THEMAU HEDD WYN
Download
Report
Transcript THEMAU HEDD WYN
bardd
ffrind
mab /
brawd
Ellis Humphrey Evans (1887 – 1917)
cariad
milwr
ffermwr /
bugail
merchetwr(?)
Cymro
Cafodd ei eni yn Nhrawsfynydd ar Ionawr 13, 1887. Fe oedd yr hynaf o unarddeg plentyn Evan a Mary Evans. Roedd y teulu
yn byw ar fferm anghysbell, sef Yr Ysgwrn.
Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol leol a’r Ysgol Sul, ond bu rhaid iddo adael yr ysgol yn 14 oed a dechrau gweithio fel
bugail ar y fferm. Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth yn unarddeg oed ond doedd dim llawer o ddiddordeb gyda fe mewn
gwaith ysgol.
Dechreuodd gymryd rhan mewn Eisteddfodau yn 19 oed ac enillodd ei gadair gyntaf yn 1907 yn y Bala. Ei freuddwyd oedd
ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Daeth yn ail yn 1916 ond wedyn aeth e i’r rhyfel. Serch hynny, ysgrifennodd
awdl o’r enw “Yr Arwr” ac enillodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917. Beth bynnag bu farw ar 31 Gorffennaf, cyn iddo
gael gwybod. Dyma felly Eisteddfod y Gadair Ddu.
Ei aberth nid â heibio – ei wyneb
Annwyl nid â’n ango
Er i’r Almaen ystaenio
Ei dwrn dur yn ei waed o
(Yr englyn ar ei goffeb yn Nhrawsfynydd.)
Gerald, nai Hedd
Wyn sy’n cadw’r
Ysgwrn.
Agoriad y ffilm
TRAWSFYNYDD
(Rhyfel 2 – y
cyfnod)
Y FFILM
1. Dysgwn am hanes Cymru yn ardal
Gwynedd amser y rhyfel byd cyntaf.
2. Dysgwn am arferion teuluol yr adeg
e.e. y tad yn cymryd cyfrifoldeb dros
y gwaith a’r fam yn cadw’r tŷ a gofalu
am yr ardd a’r anifeiliaid ...
3. Gallwn weld y tai, yr adeiladau, y
capeli, y gwisgoedd, yr offer fferm,
achlysuron arbennig fel y ffair a’r
steddfod ...
4. Gallwn werthfawrogi aberth
Hedd Wyn a deall mwy am
ei fywyd a’i dalent.
TRAWSFYNYDD
1. Mae’r ffilm wedi rhoi Trawsfynydd ar y
map.
2. Mae pobl wedi clywed mwy am Hedd
Wyn ac maen nhw eisiau gweld ei
gartref a’i ardal.
3. Mae’r ardal yn falch iawn ohono.
Mae’n amlwg achos eu bod nhw wedi
enwi’r ysgol gynradd yn Ysgol Bro Hedd
Wyn.
4. Mae cofgolofn i Hedd Wyn yn y
pentref.
5. Mae nai Hedd Wyn wedi cadw Yr
Ysgwrn fel yn nyddiau Hedd Wyn.
6. Mae tua 86% o bobl ardal Trawsfynydd
yn siarad Cymraeg heddiw.
HEDD WYN
Y bardd trwm dan bridd tramor – y dwylaw
Na ddidolir rhagor;
Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
Y llygaid na all agor.
Wedi ei fyw y mae dy fywyd – dy rawd
Wedi ei rhedeg hefyd;
Daeth awr i fynd i’th weryd,
A daeth i ben deithio byd.
Tyner yw’r lleuad heno – tros Fawnog
Trawsfynydd yn dringo;
Tithau’n drist a than dy ro
Ger y ffos ddu’n gorffwyso.
Trawsfynydd! Tros ei feini – trafaeliaist
Ar foelydd Eryri;
Troedio wnest ei rhedyn hi,
Hunaist ymhell ohoni.
RHYFEL
RHYFEL
Rhyfel 1914 - 1918
Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O’i ôl mae dyn. Yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.
Pan deimlodd fyned ymaith Dduw,
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw,
A’i gysgod ar fythynnod tlawd.
Mae’r hen delynau genid gynt
Ynghrog ar gangau’r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt
A’u gwaed yn gymysg efo’r glaw.
Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn)
BARDDONIAETH HEDD WYN
Breuddwyd Hedd Wyn oedd ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ond
roedd sawl problem o’i flaen.
• Doedd dim addysg dda ganddo.
• Doedd dim trefn ganddo.
PROBLEM :Diffyg trefn /
diffyg addysg
• Doedd dim amser ganddo. Roedd yn ffermio drwy’r dydd.
• Roedd ardal Trawsfynydd yn newid gyda’r milwyr yno yn ymarfer ac yn creu
sŵn. Felly roedd yn anodd iddo ganolbwyntio.
PROBLEM :Diffyg
llonydd
• Roedd problemau yn y teulu ac roedd pobl yn marw e.e. Gruff.
• Doedd y swyddogion rhyfel ddim yn deall ei farddoniaeth.
PROBLEM : Marw
Gruff
PROBLEM : Tribiwnlys / Swyddog Sensro
“Y bardd trwm dan bridd tramor – y ddwy law
Na ddidolir rhagor
Y llygaid dwys dan ddwys ddôr
Y llygaid na all agor”
(Englyn R. Williams Parry i Hedd Wyn)
“Dyma gariad fel y moroedd” (Cymry)
“When this bloody war is over” (Saeson)
“Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng”
Mae eich angen chi. Ymunwch (y ficer)
“Cabledd” (Mr Morris)
“How are we going to win
this bloody war with a bunch of
ignorant Welsh peasants?”
Y gwir yn erbyn y byd.
A oes heddwch?
Heddwch.
Lizzie : “Dw i ddim eisiau i ti gael dy gadeirio heb imi fod gyda ti”
Elsyn : “Dw i’n addo”
(Lizzie yn marw achos salwch. Ellis yn marw yn y rhyfel. Erbyn i
Ellis ennill y gadair mae’r ddau wedi marw.)
Saeson
diawl
Ellis wrth yr afon ar ôl
colli’r pysgodyn
Mae gynnoch
chi enw
hyfryd.
Mary Catherine wrth y bont.
Cau dy geg
Sarjiant!
He says he’ll do
his best Syr!
“Fi eisiau mynd a dydy Ellis ddim. Mae mor syml â hynny.(Bob)
“Dwyt ti ddim wedi dechrau byw eto” (Ellis)
“Bydda i’n meddwl mai Arianrhod sy’n sgwennu … yn
gafel yn fy llaw a sgwennu” (Ellis yn esbonio Arianrhod
i’w chwaer gan edrych ar y lleuad)
LIZZIE ROBERTS
• Lizzie ydy cariad cyntaf Ellis yn y ffilm.
• Morwyn ydy hi. Mae hi’n gweini yn yr ardal.
• Dydy mam Ellis ddim yn hoff ohoni . Mae hi’n poeni am y perthynas. Dydy Lizzie ddim yn
ddigon da i Ellis yn ei barn hi.
• Mae Lizzie yn hŷn nag Ellis.
ASTUDIO GOLYGFEYDD LIZZIE
• Mae hi eisiau priodi. I fod yn onest mae hi’n despret am briodi. Dydy Ellis ddim eisiau’r
cyfrifoldeb.
• Dydy Lizzie ddim yn deall barddoniaeth Hedd Wyn. Dydy hi ddim wedi cael llawer o addysg.
• Mae hi eisiau bod Hedd Wyn yn ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae e’n addo
i beidio â mynd yno hebddi. (Eironi – mae’r ddau ohonyn nhw’n marw cyn Eisteddfod 1917)
• Mae Lizzie yn blino ar Ellis yn y ffilm ac yn mynd am “ddyn mewn iwnifform”.
• Mae Ellis a Lizzie yn dod yn ffrindiau eto ond mae hi’n mynd yn sal ac yn marw.
(Cymeriad real ydy Lizzie o’r ardal ac roedd hi’n byw yn agos at Ellis ond doedden nhw ddim
yn gariadon)
JINI OWEN
• Jini ydy cariad real Ellis. Roedden nhw wedi dyweddio.
• Maen nhw’n cwrdd ar y trên yn y ffilm ac mae hyn yn wir hefyd.
• Mae Ellis a Jini yn cael perthynas normal.
• Maen nhw’n debyg iawn o ran oedran ac o ran diddordebau.
• Dydy Jini ddim yn rhedeg ar ôl Ellis fel oedd Lizzie. Mae hi’n fwy o sialens iddo.
• Mae hi’n gymeriad eitha annibynnol. Mae hi’n dangos sut mae rôl y ferch yn dechrau newid.
Dydy hi ddim yn gaeth i’r tŷ fel mam Ellis. Dydy hi ddim yn gweini fel Lizzie. Mae hi’n byw
mewn cartref reit fodern.
• Mae Jini yn troi lan yn y tribiwnal ac mae hi’n poeni am benderfyniad Ellis i fynd i’r rhyfel.
Maen nhw’n dadlau ac mae hi eisiau iddo adael Bob i fynd.
• Mae Jini yn derbyn telegram ar ddiwedd y ffilm (fel mam Ellis). Mae’r telegram yn dweud
bod Ellis wedi marw yn y rhyfel.
ASTUDIO GOLYGFEYDD JINI
ASTUDIO GOLYGFEYDD :
MARY
MARY
CATHERINE
• Athrawes Enid (chwaer fach Ellis) ydy hi.
• Mae hi’n ifanc (yn rhy ifanc i Ellis yn ôl ei chwaer)
• Mae hi’n hoffi Hedd Wyn y bardd ac nid Ellis, y dyn.
• Mae hi’n academaidd ac yn mwynhau barddoniaeth. Felly mae hi’n gallu deall cerddi Hedd
Wyn. Mae hi’n gallu trafod barddoniaeth gyda fe.
• Mae hi’n hoffi enw barddol Ellis ac mae hi’n hoffi trafod cerddi’r Eisteddfod gyda fe.
• Hi ydy’r ferch fodern yn y ffilm. Mae gyrfa gyda hi. Mae rhyddid gyda hi.
• Mae hi’n cael perthynas gyda Hedd Wyn.
• Dydyn ni ddim yn cael yr argraff fod Hedd Wyn yn ei charu. Mae hi’n ifanc ac yn awyddus i’w
blesio. Efallai ei fod e’n cymryd mantais o hynny.
Mae Nia Dryhurst (Mary Catherine) wedi newid ei swydd erbyn heddiw ac yn hapusach tu ôl y camera yn lle
gweithio fel actores.
ARIANRHOD
• Duwies Geltaidd ydy Arianrhod.
• Dyma hen enw’r Cymry am y lleuad.
• Gwisgai orchudd fel arwydd o ddirgelwch efallai.
PWY YW
ARIANRHOD?
• Awen Hedd Wyn ydy hi.
• Teimlai Hedd Wyn ar brydiau mai Arianrhod sy’n ysgrifennu, Mae e’n teimlo ei bod hi’n cydio yn ei law ac
ysgrifennu cerdd.
• Ar ddiwedd y ffilm rydyn ni’n sylweddoli ei bod hi’n gyfuniad o’r merched yn ei fywyd.
(Mae hi’n ychwanegu at y stori gyda’r ochr ddirgel ond i eraill mai hi’n ychwanegiad rhyfedd. Does dim
pwynt iddi)
Ymddangosiadau Arianrhod
i.
Wrth i Ellis rhedeg ar ôl Lizzie wrth yr afon
ii.
Wrth i Jini adael y trên
iii.
Wrth i Ellis chwilio am syniadau tua allan i’r Ysgwrn
iv.
Wrth i Ellis deithio i’r “Training Camp”
v.
Yn yr ysbyty pan mae Ellis ar fin marw. Mae’n dod yn nes ato wedyn ac yn ei gusanu.
vi.
Fel montage o’r merched
Cryfder y fam / ochr academaidd Mary Catherine /
normalrwydd Jini / hwyl a chysur Lizzie = y ferch berffaith
YMDDANGOSIADAU
ARIANRHOD
Doedd Ellis ddim eisiau lladd unrhyw un.
Doedd e ddim eisiau mynd i’r rhyfel.
HEDD WYN – enw yn dynodi heddwch,
purdeb, glendid, tawelwch, harmoni …
AGORIAD Y FFILM
Rhyfel 2 : Y Cyfnod
Rhyfel 3 : Hyfforddi /
Gwersyll Litherland
RHYFEL 4 : Cefn Pilkem
“When this bloody war is over, O how happy we shall be …”
“Dyma gariad fel y moroedd, Tosturiaethau fel y lli”
Ffilmio’r coesau a’r traed yn unig. Dynion anhysbys. Pawb
yn dilyn pawb arall. Pawb yn mynd i’r un cyfeiriad.
Yr effaith ar ardal Trawsfynydd
• sŵn y milwyr yn ymarfer ar y
bryniau
• ffenestr y capel yn torri
• y ficer yn annog y dynion ifanc i
ymuno â’r fyddin
• ardal Trawsfynydd yn colli dros
80% o’i ddynion ifanc yn y rhyfel
Y Fyddin
• Triniaeth o’r Cymry yn y gwersyll milwrol
• Problemau iaith ac agweddau swyddogion
• Ffilmio’r rhyfel – lliw / diffyg lliw, sain,
cerddoriaeth, siotiau agos yn dangos
emosiwn …
• Ffilmio’r frwydr olaf yn dangos dewrder ac
anobaith
Yr effaith ar bobl wahanol
• Lizzie yn gadael Elsyn am “ddyn
mewn iwnifform”. Doedd hi ddim yn
hoffi “dillad” Ellis.
• teulu Ellis yn dioddef achos barn y
gymuned e.e. Bob yn ymladd gyda
bechgyn y pentref, y fam yn dioddef
achos geiriau pobl y pentref …
• tensiwn rhwng Bob ac Ellis
• tensiwn rhwng Ellis a Jini ar ôl y
tribiwnal a chlywed bod un mab yn
gorfod mynd i’r fyddin.
• rhyfel yn rhwygo teuluoedd –
cymaint o deuluoedd yn galaru,
bechgyn yn mynd i’r fyddin,
merched yn mynd i’r Land Army …
Griff – “y ffwl gwirion”
Ellis yn meddwl byddai’r
rhyfel drosodd cyn i Griff
adael y gwersyll hyforddi!
“Gwae fi fy myw mewn
oes mor ddreng …”
“Y bardd trwm dan bridd tramor”
Trawsfynydd
Mae’r Eisteddfod yn y capel / Roedd Lizzie yn canu yn y capel / Roedd y ficer yn
annog y dynion ifanc i ymuno â’r fyddin / Doedd Mr Morris ddim yn cytuno gyda fe /
Crefydd yn y gymuned
Roedd Mr Morris yn academaidd ac yn helpu cywiro cerddi Hedd Wyn / Mae ffenestr
• Mae pawb yn mynd i’r
y capel yn torri fel arwydd fod y rhyfel wedi cyrraedd Trawsfynydd
capel.
CRISTNOGAETH
“Duw cariad yw” (gorchymyn Crist)
“Dim lladd” (10 gorchymyn)
“Helpu Eraill” (Samariad Trugarog)
•Y capel ydy canolbwynt y
gymuned. Dyma’r man
cyfarfod. Dyma’r lle i addoli
a’r lle i gymdeithasu.
Yn y rhyfel
• Mae pawb yn dibynnu ar y
• Mae’r milwr ifanc yn darllen y Beibl ac yn rhoi’r Beibl dros ei galon cyn mynd allan i
capel.
ymladd.
• Mae pobl yn parchu’r ficer
• Mae’r milwyr o Gymru yn canu emynau – “Dyma gariad fel y moroedd” (yn wahanol
a’r gweinidog.
iawn i’r Saeson sy’n canu “When this bloody war is over”). Mae’n dangos dylanwad y
• Mae’r capel yn rhan
capel ar eu bywydau.
bwysig o fywyd y teulu a’r
• Mae pobl yn gadael blodau wrth y groes yn Ffrainc / gwlad Belg. Roedden nhw’n
gymuned.
parchu crefydd.
• Mae’r milwyr yn gweddio. Heyd maen nhw’n galw ar Dduw i’w helpu.
Ble mae gwrthdaro yn y ffilm?
GWRTHDARO ydy prif achos rhyfel. Prif thema’r ffilm ydy rhyfel
ac felly mae’r elfen o wrthdaro yn amlwg.
Gwrthgyferbyniad
- Ffilmio traed y milwyr yn cerdded. Pawb yr un peth ac yn mynd
yr un ffordd.
- Ffilmio’r cyrff ar faes y gâd. Pawb yn gymysg.
• Rhwng Ellis a Bob. Mae Bob eisiau mynd i’r fyddin ond dydy Ellis ddim. Eto i gyd mae Ellis yn mynd yn lle Bob ar ôl y
tribiwnal achos mai fe oedd yr hynaf.
• Rhwng Ellis a Lizzie. Mae Lizzie eisiau priodi. I fod yn onest mae hi’n despret am briodi ond dydy Ellis ddim eisiau’r
cyfrifoldeb. Mae e’n hapus gyda’r perthynas fel ag y mae. Felly mae Lizzie yn chwilio am “ddyn mewn iwnifform” ac mae
perthynas Ellis a Lizzie yn fregus am dipyn.
• Yn y dafarn rhwng y Saeson a’r Cymry oherwydd yr iaiath a’r dewis o ganeuon ond hefyd achos bod mwyafrif y Saeson
wedi ymuno â’r fyddin.
• Yn y gwersyll hyfforddi achos bod y Sarjiant ddim yn deall Cymraeg. Hefyd dydy e ddim yn hoffi’r Cymry ac yn gas ac yn
anghwrtais iddyn nhw.
• Rhwng y capel a’r eglwys. Mae’r ficer yn annog y dynion ifanc i ymuno â’r fyddin ond dydy Mr Morris ddim yn cytuno
gyda fe. Yn ei farn e, mae rhyfel yn lladd. (Bu farw cenhedlaeth o ddynion ifanc ardal Trawsfynydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf)
• Rhwng y milwyr cyffredin a’r swyddogion yn y fyddin. Roedd hawliau gyda’r swyddogion ac roedd eu bywydau nhw yn
well o lawer. Roedd y milwyr cyffredin yn cael amser caled.
Mae gwrthdaro yn
cadw diddordeb y
gwylwyr
Mae gwrthdaro
yn ychwanegu at
densiwn y ffilm
Mae gwrthdaro
yn helpu creu
cyffro
Mae gwrthdaro
yn rhan naturiol
o fywyd unrhyw
gymuned
YMWELIAD Y SWYDDOG
RHYFEL / Y TRIBIWNLYS
RHYFEL 3/6 : LIZZIE / 5/6 JINI
RHYFEL 3 : FFRAEO
SYMBOLAETH
Ffenestr y capel
1.Mae’n dangos bod effaith y rhyfel wedi cyrraedd Trawsfynydd
2.Mae’n dinistrio heddwch yr ardal
3.Neges y capel ydy cariad ac mae rhyfel yn torri ar draws y neges.
Y lleuad / Arianrhod
1.Roedd pobl yn yr hen ddyddiau yn addoli’r lleuad.
2.Mae Hedd Wyn yn rhyw fath o addoli Arianrhod.
3.Duwies ydy hi. Hi ydy awen Hedd Wyn.
Crist ar y groes
1.Neges Crist oedd cariad ond does dim cariad mewn rhyfel.
2.Bu farw Crist dros bobl eraill. Mae Hedd Wyn yn marw dros eraill.
SYMBOLAETH
Lluniau
Ellis yn gadael am y rhyfel
1.Y mwg yn dangos ansicrwydd. A fydd e’n dod yn ôl?
RHYFEL 3 : Gadael yr Ysgwrn / Rhyfe; 2 : 5/6
2.Mae e’n diflannu. Mae’r dyfodol yn ansicr.
Ellis & Jini
Cadair Hedd Wyn
1.Mae’r cerfio yn bwysig.
2.Mae ystyr i bob rhan.
AGORIAD Y FFILM (canolbwyntio ar y gadair)
3.Mae’r ddraig ar y pen yn dynodi Cymru.
Blodau’r Merched
Blodau gwyllt / Clychau Glas / Lili
SYMBOLAETH Y BLODAU
Siots Camera
CAMERA
Sain
SAIN
Goleuo
GOLEUO
Effeithiau Gweledol
EFFEITHIAU ARBENNIG
Ffilm yn dilyn hanes Cymraes ac Iddew sy’n cwympo mewn
cariad heb yn wybod i’w teuluoedd. Stori drist ond
gafaelgar. Ffilm boblogaidd iawn.
CARIAD
• cariad rhwng Solomon a Gaenor (cariad “annerbyniol”)
• cariad rhwng Gaenor a Noa (cariad “oer”)
• cariad a pharch y ddau at eu teuluoedd
• cariad at draddodiadau e.e. arferion yr Iddewon, yr iaith Yiddish, y capel Cymraeg …
• cariad rhieni at eu plant
CYFRIFOLDEB
•
•
•
•
•
cyfrifoldeb at aelodau’r teulu
cyfrifoldeb at arferion / rheolau’r teulu
cyfrifoldeb at y gymuned e.e. y capel, y gymuned Iddewig
cyfrifoldeb yr unigolyn at gariad e.e. ffyddlondeb Solomon er gwaethaf pobl fel Crad
cyfrifoldeb Solomon a Gaenor at eu plentyn
CYMRU
• hanes Cymru a streic y glowyr
• pwysigrwydd diwylliant a chrefydd
• swyddi gwahanol y cyfnod
• gwisgoedd, ffasiwn, arferion, traddodiadau’r cyfnod
Mae’r ffilm yn dilyn hanes saith o fyfyrwyr a thri athro ar daith ysgol i Rwsia. Mae’r athrawon a’r
bobl ifanc yn cael eu gwahanu ar y ffordd i St Petersburg. Felly mae’r ffilm yn dilyn hanes yr
athrawon yn croesi’r wlad i gyrraedd y disgyblion a’r disgyblion yn eu tro yn dysgu mwy am fywyd
Rwsia ac amdanyn nhw eu hunain.
Cariad – cariad at gelfyddyd / cariad athrawes at ei phwnc / cariad coll “oeraidd” Eileen a Mostyn
affêr Eileen a Merfyn / cariad Charlie a Sharon/ cariad hoyw Sasha a Spike …
Cymru – cariad at wlad ac iaith, gwrthgyferbyniad rhwng Cymru fel gwlad a Rwsia o ran diwylliant,
adeiladau, traddodiadau …
Cyfrifoldeb – cyfrifoldeb swydd / cyfrifoldeb mewn perthynas / cyfrifoldeb at eraill / cyfrifoldeb at
anghenion yr hunan
Ffilm ydy hon sy’n adrodd hanes taith dwy fenyw – un sy’n edrych
am ei gorffennol ac un sy’n edrych am y dyfodol. Mae’r ffilm yn
symud o un stori i’r llall, yn symud o Gymru i’r Ariannin.
Sêr y ffilm ydy Matthew Rhys, Nia Roberts a Duffy.
Ffilm ramantus ydy hi. Mae’n cynnwys ffilmio anhygoel o
Gymru a’r Ariannin. Hefyd mae’n cynnwys caneuon a
cherddoriaeth gwych.
CARIAD
• cariad at wlad ac iaith
• cariad at deulu / cariad at wreiddiau / cariad at hanes
• cariad at bartner
• problemau mewn cariad
CYFRIFOLDEB
• cyfrifoldeb at deulu / ffrindiau
• cyfrifoldeb at gariad / perthynas
• problemau cadw cyfrifoldeb
CARIAD
• cariad y teulu
• cariad a gofal dros bobl y gymuned e.e. pobl y chwarel, Wini …
• cariad a pharch at fyd natur
• cariad at hanes a diwylliant e.e. dylanwad y capel, pwysigrwydd storiau a hanes …
(Diffyg cariad a pharch Mrs Huws wrth iddi gael affêr gyda dyn y siop)
CYFRIFOLDEB
• cyfrifoldeb y dyn i ofalu am ei deulu a’r cartref
• cyfrifoldeb y fam i ofalu am y teulu
• cyfrifoldeb helpu eraill
• cyfrifoldeb tuag at y capel
(diffyg cyfrifoldeb Mrs Huws at ei theulu a’r gymuned)
CYMRU
• llun o Gymru’r gorffennol
• arferion y Cymry
• hanes y chwareli, y tlodi a’r anhegwch
• cymhariaeth y capel a’r ffair
• tafodiaith ardal arbennig
• hanes Kate Roberts – brenhines y stori fer
Yn y ffilm hon mae Lois yn dechrau ei bywyd coleg ond er iddi fod yn alluog a gweld y
gwaith ar y dechrau yn hawdd, mae llawer iawn o broblemau gyda hi. Yn bennaf, mae
hi wedi stopio bwyta ac yn osgoi bwyta bob amser ond dydy hyn ddim yn amlwg i’r
myfyrwyr eraill am hir. Mae problemau’r teulu hefyd yn ychwanegu at y straen a dydy
hi ddim yn ymdopi â’i bywyd nes iddi gyrraedd yr ysbyty ar y diwedd a gorfod
wynebu’r sefyllfa a derbyn cefnogaeth eraill fel Rhys.
CYFRIFOLDEB
• Cyfrifoldeb y rhieni at Lois (problemau’r teulu yn cynnwys marwolaeth y brawd
bach, problemau bwyta y fam, affêr y tad, diffyg cyfathrebu …)
• Cyfrifoldeb Lois yn y coleg tuag at ei gwaith, ei chartref …
• Cyfrifoldeb ffrindiau / cariad Lois tuag ati oherwydd ei salwch / ei phroblemau
• Cyfrifoldeb y seiciatrydd a’r doctoriaid i helpu Lois
Prif broblem y ffilm ydy anorecsia Lois a’i hobsesiwn gyda bwyd.
CARIAD
• Cariad teuluol – cariad y rhieni, cariad y fam at Lois, cariad y tad at Lois, cariad
Lois at ei mam, cariad Lois at ei thad, cariad Lois at ei brawd bach …
• Cariad rhwng Lois a Rhys
Mae cyflwr iechyd a chyflwr meddwl Lois yn ei stopio hi rhag cael
bywyd normal. Dydy hi ddim yn gwneud ffrindiau yn y coleg. Dydy hi
ddim yn cyfathrebu yn hawdd gyda phobl eraill. Mae ofn cynnal
perthynas gyda hi. Mae disgwyliadau uchel o’i hunan gyda hi – yn ei
gwaith a’i theulu. Dydy hi ddim yn ymdopi gyda methiant.
Diffyg hunan barch
Pechod Mary Prout
Diffyg hunan hyder
Rhai o’r bobl ifanc
yn Gadael Lenin
Diffyg hunan werth
Gail (Gail fu farw)
MARTHA, JAC & SIANCO
Addasiad ydy’r ffilm o nofel Caryl Lewis a enillodd Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Dyma hanes Martha a’i dau
frawd yn ceisio ymdopi â marwolaeth eu mam a ‘r newidiadau sy’n digwydd oherwydd hynny. Martha ydy’r
graig gyda’r ddau frawd yn dibynnu arni mewn ffyrdd gwahanol. Stori drist ond yn realistig ac yn emosiynol.
Cymru – hanes Cymru / dwiylliant Cymru / yr hen ffordd Gymreig o fyw / arferion teuluol y Cymry
Cariad – cariad aelodau’r teulu / cariad at Sianco / cariad syml Sianco at ei chwaer a’r ci / cariad fusneslyd Jac a’i hawydd
i gael arian y fferm / cariad amheus Jac a’i gariad / cariad amyneddgar ond cymysglyd Martha
a’i chariad
Cyfrifoldeb – gofal dros Sianco / cyfrifoldeb y fferm a’r
anifeiliaid / cyfrifoldeb yr arian a’r dyfodol
SEPARADO
Mae Gruff Rhys (Super Furry Animals) yn
teithio i Batagonia i chwilio am hen
ewythr. Rhwygwyd y teulu yn 1880
oherwydd rasio ceffylau ond mae Gruff
eisiau gwybod mwy am hanes ei deulu.
Cofiwch mai’r ewythr wedi bod yn byw
yng nghaerdydd ers 1974.
Cymru – hanes y ddwy ran o’r teulu /
cariad a pharch tuag at y teulu …
Cariad –
Cariad teuluol
a’r awydd i
wybod mwy
am hanes ei
deulu coll.
BERYL, CHERYL & MERYL
Mae’r tair merch (!) yn trefnu gwyliau i’w hunain yn Tenerife
ond mae’r gwyliau yn llawn problemau – does dim stafell yn
eu disgwyl yn y gwesty heb sôn am y problemau perthynas a’r
cyffuriau.
Cymru – criw o Gymry ar eu gwyliau / y defnydd o’r Gymraeg
a Chymry yn gweithio tramor …
Cyfrifoldeb – cyfrifoldeb ffrindiau / cyfrifoldeb at y gymuned / at
gymdeithas o ran y cyffuriau …
Cariad – cariad ffrindiau / cariad at wlad /
cariad at iaith / chwilio am gariad / cariad at
deulu (tad mewn cartref / mab wedi aros adref)