Gludwaith Darluniadol

Download Report

Transcript Gludwaith Darluniadol

GLUDWAITH DARLUNIADOL
BETH YW GLUDWAITH
DARLUNIADOL?
Cyfrwng sy’n gweld artist yn gludo papur a
deunyddiau eraill at arwyneb y llun i greu
delwedd.
Weithiau bydd artist yn peintio ac yn darlunio ar
arwyneb y gludwaith – gelwir hyn yn
CYFRWNG-CYMYSG.
http://www.flickr.com/photos/peregrineblue/2299694882/
Mae rhai artistiaid gludwaith darluniadol yn defnyddio
deunyddiau maen nhw wedi’u ffeindio mewn ffyrdd diddorol a
doniol.
Allwch chi weld unrhyw darluniadol yn y fersiwn hon o
Ystafell Wely Van Gogh?
Ffenestr wedi’i gwneud o flwch grawnfwyd Sun & Sunbisk.
Cadair
ar y -llawr
Cysgod?
Nikko
Nonni
Van– Adlewyrchiad?
Gogh’s Bedroom
2005
Pa fath o ddeunyddiau gludwaith allwch chi eu gweld
yn y darn hwn?
Sgôr cerddorol, penawdau cylchgrawn cerdd,
nodiadau…
Beth am hwn?
Beth yw prif ddeunydd y
ddelwedd hon?
Ie - MAPIAU!
http://www.flickr.com/photos/migrainechick/3084691406/
Beth rydym ni wedi’i ddysgu?
Rydym yn gwybod mai techneg sy’n
cynnwys gludo papur a deunyddiau
amrywiol i arwyneb er mwyn creu
delwedd yw gludwaith darluniadol .
Sut gallwn ni ddefnyddio gludwaith
darluniadol yn ein gwaith?
Beth sydd ei angen arnom cyn
dechrau?
Delwedd A3 sy’n cynnwys
GOLYGFA O BERSBECTIF
Gwnewch AMLINELLIAD.
Beth yw’r enw a roddir ar hynny?
LLUNWEDD!
Gwnewch ail amlinelliad neu
TROSGLWYDDWCH eich LLUNWEDD i
gerdyn gwyn A3.
Pa broblemau sy’n codi pan fyddwch
yn trosglwyddo’r ddelwedd?
Rhaid cofio troi’r papur dargopïo
drosodd er mwyn trosglwyddo’r
GRAFFIT!
Byddwch yn creu delwedd
adlewyrchol os nad ydych yn dargopïo
ar y cefn ac yna ar y blaen unwaith
eto!
Nesaf, TACLUSWCH eich llinell.
Nid oes angen Dyson neu Hoover
arnoch i wneud hyn!
AMLYGWCH eich llinell.
Nesaf, penderfynwch pa ddeunyddiau
a phrosesau sy’n addas ar gyfer pob
rhan o’ch llun.
Mae PEINTIO’R awyr yn syniad da.
Gallwch ddefnyddio dull sgraffito, sbwnjo, deunyddiau o
bapurau newydd a chylchgronau, papur wal a deunyddiau
eraill mewn rhannau eraill.
BYDD ANGEN EICH FFILM DARGOPÏO ARNOCH ER
MWYN DARGOPÏO POB SIÂP NEU RAN ARNO I’R
DEUNYDD O’CH DEWIS.
GWYLIWCH YR
ARDDANGOSFA HON
Geirfa
Gludwaith Darluniadol
Cyfrwng
Llunwedd
Graffit
Tacluso
Deunyddiau wedi’u darganfod neu wedi’u hailgylchu
Persbectif
Sgraffito
Sbwnjo
Deunyddiau
Proses
NAWR – mewn parau, adolygwch eich gwaith o wers
heddiw.
Bydd angen i chi:
Drafod dwy agwedd gadarnhaol neu lwyddiannus o’r
ddelwedd.
Nodi un rhan y gellir ei gwella.
Byddwch yn adeiladol a rhannwch gyda’ch partner sut y
gallen nhw gryfhau’r rhan neu’r agwedd benodol hon o’r
gwaith.