camgymeriad
un cath
Cywiriad
un gath
Rheswm
Mae enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn ‘un’.
12. Mae gen i gi a cath.
Camgymeriad
a cath
Cywiriad
a chath
Rheswm
Mae’r enw ‘cath’ yn treiglo’n llaes ar ôl y cysylltair ‘a’.
13. Wn i ddim os ydi Alun am fynd i wylio’r gêm.
Camgymeriad
os ydi
Cywiriad
a ydi
Rheswm
Mae’r gair anghywir wedi cael ei ddefnyddio. Mae angen defnyddio’r geiryn gofynnol ‘a’ i ofyn cwestiwn anuniongyrchol.
14. Gwelais, ar ôl dychwelyd, pentwr o ddillad ar lawr.
Camgymeriad
pentwr
Cywiriad
bentwr
Rheswm
Ceir treiglad meddal ar ôl y sangiad.
15. Dywedodd hi wrth ei mam fod dim gwers yrru ganddi fory.
Camgymeriad
fod dim
Cywiriad
nad oes
Rheswm
Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu cymal.
16. Rydw i’n sicr mae’n mynd i ennill y gystadleuaeth heddiw.
Camgymeriad Cywiriad Rheswm
mae’n mynd ei fod o’n mynd Mae angen y ferf ‘bod’ yn y cymal enwol.
17. Dyma’r bachgen a plannodd y blodau yn yr ardd i mi.
Camgymeriad
a plannodd
Cywiriad
a blannodd
Rheswm
Mae berf yn treiglo’n feddal os yw’n dilyn y rhagenw perthynol ‘a’.