Transcript Cefndir

Trafferth mewn Tafarn
Dafydd ap Gwilym
Llun: http://www.flickr.com/photos/hembo/372543451/
Amcanion
Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu:
- Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn
- Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a
Trafferth mewn Tafarn
(I gyd yn gywir a heb gymorth)
Y Chwedlau, Yr Hengerdd a’r Cywyddau – Arholiad ysgrifenedig, 1.5 awr
Culhwch ac Olwen
Branwen ferch Llŷr
Yr Hengerdd
Y Cywyddau
•Trafferth mewn Tafarn – Dafydd ap Gwilym
•Mis Mai a Mis Tachwedd – Dafydd ap Gwilym
•Yr Wylan – Dafydd ap Gwilym
•Marwnad Siôn y Glyn – Lewis Glyn Cothi
Y Chwedlau, Yr Hengerdd a’r Cywyddau – Arholiad ysgrifenedig, 1.5 awr
Cefndir y gerdd a’r bardd
Arddull y gerdd
traethawd
traethawd
¾ awr
Amcanion
Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu:
- Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn
- Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a
Trafferth mewn Tafarn
(I gyd yn gywir a heb gymorth)
Cynnwys Trafferth mewn Tafarn
Llun: http://www.flickr.com/photos/hembo/372543451/
‘Deuthum i ddinas dethol ...’
NIWBWRCH
‘cymryd, balch o febyd fûm,
llety, urddedig ddigawn,
cyffredin, a gwin a gawn’
Llun: http://www.flickr.com/photos/hembo/372543451/
“Canfod rhiain addfeindeg
Yn y tŷ, f'un enaid teg.
Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain,
Fy mryd ar wyn fy myd main”
Llun:
http://www.flickr.com/photos/drmy
stro/412785532/
Llun: http://www.flickr.com/photos/helmutoelkers/1778572565/
“Prynu rhost, nid er bostiaw,
A gwin drud, mi a gwen draw.”
“Ceisiais yn hyfedr fedru
Ar wely'r ferch, alar fu.”
‘Briwais, ni neidiais yn iach,
Y grimog, a gwae'r omach,
Wrth ystlys, ar waith ostler,
Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.’
‘Trewais, ...,
Fy nhalcen wrth ben y bwrdd,’
“nid oedd
gampau
da”
‘Dihengais i, da yng saint,
I Dduw'r archaf faddeuaint.’
Amcanion
Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu:
- Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn
- Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a
Trafferth mewn Tafarn
(I gyd yn gywir a heb gymorth)
Cefndir Trafferth mewn Tafarn
Dafydd ap Gwilym
Llun: http://www.flickr.com/photos/hembo/372543451/
Cefndir Dafydd ap Gwilym
Barddoni rhwng
1340-1370
Bardd natur
a serch
Uchelwr
Cymeriad lliwgar
Geni: Brogynin,
Llanbadarn Fawr
Prif noddwr – Ifor
Hael o Went
Teulu dylanwadol
yn y Deheubarth.
32 copi mewn llawysgrifau
e.e. Caerdydd 7
Cywydd tro trwstan
Lleoliad –
Rhosyr yn Niwbwrch, Ynys
Môn
Cywydd yn y person cyntaf –
Dafydd yw’r carwr
dioddefus
Merch di-enw
Morfudd?
Morfudd =
•Un o brif gariadon Dafydd
• Gwraig briod
• Llysenw ei gŵr oedd ‘Y Bwa Bach’.
• Byw ger Aberystwyth
• Dod o deulu da
• Gwallt golau ac aeliau tywyll
ganddi
• 80 o gerddi iddi
Y System Nawdd
Tasg:
Mewn grŵp o ddau, parwch y cardiau sydd ag
ysgrifen tywyll arnynt â’r cardiau eraill.
Yna, trefnwch y cardiau hyn yn ôl trefn amser.
Beirdd y Tywysogion
Bardd yn canu i un person mewn un
lleoliad.
1282
Diwedd cyfnod y tywysogion a
diwedd y system nawdd bresennol.
Beirdd yr Uchelwyr
Bardd yn canu i nifer o bobl
wahanol ac yn crwydo o le i le yng
Nghymru.
Y dosbarth newydd yma o noddwyr
yn dechrau barddoni eu hunain
hefyd.
Y System Nawdd
Beirdd y Tywysogion
2 ganrif lewyrchus
Tywysogion yn noddi’r beirdd
1282 – Cwymp y Tywysogion
Diwedd nawdd
Dosbarth newydd o dirfeddianwyr
Beirdd yr Uchelwyr
Uchelwyr yn noddi’r beirdd ac
yn dechrau barddoni eu hunain
Clera
Datblygiad y Cywydd
Traethodl
Cywydd
Dafydd ap Gwilym yn safoni’r mesur yma drwy osod
cynghanedd ym mhob llinell.
Beth ydy moeswers?
Moeswers = stori bach a ddefnyddir i ddangos peryglon
arferion drwg.
Un o’r prif ddylanwadau ar y cywydd hwn.
Llun: http://www.flickr.com/photos/stmarysmemphis/3383062009/
Pregethwyr yr Oesoedd Canol yn adrodd moeswers yn eu
pregethau.
Prif bechod Dafydd oedd balchder a chwant.
Nid yw Trafferth mewn Tafarn yn foeswers ddifrifol.
Parodi ar y foeswers Ganoloesol ydyw.
• 4/5 o gerddi Dafydd yn ymwneud â serch a natur.
• Beirdd y Tywysogion:
- Awdlau serch Hywel ab Owain
- Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y
carwr dioddefus.
- Dafydd yn gyfarwydd â cherddi Hywel ab
Owain .
• Beirdd y Glêr = beirdd isradd Cymru.
• Canu am serch – thema israddol.
• Canu am eni, caru a marw – profiadau
sylfaenol pobl.
Ym mhle gallai Dafydd fod wedi dod ar
draws cerddi Beirdd y Glêr?
• Ewythr – Llywelyn ap Gwilym ab Einion.
• Cwnstabl Castell Newydd Emlyn.
• Llys yn Nyfed – Dafydd wedi aros yno.
• Dafydd yn dysgu barddoni yno.
• Dod i gysylltiad â Saeson a diwylliant Ffrengig.
• Chwedlau Ffrengig.
• Ymwneud â throeon trwstan.
• Mae rhyw, neu’r awydd amdano, yn ganolog i’r fabliaux.
• Hefyd, mae tric cyfrwys yn fodd i gyrraedd y nod fel rheol.
• Naratif trydydd person.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y fabliaux a Trafferth mewn Tafarn?
• Beirdd crwydrol o Ffrainc.
• Canu mewn tafarndai.
• Canu cerddi ‘poblogaidd’ yr oes honno.
• Gwneud hwyl am ben pethau parchus e.e. parodïo
emynau yn eu cerddi.
• Cerddi erotig.
•Cerdd serch Ffrengig.
•Y Trwferiaid yn canu’r alba.
•Syniad: Dau gariad yn treulio noson gyda’i gilydd
yna’n cael eu gorfodi i wahanu pan ddaw’r wawr.
Camp Dafydd ap Gwilym
Dafydd ap Gwilym = UNIGRYW!!!
Y gallu i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl
ddylanwadau hyn.
Canlyniad = gwaith cwbl newydd a ffres
Camp Dafydd ap Gwilym
Huw Meirion Edwards:
“Pwysicach na phob dylanwad yw
dychymyg ac egni creadigol cynhenid
Dafydd, a’i galluogodd i drawsnewid
yr hyn a glywodd ac a ddarllenodd
ym mhair ei weledigaeth ef ei hun.”
Amcanion
Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu:
- Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn
- Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a
Trafferth mewn Tafarn
(I gyd yn gywir a heb gymorth)
Tasg
Yn eich grwpiau, paratowch gyflwyniad am gefndir
Dafydd ap Gwilym a’r cywydd Trafferth mewn Tafarn.
Cyflwynwch eich canfyddiadau i weddill y dosbarth.
Amser: 10 munud.
Tasg
Yn unigol, ysgrifennwch
frawddeg agoriadol eich
traethawd ar gefndir Dafydd ap
Gwilym a’r cywydd Trafferth
mewn Tafarn.
Amcanion
Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu:
- Dadansoddi cynnwys Trafferth mewn Tafarn
- Dechrau trafod cefndir Dafydd ap Gwilym a
Trafferth mewn Tafarn
(I gyd yn gywir a heb gymorth)
Gwaith Cartref:
Ysgrifennwch draethawd am gefndir Dafydd ap Gwilym
a’r cywydd Trafferth mewn Tafarn gan ddefnyddio’r
hyn a wnaethoch yn y dosbarth heddiw fel sylfaen i’r
gwaith.
Erbyn wythnos i heddiw.