Cydrannau Ffitrwydd

Download Report

Transcript Cydrannau Ffitrwydd

CYDRANNAU FFITRWYDD
GCaD CYMRU NGfL
Erbyn diwedd yr uned fe fyddwch yn gwybod:
• Beth yw enwau’r cydrannau ffitrwydd?
• I ba grŵp maent yn perthyn?
• Beth yw diffiniad pob cydran?
www.gcad-cymru.org.uk
Categoreiddio
GCaD CYMRU NGfL
Mae’r cydrannau hyn yn disgyn i ddau faes:
1. Cyffredinol neu Cysylltiedig ag Iechyd
2. Penodol neu Cysylltiedig â Sgiliau
Fe edrychwn yn awr ar y ddau faes yn fwy manwl.
www.gcad-cymru.org.uk
Diffiniadau - Cyffredinol / Cysylltiedig ag Iechyd
GCaD CYMRU NGfL
Cryfder
Y grym y mae’r cyhyrau’n ei
weithredu wrth gyfangu.
Hyblygrwydd
Amrediad y symud mewn cymal.
Cyfansoddiad y corff
Y canrannau o fraster, cyhyr
ac asgwrn yn y corff.
Stamina
Gallu’r corff i ddal ati am gyfnodau hir
heb flino. Mae’n gyfuniad o ddygnwch
cardiofasgwlaidd a chyhyrol.
www.gcad-cymru.org.uk
Cryfder
GCaD CYMRU NGfL
Y grym y mae’r cyhyrau’n ei
weithredu wrth gyfangu.
Statig
Dynamig
Cryfder sydd ei angen i
wthio neu dynnu
gwrthrych trwm iawn
neu i ddal pwysau
trwm uwch eich pen.
Ffrwydrol (pŵer)
Cryfder sydd ei angen i Cryfder sydd ei angen ar
gadw llwyth i symud
gyfer un weithred
dros gyfnod hir.
ffrwydrol
(e.e. rhwyfo)
(e.e. naid uchel)
-Bydd dal llwyth trwm yn llonydd yn gwella’ch cryfder statig.
- Bydd symud y llwyth yn gwella’ch cryfder dynamig.
-Bydd symud y llwyth mor gyflym ag sy’n bosibl yn gwella’ch pŵer.
www.gcad-cymru.org.uk
Hyblygrwydd
GCaD CYMRU NGfL
Amrediad y symud mewn cymal.
I wella hyblygrwydd dylech ymestyn y
cyhyrau o amgylch y cymal a dal yr
ymestyniad am o leiaf 8 – 10 eiliad.
Mae hyn yn cael ei alw yn YMESTYN STATIG.
Gall fod yn weithredol neu’n oddefol.
-Mae gymnastwraig yn dangos hyblygrwydd wrth berffomio yr hollt (splits).
-Mae bachwr angen hyblygrwydd yn ei ysgwyddau wrth berfformio yn y sgrym.
-Mae athletwr angen hyblygrwydd yn yr asgwrn cefn wrth berfformio’r naid
uchel.
www.gcad-cymru.org.uk
Cyfansoddiad y corff
GCaD CYMRU NGfL
Y canrannau o fraster, cyhyr
ac asgwrn yn y corff.
Gallech fod â’r pwysau iawn ond eto i gyd
yn anffit am fod gennych lawer o
fratser a chyhyrau bach gwan. Mae
cyfansoddiad y corff yn rhoi gwell syniad o
ffitrwydd ac mae’n nodi pa ganran o bwysau
eich corff sy’n fraster.
www.gcad-cymru.org.uk
Stamina
GCaD CYMRU NGfL
Gallu’r corff i ddal ati am gyfnodau hir
heb flino. Mae’n gyfuniad o ddygnwch
cardiofasgwlaidd a chyhyrol.
Cardiofasgwlaidd
Gallu system cylchrediad
y gwaed i ddosbarthu’r
ocsigen sydd ei angen ar y
cyhyrau. Mae hyn yn cael ei
alw hefyd yn Ffitrwydd aerobig.
-Mae angen lefel uchel o ffitrwydd
aerobig i redeg marathon. Pam?
-Mae angen lefel uchel o ffitrwydd
aerobig i barhau trwy gydol gêm
bêl droed / hoci.
Cyhyrol
Gallu’r cyhyrau i gyfangu
dro ar ôl tro heb flino.
-Mae angen lefel uchel o
ddygnwch cyhyrol i feicwyr yn
y ras ‘Tour de France’.
- Mae angen lefel uchel o
ddygnwch cyhyrol i barhau i
rwyfo mewn ras gystadleuol.
www.gcad-cymru.org.uk
DIFFINIADAU - PENODOL / CYSYLLTIEDIG A SGILIAU
GCaD CYMRU NGfL
Ystwythder
Newid ystum a chyfeiriad
y corff yn gyflym.
Cydbwysedd
Cynnal ystum arbennig
heb siglo na chwympo.
Cyd-drefniant
Symud rhannau o’r corff yn esmwyth
ac yn gywir mewn ymateb i’r negesau
gan y synhwyrau.
Pŵer
Cyfuniad o gryfder a chyflymder.
Amser Adweithio
Cyflymder
Cyflymder adweithio yw’r term am yr
amser a gymerir i ymateb i symbyliad.
Y gallu i symud eich corff
neu ran o’ch corff yn gyflym.
www.gcad-cymru.org.uk
PENODOL / CYSYLLTIEDIG A SGILIAU - Enghreifftiau
GCaD CYMRU NGfL
Ystwythder
Ochor gamu mewn gêm rygbi.
Symudiad yr ‘Indian dribble’ - hoci.
Cydbwysedd
STATIG = Pensafiad - gymnasteg.
DEINAMEG = Sglefrio – sglefrio iâ.
Cyd-drefniant
Serfiad mewn tennis.
Dal pêl – gôl geidwad.
Pŵer
Taflu’r ddisgen / Naid hir
Amser Adweithio
Cyflymder
Cychwyn ras 100m.
‘Slip catch’ o fewn gêm griced.
Mae angen cyflymder mewn ras can medr.
www.gcad-cymru.org.uk
Cyflymder
GCaD CYMRU NGfL
Y gallu i symud eich corff
neu ran o’ch corff yn gyflym.
Nid ystyr y term ‘cyflymder’ bob tro ydi’r
gallu i symud o A i B gynted â phosib.
Gall olygu y gallu i symud
rhannau gwahanol o’r corff yn gyflym.
Gweler yr enghreifftiau isod.
-Mae angen cyflymder mewn ras can medr.
- Mae angen cyflymder i gyrraedd y bêl yn gyntaf mewn gemau tîm.
-Mae angen cyflymder yn y fraich wrth daflu picell.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRU NGfL
GALLWN YN AWR ATEB Y
CWESTIYNAU YMA?
Beth yw enwau’r cydrannau yma?
Ym mha grŵp maent yn perthyn?
Beth yw diffiniad pob cydran?
www.gcad-cymru.org.uk