Transcript Uned 2

Dyddiadau Allweddol TGAU 2015

Samplau asesu dan reolaeth at y safonwr

Dydd Mawrth 5 Mai 2015

Mae'r newid i strwythur y cwrs TGAU Hanes wedi'i atgyfnerthu'n golygu ein bod yn awr yn gallu defnyddio pob dyddiad sydd ar gael ar gyfer yr arholiadau. Yn 2015 felly bydd dyddiad ar wahân i bob uned.

Arholiad Uned 1 Dydd Llun 1 Mehefin 2015 Arholiad Uned 2

Dydd Mercher 10 Mehefin 2015

Arholiad Uned 3 Dydd Mawrth 16 Mehefin 2015

DARPARIAETH YR ARHOLIADAU

Ysgolion yng Nghymru - cwrs TGAU unedol Gall ymgeiswyr gael eu cofrestru yn awr am unrhyw unedau ar ddiwedd blwyddyn gyntaf y cwrs Ysgolion yn Lloegr – cwrs TGAU llinol Rhaid cofrestru pob ymgeisydd ar ddiwedd y cwrs

Dewisiadau Opsiynau – Uned 1 Llwybr A

Mudiadau’r bobl yng Nghymru a Lloegr, 1815 1848 Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1890 -1919 UDA: gwlad gwahaniaethau, 1910-1929 Yr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919 -1947 China dan lywodraeth Mao Zedong, 1949-1976

Dewisiadau Opsiynau – Uned 2 Llwybr A

Oes Elisabeth, 1558-1603 Dirwasgiad, Rhyfel ac Adferiad yng Nghymru a Lloegr, 1930-1951 Rwsia mewn Cyfnod o Newid, 1905 1924 Newidiadau yn Ne Affrica, 1948-1994 Caledi, Cyfoeth ac Aniddigrwydd yn y Deyrnas Unedig, 1951-1979

ADNODDAU

Mae'r adnoddau hyn ar gael yn awr ar wefan adnoddau CBAC. Maent ar gael yn ddwyieithog. Cawsant eu llunio ar gyfer athrawon er mwyn iddynt gasglu gwybodaeth am gynnwys yn y fanyleb.

Dirwasgiad, Rhyfel ac Adferiad yng Nghymru a Lloegr, 1930-1951 Newidiadau yn Ne Affrica, 1948-1994 Caledi, Cyfoeth ac Aniddigrwydd yn y Deyrnas Unedig, 1951-1979 Datblygiad yr Almaen, 1919-1991

• Mae Hodder Education yn diwygio'r gyfres boblogaidd o werslyfrau ar opsiynau'r UDA, yr Almaen a Rwsia. Cynhyrchir dau ganllaw adolygu defnyddiol iawn gan Hodder hefyd.

• Mae gwerslyfrau ar gael erbyn hyn ar gyfer mwyfrif yr opsiynau yn Llwybr B. Y cyswllt yn CAA yw [email protected]

• Ceir deunydd rhagorol ar ran adnoddau gwefan CBAC hefyd i gefnogi'r opsiynau rôl a statws menywod a chwaraeon, hamdden a thwristiaeth.

UNED 1 – ASTUDIAETHAU MANWL

Bydd papurau Uned 1 yn canolbwyntio'n bennaf ar werthuso ffynonellau hanesyddol a dehongliadau am y gorffennol. Rhaid ateb pob cwestiwn. Cwestiwn 1(a) 1(b) 1(c) 2(a) 2(b) 2(c) 3 Cwestiwn ar ei newydd wedd Dethol gwybodaeth o ddwy ffynhonnell Defnyddio deunydd ffynhonnell a gwybodaeth bersonol i egluro datblygiad Defnyddioldeb dwy ffynhonnell Defnyddio gwybodaeth am ddigwyddiad hanesyddol Diben creu ffynhonnell gynradd Trafod dehongliadau hanesyddol gwahanol Traethawd gwerthusol gyda marciau ychwanegol am sillafu, atalnodi a gramadeg Cyfanswm Marc 4 6 8 4 6 10 12 + 3 53

Cwestiwn 1a

• • • • • Bydd y cwestiwn hwn yn cynnwys dwy ffynhonnell [A a B] sy'n gysylltiedig â mater fydd wedi'i astudio. Mae'r cwestiwn hwn yn werth 4 marc. Bydd y cwestiwn yn gofyn i'r ymgeiswyr amlinellu'r hyn mae Ffynonellau A a B yn ei awgrymu / ei ddangos am fater. Canolbwynt y cwestiwn hwn yw gallu deall a defnyddio gwybodaeth o ddeunydd ffynhonnell amrywiol.

Nid oes marciau'n cael eu dyfarnu am wybodaeth bersonol yn y cwestiwn hwn.

Cwestiwn 1a cynllun marcio

Byddwch yn cael un neu ddau o farciau am ddethol gwybodaeth yn briodol o'r ffynonellau.

Byddwch yn cael tri neu bedwar o farciau am ddefnyddio'r ddwy ffynhonnell yn eu cyd-destun hanesyddol.

• • • •

Cwestiwn 1b

Mae'r cwestiwn hwn yn unfath â chwestiwn 1(b) ar y papurau Uned 1 a 2 cyfredol, ac eithrio'r ffaith ei fod yn awr yn werth 6 marc. Bydd y cwestiwn yn defnyddio un darn o ddeunydd ffynhonnell [C]. Bydd y cwestiwn yn gofyn i ymgeiswyr ddefnyddio Ffynhonnell C ynghyd â'u gwybodaeth bersonol i egluro pam y digwyddodd mater arbennig. Canolbwynt y cwestiwn hwn yw gwella'r ddealltwriaeth o ddeunydd ffynhonnell a roddir am y mater yn y cwestiwn. Caiff mwy o farciau eu rhoi am wybodaeth bersonol yn y cwestiwn hwn.

Cwestiwn 1b – cynllun marcio

Byddwch yn cael 1 neu 2 o farciau am gopïo neu aralleirio'r ffynhonnell neu ddefnyddio cynnwys y ffynhonnell yn unig.

Byddwch yn cael 3 neu 4 o farciau am ddangos dealltwriaeth o gynnwys y ffynhonnell ynghyd â peth gwybodaeth o'r cefndir.

Byddwch yn cael 5 neu 6 o farciau am ddefnyddio cynnwys y ffynhonnell ynghyd â gwybodaeth gefndirol gywir a manwl i egluro'r mater yn y cwestiwn.

Cwestiwn 1c

• • • • • Gwelliant ar y cwestiwn defnyddioldeb blaenorol yw hwn ac erbyn hyn mae'n werth 8 marc.

Y prif wahaniaeth yw bod angen gwerthuso dwy ffynhonnell [Ch a D] yn y cwestiwn hwn yn awr. Bydd y cwestiwn yn gofyn i'r ymgeiswyr pa mor ddefnyddiol yw Ffynonellau Ch a D i hanesydd sy'n astudio mater penodol. Canolbwynt y cwestiwn hwn yw gwerthuso'r deunydd ffynhonnell a roddir er mwyn ei ddefnyddio mewn ymholiad. Dylai'r gwerthusiad ganolbwyntio ar yr hyn mae'r cwestiwn yn ei ddweud neu'n ei ddangos, natur ei awduraeth a dyddiad a phwrpas y cyhoeddiad.

Cwestiwn 1c – cynllun marcio

Byddwch yn cael 1 neu 2 o farciau am gyfeirio at gynnwys y ffynonellau'n unig.

Byddwch yn cael 3 neu 4 o farciau am ystyried defnyddioldeb y ffynonellau yn nhermau eu cynnwys a'u hawduraeth.

Byddwch yn cael 5 neu 6 o farciau am werthuso'r ddwy ffynhonnell yn eu cyd-destun ond yn anghytbwys. Mae'n rhaid i chi hefyd ddod i gasgliad ynghylch pa mor ddefnyddiol ydynt ar gyfer yr ymholiad gosod.

Byddwch yn cael 7 neu 8 o farciau am werthuso'r ddwy ffynhonnell gyda'i gilydd ynglŷn â'r cynnwys hanesyddol. Mae'n rhaid i chi hefyd ddod i gasgliad wedi'i resymoli a'i gyfiawnhau ynghylch pa mor ddefnyddiol ydynt ar gyfer yr ymholiad gosod.

Cwestiwn 2a

• • • • Mae'r cwestiwn hwn yn unfath â'r hyn sydd ar y papurau arholiad astudiaeth fanwl ar hyn o bryd.

Mae'r cwestiwn yn werth 4 marc. Bydd y cwestiwn yn gofyn i ymgeiswyr ddisgrifio rhai nodweddion hanesyddol y byddant wedi'u hastudio. Mae'r cwestiwn yn asesu gwybodaeth bersonol yn unig.

Cwestiwn 2a – cynllun marcio

Byddwch yn cael tri neu bedwar o farciau am ddisgrifiad mwy manwl a chywir o'r mater.

Byddwch yn cael un neu ddau o farciau am ateb wedi'i gyffredinoli sy'n rhoi pwyntiau gwan neu'n awgrymu.

Cwestiwn 2b

• • • Mae arddull y cwestiwn hwn yn newydd ac mae'n werth 6 marc. Bydd y cwestiwn yn defnyddio un darn o ddeunydd ffynhonnell.

Bydd y cwestiwn yn gofyn pam y cynhyrchwyd y ffynhonnell benodol ar adeg arbennig mewn hanes. Nid oes disgwyl i ymgeiswyr werthuso'r ffynhonnell ond i ddangos eu bod yn gallu gosod ffynonellau yng nghyd-destun hanesyddol eu cynhyrchu.

Cwestiwn 2b – cynllun marcio

• • • Byddwch yn cael 1 neu 2 o farciau am ddeall cynnwys y ffynhonnell heb ganolbwyntio fawr ar pam y cynhyrchwyd y ffynhonnell.

Byddwch yn cael 3 neu 4 o farciau am ystyried y ffynhonnell yn ei chyd-destun hanesyddol ac yn awgrymu rhai rhesymau dros ei chynhyrchu.

Byddwch yn cael 5 neu 6 o farciau am ddadansoddi'r ffynhonnell yn ei chyd-destun hanesyddol a rhoi rhesymau manwl dros ei chynhyrchu ar y pryd.

Cwestiwn 2c

• • • • Mae arddull y cwestiwn hwn yn newydd ac mae'n werth 10 marc. Bydd y cwestiwn yn defnyddio tri darn o dystiolaeth [1,2 a 3] ar sail tri dehongliad hanesyddol o fater a astudiwyd.

Bydd y cwestiwn yn enwi dehongliad ac yn gofyn cwestiwn penodol am ddilysrwydd y dehongliad hwnnw. Bydd cyngor pellach yn annog yr ymgeiswyr i ddangos eu bod yn gwybod sut a pham y dehonglwyd y mater penodol mewn ffyrdd gwahanol.

Cwestiwn 2c parhad

• • • • Yn y cwestiwn hwn, bydd Tystiolaeth 1 a Thystiolaeth 2 yn cyfeirio at ddehongliadau gwahanol a wnaed o fater hanesyddol o'r astudiaeth fanwl sy'n cael ei hastudio. Dehongliadau a wnaed yn edrych yn ôl fydd y rhain gan bobl megis haneswyr a newyddiadurwyr neu gyfoedion sy'n edrych yn ôl neu'n cael eu cyfweld yn ddiweddarach am eu profiadau. Mae'n bosibl y defnyddir ffynonellau gweledol hefyd megis cartwnau neu baentiadau os yw'n briodol gwneud hynny. Ffynhonnell gyfoes fydd y trydydd darn o dystiolaeth a fydd yn cefnogi rhywfaint ar y naill neu'r llall o'r dehongliadau yn Nhystiolaeth 1 a 2.

Cwestiwn 3

• • • • • Mae'r cwestiwn hwn yn unfath â'r hyn sydd ar y papurau arholiad astudiaeth fanwl ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae'r cwestiwn yn awr yn werth 12 marc gyda 3 marc ychwanegol am ansawdd y sillafu, atalnodi a'r gramadeg. Mae'r cwestiwn yn asesu'r gallu i gynhyrchu trafodaeth estynedig ar fater a astudiwyd. Mae'r cwestiwn wedi'i eirio yn y fath fodd fel ei fod yn annog trafodaeth gytbwys ac yn dod i farn am y cwestiwn. Bydd gosodiad hefyd yn rhoi cyngor am yr hyn y dylid ei drafod yn yr ateb.

Cwestiwn 3 – cynllun marcio

Byddwch yn cael 1 i 3 o farciau am roi ateb wedi'i gyffredinoli nad yw'n cynnig fawr o gefnogaeth. Bydd ateb unochrog gyda pheth cefnogaeth o'r cyd-destun neu ateb dwyochrog gwan iawn heb fawr o gefnogaeth o'r cyd-destun yn cael 4 marc.

Bydd ateb datblygedig unochrog gyda chefnogaeth o'r cyd-destun neu ateb gwan dwyochrog gyda pheth cefnogaeth o'r cyd-destun yn cael 5 neu 6 o farciau.

Bydd ateb unochrog da iawn gyda chefnogaeth o'r cyd-destun neu ateb dwyochrog anghytbwys gyda chefnogaeth o'r cyd-destun yn cael 7 marc.

Bydd dadansoddiad rhesymedig a datblygedig o'r mater ond rhai manylion ar goll neu ddiffyg cydbwysedd yn cael 8 neu 9 o farciau'n ddibynnol ar y gefnogaeth o'r cyd-destun.

Byddwch yn cael 10 i 12 o farciau am ddadansoddiad datblygedig, rhesymegol ac wedi'i gyfiawnhau'n dda o'r mater a osodwyd yn y cwestiwn.

Uned 2 – astudiaethau manwl

Bydd papurau Uned 2 yn canolbwyntio'n bennaf ar nodweddion allweddol a chysyniadau allweddol hanes.

Rhaid ateb pob cwestiwn.

Cwestiwn 1(a) 1(b) 1(c) 2(a) 2(b) 2(c) 3(a) 3(b) UNED 2 Cwestiwn ar ei newydd wedd Defnyddio deunydd ffynhonnell a gwybodaeth bersonol i ddisgrifio agwedd ar hanes Eglurhad o ddatblygiad hanesyddol Trafod safbwyntiau gwahanol am ddatblygiad hanesyddol Defnyddio gwybodaeth am ddigwyddiad hanesyddol Eglurhad o ddatblygiad hanesyddol Gwerthuso cysyniad hanesyddol yn cynnwys achos / canlyniad / newid / pwysigrwydd / arwyddocâd Amlinellu prif nodweddion datblygiad hanesyddol Traethawd gwerthusol gyda marciau ychwanegol am sillafu, atalnodi a gramadeg Cyfanswm Marc 3 6 8 4 6 8 4 12 +3 54

Cwestiwn 1a

• • • • Bydd y cwestiwn yn defnyddio un darn o ddeunydd ffynhonnell gweledol. Bydd y cwestiwn yn gofyn i ymgeiswyr ddefnyddio ffynhonnell a'u gwybodaeth bersonol i ddisgrifio mater hanesyddol Canolbwynt y cwestiwn hwn yw gallu tynnu gwybodaeth o ddeunydd ffynhonnell gweledol a defnyddio gwybodaeth bersonol i wella ar hynny. Bydd un marc yn cael ei ddyfarnu am ddethol gwybodaeth a dau farc ychwanegol am wybodaeth bersonol yn y cwestiwn hwn.

Cwestiwn 1a – cynllun marcio

Byddwch yn cael un marc am ateb wedi'i gyffredinoli, yn aralleirio neu'n disgrifio'r ffynhonnell yn unig.

Byddwch yn cael dau farc am ddefnyddio'r ffynhonnell yn dda neu am ddefnyddio'r ffynhonnell gyda rhywfaint o wybodaeth bersonol. Byddwch yn cael tri marc am roi'r ffynhonnell hefyd yn ei chyd-destun hanesyddol ac am roi rhywfaint o fanylion cefndirol o'ch gwybodaeth bersonol.

Cwestiwn 1b

• • • • Mae'r cwestiwn hwn yn unfath â chwestiwn 2(b) ar y papurau Uned 1 a 2 cyfredol, ac eithrio'r ffaith ei fod yn awr yn werth 6 marc. Bydd y cwestiwn yn gofyn i ymgeiswyr egluro pam y digwyddodd mater neu ddatblygiad arbennig. Canolbwynt y cwestiwn hwn yn bennaf yw cysyniad achosiaeth. Dylai ganiatàu i ymgeiswyr ddangos eu gallu i roi rhesymau dros ddigwyddiadau neu ddatblygiadau a astudiwyd ganddynt. Rhagwelir gosod cwestiynau fydd yn ddigon eang fel bod modd i'r ymgeiswyr gynnig amrywiol rhesymau yn eu hatebion.

Cwestiwn 1b – cynllun marcio

Byddwch yn cael un neu ddau o farciau am ateb cyffredinol, gan roi un rheswm neu ddisgrifiad yn unig.

Byddwch yn cael tri neu bedwar o farciau am eglurhad mwy manwl a chywir, os ydych yn rhoi mwy nag un rheswm.

Byddwch yn cael pump neu chwech o farciau am eglurhad llawn sy'n canolbwyntio ac yn egluro amrywiol resymau.

Cwestiwn 1c

Mae'r cwestiwn hwn yn cadw cwestiwn 1(d) ar y papurau Uned 1 ac Uned 2 a ddefnyddiwyd hyd at 2014 ac yn werth 8 marc o hyd. Mae gofyn astudio dwy ffynhonnell [B ac C] yn y cwestiwn hwn. Bydd y cwestiwn yn gofyn i ymgeiswyr pam mae safbwyntiau gwahanol yn y ffynonellau. Bydd y ffynonellau a roddir yn tynnu sylw at safbwyntiau gwahanol am y mater penodol. Canolbwynt y cwestiwn hwn yw egluro'r gwahaniaeth barn gan ganolbwyntio ar yr hyn mae pob ffynhonnell yn ei ddweud neu'n ei ddangos, a gwahaniaethau mewn agweddau megis yr awduraeth, y dyddiad a diben y cyhoeddiadau.

Cwestiwn 1c – cynllun marcio

• Byddwch yn cael 1 neu 2 o farciau am aralleirio'r ffynonellau'n unig • Byddwch yn cael 3 a 4 o farciau am drafod un ffynhonnell yn dda gyda rhywfaint o gefnogaeth NEU drafod y ddau safbwynt yn fwy cyfyngedig • Byddwch yn cael rhwng 5 a 6 o farciau am geisio egluro'r ddau safbwynt gan gyfeirio'n glir at y cynnwys a'r priodoliadau; yn defnyddio'ch gwybodaeth eich hun i gefnogi'r hyn a ddywedwch • Byddwch yn cael 7 neu 8 o farciau am roi ateb cytbwys wedi'i gefnogi'n dda gan y ffynonellau a'ch gwybodaeth eich hun; yn ystyried priodoliadau pob ffynhonnell yn fanwl

Cwestiwn 2a

• • • • Mae'r cwestiwn hwn yn unfath â'r hyn sydd ar y papurau arholiad astudiaeth fanwl ar hyn o bryd. Mae'r cwestiwn hwn yn werth 4 marc o hyd. Bydd y cwestiwn yn gofyn i ymgeiswyr ddisgrifio rhai nodweddion hanesyddol y byddant wedi'u hastudio. Mae'r cwestiwn yn asesu gwybodaeth bersonol yn unig.

Cwestiwn 2a – cynllun marcio

Byddwch yn cael un neu ddau o farciau am ateb wedi'i gyffredinoli sy'n rhoi pwyntiau gwan neu'n awgrymu.

Byddwch yn cael tri neu bedwar o farciau am ateb yn fwy manwl a chywir.

Cwestiwn 2b

• • • • Mae'r cwestiwn hwn yn unfath â chwestiwn 2(b) ar y papurau Uned 1 a 2 cyfredol, ac eithrio'r ffaith ei fod yn awr yn werth 6 marc. Bydd y cwestiwn yn gofyn i ymgeiswyr egluro pam y digwyddodd mater neu ddatblygiad arbennig. Canolbwynt y cwestiwn hwn yn bennaf yw cysyniad achosiaeth. Dylai ganiatàu i ymgeiswyr ddangos eu gallu i roi rhesymau dros ddigwyddiadau neu ddatblygiadau a astudiwyd ganddynt. Rhagwelir gosod cwestiynau fydd yn ddigon eang fel bod modd i'r ymgeiswyr gynnig amrywiol rhesymau yn eu hatebion.

Cwestiwn 2b – cynllun marcio

Byddwch yn cael un neu ddau o farciau am roi ateb wedi'i gyffredinoli, sy'n rhoi un rheswm neu ddisgrifiad yn unig. Byddwch yn cael tri neu bedwar o farciau am eglurhad mwy manwl a chywir, os ydych yn rhoi mwy nag un rheswm.

Byddwch yn cael pump neu chwech o farciau am eglurhad llawn sy'n canolbwyntio ar y cwestiwn ac yn egluro amrywiol resymau.

Cwestiwn 2c

• Mae'r cwestiwn hwn yn unfath â chwestiwn 2(c) ar y papurau Uned 1 a 2 cyfredol, ac eithrio'r ffaith ei fod yn awr yn werth 8 marc. • Bydd y cwestiwn yn cael ei eirio er mwyn caniatáu i'r ymgeiswyr ddod i farn am gysyniad hanesyddol allweddol megis pwysigrwydd, arwyddocâd neu lwyddiant unigolyn neu ddatblygiad neu bolisi. • Rhagwelir gosod cwestiynau sy'n ddigon eang fel bod modd i'r ymgeiswyr ddadansoddi'r cysyniad a osodir yn y cwestiwn.

• Nid yw geiriad y cwestiwn hwn bob amser yn gwahodd trafodaeth am ffactorau eraill.

Cwestiwn 2c – cynllun marcio

Byddwch yn cael un neu ddau o farciau am roi ateb sy’n cyffredinoli neu ddim yn canolbwyntio.

Byddwch yn cael tri neu bedwar o farciau am ddechrau trafod cysyniad llwyddiant. Tueddu i ddisgrifio mae'r atebion yn bennaf.

Byddwch yn cael pump neu chwech o farciau am roi ateb cywir sy'n canolbwyntio ar y cysyniad o lwyddiant gyda pheth cefnogaeth o'r cyd-destun.

Byddwch yn cael saith neu wyth o farciau am ddadansoddi'r cysyniad allweddol yn fanwl yn ei gyd destun hanesyddol; yn gwerthuso maint y llwyddiant yn rhesymedig.

Cwestiwn 3a

• • • • Mae arddull y cwestiwn hwn yn newydd ac mae'n werth 4 marc. Mae'n caniatáu i ymgeiswyr ddefnyddio rhestr o ffactorau neu faterion o'u gwybodaeth bersonol. Gwelir hyn o ddefnyddio geiriau megis 'amlinellwch' yn rheolaidd sy'n awgrymu llai o fanylion na 'disgrifiwch'. Cysylltir y cwestiwn â'r ddadl a gynigir yng Nghwestiwn 3(b)

Cwestiwn 3a – cynllun marcio

Byddwch yn cael un neu ddau o farciau am roi ateb wedi'i gyffredinoli , sy'n rhoi pwyntiau gwan neu'n awgrymu.

Byddwch yn cael tri neu bedwar o farciau am ddefnyddio rhestr o ffactorau sy'n fwy cywir ac wedi'i chanolbwyntio.

Cwestiwn 3b

• • • • • Mae'r cwestiwn hwn yn unfath â'r hyn sydd ar y papurau arholiad astudiaeth fanwl ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae'r cwestiwn yn awr yn werth 12 marc gyda 3 marc ychwanegol am ansawdd y sillafu, atalnodi a'r gramadeg. Mae'r cwestiwn yn asesu'r gallu i gynhyrchu trafodaeth estynedig ar fater a astudiwyd. Mae'r cwestiwn wedi'i eirio yn y fath fodd fel ei fod yn annog trafodaeth gytbwys ac yn dod i farn am y cwestiwn. Bydd gosodiad hefyd yn rhoi cyngor am yr hyn y dylid ei drafod yn yr ateb.

Cwestiwn 3b – cynllun marcio

Byddwch yn cael 1 i 3 o farciau am roi ateb wedi'i gyffredinoli nad yw'n cynnig fawr o gefnogaeth. Bydd ateb unochrog gyda pheth cefnogaeth o'r cyd-destun neu ateb dwyochrog gwan iawn heb fawr o gefnogaeth o'r cyd-destun yn cael 4 marc.

Bydd ateb datblygedig unochrog gyda chefnogaeth o'r cyd-destun neu ateb gwan dwyochrog gyda pheth cefnogaeth o'r cyd-destun yn cael 5 neu 6 o farciau.

Bydd ateb unochrog da iawn gyda chefnogaeth o'r cyd-destun neu ateb dwyochrog anghytbwys gyda chefnogaeth o'r cyd-destun yn cael 7 marc.

Bydd dadansoddiad rhesymedig a datblygedig o'r mater ond rhai manylion ar goll neu ddiffyg cydbwysedd yn cael 8 neu 9 o farciau'n ddibynnol ar y gefnogaeth o'r cyd-destun.

Byddwch yn cael 10 i 12 marc am ddadansoddiad datblygedig, rhesymegol ac wedi'i gyfiawnhau'n dda o'r mater a osodwyd yn y cwestiwn.

Dyfodol TGAU Hanes

Cyhoeddwyd meini prawf drafft gan Ofqual ar gyfer y cyrsiau TGAU Hanes i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2016 a'u dyfarnu am y tro cyntaf yn 2018. Bydd y rhain yn berthnasol i ganolfannau yn Lloegr yn unig. Nid yw'r sefyllfa mor eglur yng Nghymru - bydd amserlen y newidiadau yr un peth. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i CBAC sefydlu paneli pwnc a fydd yn cynghori ynghylch cynnwys ac asesu.

Un maes dan ystyriaeth yw cynnwys hanes Cymru yn rhan orfodol o gyrsiau TGAU ysgolion Cymru.