Ysgrifennu Cerdd Acrostig. Beth yw cerdd acrostig?

Download Report

Transcript Ysgrifennu Cerdd Acrostig. Beth yw cerdd acrostig?

Ysgrifennu Cerdd Acrostig.
Beth yw cerdd acrostig?
• Ffurf ar farddoniaeth rydd yw cerddi acrostig.
• Maen nhw’n hwyl ac yn hawdd i’w ’sgrifennu.
• Dim ond llond llaw o reolau sydd yna,
darllenwch i weld sut i fynd ati i ysgrifennu eich
cerddi eich hunain.
Ble ddylwn i gychwyn?
• I ddechrau, mae angen i lythyren gyntaf pob
llinell ysgrifennu gair. (Gall y gair hwnnw fod yn
enw, yn wrthrych neu unrhyw air o’ch dewis).
• Yn aml mae plant yn defnyddio eu henwau er
mwyn ymarfer y dull.
Sut mae gosod y gerdd?
• Fel arfer, mae beirdd yn defnyddio priflythyren
ar ddechrau pob llinell. Mae hyn yn ei gwneud
yn haws i weld y gair pwysig.
• Gan nad oes angen gwneud i’r llinellau odli na
phoeni am y rhythm maen nhw’n hawdd i’w
cyfansoddi!
• Chi sydd yn dewis hyd bob llinell.
Os dy’ch chi ddim yn siwr,
dilynwch y pedwar cam syml.