Yr amherffaith

Download Report

Transcript Yr amherffaith

Gramadeg – 1a)
Cwestiwn 1a)
Bydd gofyn i chi greu brawddeg i ddangos yn eglur ystyron
a defnydd:
i)
Berfau;
ii) Arddodiaid;
iii) Cysyllteiriau;
iv) Cymalau;
v) Idiomau.
Cwestiwn 1a)
i)
Berf –
Gwelodd Iolo gwch ar Lyn Tegid ddoe.
ii) Arddodiad –
Mae’r cathod yn eistedd ar y to.
iii) Cysylltair –
Aeth i’r ysgol ond roedd yn hwyr yn cyrraedd.
Cwestiwn 1a)
iv) Cymal –
Dyma’r tystion a welodd y ddamwain ddoe.
v) Idiom –
Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn ac felly mae’n rhaid i mi
wisgo côt law rhag gwlychu.
Pwysig!
• Ysgrifennwch frawddegau perthnasol.
• Ysgrifennwch frawddegau syml.
• Peidiwch â llunio brawddegau hir gan fod
mwy o siawns o wallau ynddynt!
• Meddyliwch yn ofalus cyn ysgrifennu eich
brawddeg.
•Cofiwch roi priflythyren ac atalnod llawn!
Berf/Berfenw
Berfen
w
Berf
Dim ond dangos gweithred a wna ‘bwyta’.
Mae ‘bwytais’ hefyd yn dangos gweithgaredd
ond mae hefyd yn cynnig ychydig mwy o
fanylion i ni trwy gyfrwng y terfyniad ‘ais’:
1.PWY sy’n cyflawni’r weithred?
2.SAWL person sy’n cyflawni’r weithred?
3.PRYD y mae’r weithred yn digwydd?
Berfau –
Amser Amherffaith
Berfau – pethau i’w cofio!
• Amser y ferf – meddyliwch cyn ysgrifennu!
• Rhagenw ôl – arfer dda yw rhoi’r rhagenw yma i
ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred.
• Defnyddiwch y ‘tag amser’.
• Defnyddiwch y ‘tag arferiadol’ i wahaniaethu
rhwng yr amser amherffaith a’r amser gorffennol.
Rhagenwau Ôl
UNIGOL
LLUOSOG
1af
fi
ni
2il
ti
chi
3ydd fo/hi
nhw/hwy
Amser Amherffaith – y terfyniadau
UNIGOL
LLUOSOG
1af
-wn
-em
2il
-it
-ech
3ydd -ai
-ent
Amhersonol: -id
Amser Amherffaith – y terfyniadau
Rhedeg:
UNIGOL
1af
Rhedwn
2il
3ydd
Amhersonol:
LLUOSOG
Amser Amherffaith – y terfyniadau
Rhedeg:
UNIGOL
LLUOSOG
1af
Rhedwn
Rhedem
2il
Rhedit
Rhedech
3ydd Rhedai
Rhedent
Amhersonol: Rhedid
Berfau –
Amser Amherffaith
Amser Amherffaith
Amser Amherffaith = rhywbeth oedd yn digwydd
yn y gorffennol dros gyfnod o amser.
Mae’r weithgaredd wedi digwydd fwy nac unwaith
ac nid oes sicrwydd pryd y daeth i ben.
Felly mae’n weithred amherffaith.
Tag amser a’r tag arferiadol
Tag amser
Credwn i, pan oeddwn yn blentyn, fod Siôn Corn yn
ymweld â mi bob Nadolig.
Tag arferiadol
Tag amser a’r tag arferiadol
Mae’n syniad da rhoi rhagenw ôl yn y frawddeg hefyd
i ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred.
Rhagenw ôl
Tag amser
Credwn i, pan oeddwn yn blentyn, fod Siôn Corn yn
ymweld â mi bob Nadolig.
Tag arferiadol
Tag amser a’r tag arferiadol
Rhagenw ôl
Tag arferiadol
Tag amser
Rhedai hi i’r ysgol bob bore pan oedd yn blentyn.
Amser Amherffaith
Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y
berfau canlynol:
Rhedit
Siaradwn
Cerddai
Eisteddem
Gwaeddai
Ymolchent
Amser marcio!
A yw’r brawddegau canlynol yn gywir? Pam?
Byddwn i’n mynd i’r ffair bob hâf.
X
Byddwn i’n mynd i’r dref efo mam pan oeddwn yn blentyn
Byddwn i’n mynd i’r sinema bob nos Sadwrn pan oeddwn
yn lanc ifanc.
Byddwn yn mynd i’r cyngerdd bob Nadolig
X
X
Berfau amhersonol –
Amser Amherffaith
Amser Amherffaith – y terfyniadau
UNIGOL
LLUOSOG
1af
-wn
-em
2il
-it
-ech
3ydd -ai
-ent
Amhersonol: -id
Berf amhersonol – pethau i’w cofio!
• Rhoi’r arddodiad ‘gan’ yn y frawddeg.
Credid bod Alaw wedi gweld Tylwyth Teg bob nos Sul, pan oedd yn
blentyn bach, gan ei brawd.
• Ni cheir treiglad ar ôl berf amhersonol.
Credid bod Alaw wedi gweld Tylwyth Teg bob nos Sul, pan oedd yn
blentyn bach, gan ei brawd.
• Tag amser.
Credid bod Alaw wedi gweld Tylwyth Teg bob nos Sul, pan oedd yn
blentyn bach, gan ei brawd.
Tag arferiadol.
Credid bod Alaw wedi gweld Tylwyth Teg bob nos Sul, pan oedd yn
blentyn bach, gan ei brawd.
Amser Amherffaith
Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y
berfau amhersonol canlynol gan ddefnyddio’r amser gorffennol:
Eisteddid
Gwelid
Cenid
Sathrid
Adolygu!
Crynhoi – BERFAU PERSONOL
• Priflythyren;
•Rhagenw ôl;
• Tag amser;
•Tag arferiadol;
•Atalnod llawn;
•Gwirio eich brawddeg.
Cofiwch hyn!
Crynhoi – BERFAU AMHERSONOL
• Priflythyren ac atalnod llawn;
• Dim treiglad ar ôl berf amhersonol;
•Arddodiad ‘gan’;
• Tag amser;
•Tag arferiadol;
•Gwirio eich brawddeg.
Cofiwch hyn!
POB LWC!