Transcript Y presennol
Gramadeg – 1a) Cwestiwn 1a) Bydd gofyn i chi greu brawddeg i ddangos yn eglur ystyron a defnydd: i) Berfau; ii) Arddodiaid; iii) Cysyllteiriau; iv) Cymalau; v) Idiomau. Cwestiwn 1a) i) Berf – Gwelodd Iolo gwch ar Lyn Tegid ddoe. ii) Arddodiad – Mae’r cathod yn eistedd ar y to. iii) Cysylltair – Aeth i’r ysgol ond roedd yn hwyr yn cyrraedd. Cwestiwn 1a) iv) Cymal – Dyma’r tystion a welodd y ddamwain ddoe. v) Idiom – Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn ac felly mae’n rhaid i mi wisgo côt law rhag gwlychu. Pwysig! • Ysgrifennwch frawddegau perthnasol. • Ysgrifennwch frawddegau syml. • Peidiwch â llunio brawddegau hir gan fod mwy o siawns o wallau ynddynt! • Meddyliwch yn ofalus cyn ysgrifennu eich brawddeg. •Cofiwch roi priflythyren ac atalnod llawn! Berf/Berfenw Berfenw Berf Dim ond dangos gweithred a wna ‘bwyta’. Mae ‘bwytais’ hefyd yn dangos gweithgaredd ond mae hefyd yn cynnig ychydig mwy o fanylion i ni trwy gyfrwng y terfyniad ‘ais’: 1.PWY sy’n cyflawni’r weithred? 2.SAWL person sy’n cyflawni’r weithred? 3.PRYD y mae’r weithred yn digwydd? Berfau – Amser Presennol/Dyfodol Berfau – pethau i’w cofio! • Amser y ferf – meddyliwch cyn ysgrifennu! • Rhagenw ôl – arfer dda yw rhoi’r rhagenw yma i ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred. • Defnyddiwch y ‘tag amser’. Rhagenwau Ôl UNIGOL LLUOSOG 1af fi ni 2il ti chi 3ydd fo/hi nhw/hwy Amser Presennol – y terfyniadau UNIGOL LLUOSOG 1af -af -wn 2il -i -wch 3ydd -a -ant Amhersonol: -ir Berfau – Amser Presennol Tag amser – amser Presennol Amser Presennol = rhywbeth sy’n digwydd ar y pryd Tag amser Gwelant hwy gychod yn hwylio ar Lyn Tegid rŵan. Tag amser – amser Presennol Mae’n syniad da rhoi rhagenw ôl yn y frawddeg hefyd i ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred. Rhagenw ôl Tag amser Gwelant hwy gychod yn hwylio ar Lyn Tegid rŵan. Amser Presennol Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y berfau canlynol: Rhedaf Siaradwch Cerddwn ni Eistedda hi Gwaeddant Ymolchaf Amser marcio! A yw’r brawddegau canlynol yn gywir? Pam? Rhedaf i yn y ras rŵan. Rhedaf yn y ras. X Rhedaf yn y ras rŵan. X Berfau – Amser Dyfodol Tag amser – y dyfodol Y dyfodol = rhywbeth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Tag amser Af i’r ysgol fory. Amser Presennol Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y berfau canlynol: Cerddaf Syllwch Rhegwn ni Eistedda hi Siaradant Gwyliaf Amser marcio! A yw’r brawddegau canlynol yn gywir? Pam? X Canaf carol yn y cyngerdd Nadolig X Canaf garol yn y gyngerdd Nadolig. X Canaf carol yn y cyngerdd Nadolig fory. Canaf i garol yn y cyngerdd Nadolig fory. Berfau amhersonol – Amser Presennol/Dyfodol Amser Presennol – y terfyniadau UNIGOL LLUOSOG 1af -af -wn 2il -i -wch 3ydd -a -ant Amhersonol: -ir Berf amhersonol – pethau i’w cofio! • Rhoi’r arddodiad ‘gan’ yn y frawddeg. Gwelir car yn gyrru’n gyflym gan yr Heddlu rŵan. • Ni cheir treiglad ar ôl berf amhersonol. Gwelir car yn gyrru’n gyflym gan yr Heddlu rŵan. • Tag amser. Gwelir car yn gyrru’n gyflym gan yr Heddlu rŵan. Pwysig! Brawddeg gywir Labelwch y frawddeg: Gwelir nifer o wallau gan yr athro wrth iddo edrych ar waith y disgybl y funud yma. Berf amhersonol Atalnod Arddodiad Priflythyren Dim treiglad Tag amser Brawddeg gywir Priflythyren Berf Dim treiglad amhersonol Arddodiad Gwelir nifer o wallau gan yr athro wrth iddo edrych ar waith y disgybl y funud yma. Tag amser Atalnod Amser Presennol/Dyfodol Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y berfau amhersonol canlynol gan ddefnyddio’r amser presennol neu’r dyfodol: Rhedir Credir Eisteddir Siaredir Gwelir Teimlir Adolygu! Crynhoi – BERFAU PERSONOL • Priflythyren; •Rhagenw ôl; • Tag amser; •Atalnod llawn; •Gwirio eich brawddeg. Cofiwch hyn! Crynhoi – BERFAU AMHERSONOL • Priflythyren; • Dim treiglad ar ôl berf amhersonol; •Arddodiad ‘gan’; • Tag amser; •Atalnod llawn; •Gwirio eich brawddeg. Cofiwch hyn! POB LWC!