Beth yw efaciwi ? Dechreuodd yr Ail Rhyfel Byd yn 1939. Roedd plant oedd yn byw mewn dinasoedd mewn perygl parhaus o’r bomiau.

Download Report

Transcript Beth yw efaciwi ? Dechreuodd yr Ail Rhyfel Byd yn 1939. Roedd plant oedd yn byw mewn dinasoedd mewn perygl parhaus o’r bomiau.

Beth yw efaciwi ?

Dechreuodd yr Ail Rhyfel Byd yn 1939. Roedd plant oedd yn byw mewn dinasoedd mewn perygl parhaus o’r bomiau.

Symudwyd plant i’r wlad i osgoi y bomiau.Galwyd y plant yma yn efaciwis.

Aeth y plant i’r ysgol a’u cymryd i orsafoedd tren. Rhoddwyd label iddynt eu gwisgo.

Aethant ar y tren ac i gefn gwlad. Nid oedd eu teuluoedd yn gwybod i ble roeddynt yn mynd.

Aeth y plant a ces bychan gyda pyjamas, dillad glan, tedi, sebon a brwsh dannedd ynddo.

Roedd rhaid i blant gario mwgwd nwy mewn bag gyda nhw bob amser.Byddai yn eu helpu i anadlu yn ystod ymosodiadau.

Credai rhai plant fod hyn yn antur mawr. Roedd eraill yn ofnus iawn ac eisiau dychwelyd gartref.

Unwaith roeddynt yn y wlad byddai’r plant yn mynd i fyw gyda teulu newydd ac yn mynd i’r ysgol.

Yn eu cartrefi newydd byddai’r plant yn ysgrifennu llythyrau i’w teuluoedd.Roedd rhan fwyaf ohonynt eisiau mynd gartref.

Wedi i’r Rhyfel orffen yn 1945 dychwelodd rhai plant gartref. Arhosodd rhai yn eu cartrefi newydd.