Y gorffennol

Download Report

Transcript Y gorffennol

Gramadeg – 1a)
Cwestiwn 1a)
Bydd gofyn i chi greu brawddeg i ddangos yn eglur ystyron
a defnydd:
i)
Berfau;
ii) Arddodiaid;
iii) Cysyllteiriau;
iv) Cymalau;
v) Idiomau.
Cwestiwn 1a)
i)
Berf –
Gwelodd Iolo gwch ar Lyn Tegid ddoe.
ii) Arddodiad –
Mae’r cathod yn eistedd ar y to.
iii) Cysylltair –
Aeth i’r ysgol ond roedd yn hwyr yn cyrraedd.
Cwestiwn 1a)
iv) Cymal –
Dyma’r tystion a welodd y ddamwain ddoe.
v) Idiom –
Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn ac felly mae’n rhaid i mi
wisgo côt law rhag gwlychu.
Pwysig!
• Ysgrifennwch frawddegau perthnasol.
• Ysgrifennwch frawddegau syml.
• Peidiwch â llunio brawddegau hir gan fod
mwy o siawns o wallau ynddynt!
• Meddyliwch yn ofalus cyn ysgrifennu eich
brawddeg.
•Cofiwch roi priflythyren ac atalnod llawn!
Berf/Berfenw
Berfen
w
Berf
Dim ond dangos gweithred a wna ‘bwyta’.
Mae ‘bwytais’ hefyd yn dangos gweithgaredd
ond mae hefyd yn cynnig ychydig mwy o
fanylion i ni trwy gyfrwng y terfyniad ‘ais’:
1.PWY sy’n cyflawni’r weithred?
2.SAWL person sy’n cyflawni’r weithred?
3.PRYD y mae’r weithred yn digwydd?
Berfau –
Amser Gorffennol
Berfau – pethau i’w cofio!
• Amser y ferf – meddyliwch cyn ysgrifennu!
• Rhagenw ôl – arfer dda yw rhoi’r rhagenw yma i
ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred.
• Defnyddiwch y ‘tag amser’.
Rhagenwau Ôl
UNIGOL
LLUOSOG
1af
fi
ni
2il
ti
chi
3ydd fo/hi
nhw/hwy
Amser Gorffennol – y terfyniadau
UNIGOL
LLUOSOG
1af
-ais
-asom
2il
-aist
-asoch
3ydd -odd
-asant
Amhersonol: -wyd
Berfau –
Amser Gorffennol
Tag amser – amser Gorffennol
Amser Gorffennol = rhywbeth sydd wedi digwydd.
Tag amser
Gwelais i gychod yn hwylio ar Lyn Tegid ddoe.
Tag amser – amser Gorffennol
Mae’n syniad da rhoi rhagenw ôl yn y frawddeg hefyd
i ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred.
Rhagenw ôl
Tag amser
Gwelais i gychod yn hwylio ar Lyn Tegid ddoe.
Amser Gorffennol
Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y
berfau canlynol:
Rhedais
Siaradasant
Cerddasom
Eisteddodd hi
Gwaeddodd o
Ymolchais
Amser marcio!
A yw’r brawddegau canlynol yn gywir? Pam?
Rhedodd Alaw nerth ei thraed i’r ysgol bore ddoe.
Gwelais long ar y mor
X
gwrandodd yn astud ar y darlith ddoe
X
Berfau amhersonol –
Amser Gorffennol
Amser Gorffennol – y terfyniadau
UNIGOL
LLUOSOG
1af
-ais
-asom
2il
-aist
-asoch
3ydd -odd
-asant
Amhersonol: -wyd
Berf amhersonol – pethau i’w cofio!
• Rhoi’r arddodiad ‘gan’ yn y frawddeg.
Gwelwyd car yn gyrru’n gyflym gan yr Heddlu ddoe.
• Ni cheir treiglad ar ôl berf amhersonol.
Gwelwyd car yn gyrru’n gyflym gan yr Heddlu ddoe.
• Tag amser.
Gwelwyd car yn gyrru’n gyflym gan yr Heddlu ddoe.
Pwysig!
Brawddeg gywir
Labelwch y frawddeg:
Gwelwyd lladron yn dwyn pres y ferch gan y
plismon ddoe.
Berf amhersonol
Atalnod
Arddodiad
Priflythyren
Dim treiglad
Tag amser
Brawddeg gywir
Priflythyren
Berf
amhersonol
Dim treiglad
Arddodiad
Gwelwyd lladron yn dwyn pres y ferch gan y
plismon ddoe.
Tag amser
Atalnod
Amser Presennol/Dyfodol
Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y
berfau amhersonol canlynol gan ddefnyddio’r amser gorffennol:
Eisteddwyd
Adroddwyd
Gwelwyd
Teimlwyd
Adolygu!
Crynhoi – BERFAU PERSONOL
• Priflythyren;
•Rhagenw ôl;
• Tag amser;
•Atalnod llawn;
•Gwirio eich brawddeg.
Cofiwch hyn!
Crynhoi – BERFAU AMHERSONOL
• Priflythyren;
• Dim treiglad ar ôl berf amhersonol;
•Arddodiad ‘gan’;
• Tag amser;
•Atalnod llawn;
•Gwirio eich brawddeg.
Cofiwch hyn!
POB LWC!