Transcript Bullying

Gweithredu ar fwlio
Action on bullying
Cefndir Background
• Mae’r adroddiad hwn yn
archwilio effeithiolrwydd y
camau a gymerir gan ysgolion,
gan gyfeirio’n benodol at fwlio
ar sail nodweddion
gwarchodedig disgyblion, sef:
 oedran
 anabledd
 ailbennu rhywedd
 priodas a phartneriaeth sifil
 beichiogrwydd a mamolaeth
 hil
 crefydd neu gred
 rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
• This report examines the
effectiveness of action taken by
schools to address bullying,
with particular reference to
bullying on the grounds of
pupils’ protected
characteristics:
 age
 disability
 gender reassignment
 marriage and civil partnership
 pregnancy and maternity
 race
 religion or belief
 sex and sexual orientation.
Cefndir Background
• Mae’r adroddiad hwn wedi’i
seilio ar dystiolaeth o
ymweliadau â 21 ysgol. Roedd
y sampl yn cynnwys wyth ysgol
uwchradd, 12 ysgol gynradd ac
un ysgol arbennig. Mae’r
ysgolion yn cynrychioli ystod o
ddeilliannau arolygu. Yn
ychwanegol, darparwyd
dogfennau perthnasol gan saith
ysgol, gan gynnwys eu cynllun
cydraddoldeb strategol a
pholisïau yn gysylltiedig â
bwlio. Ymwelodd arolygwyr ag
un awdurdod lleol yn dilyn nodi
astudiaeth achos arfer orau.
• This report is based on
evidence from visits to 21
schools. The sample included
eight secondary schools, 12
primary schools and one
special school. The schools
represent a range of inspection
outcomes. In addition seven
schools provided relevant
documentation, including their
strategic equality plan and
policies related to bullying.
Inspectors visited one local
authority following the
identification of a best practice
case study.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Mae gormod o ddisgyblion yn
dioddef o fwlio ar ryw adeg yn
ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Gall
effeithiau cael eich bwlio fod yn
rhai tymor byr neu dymor hir, yn
seicolegol neu’n gymdeithasol,
ac maent yn aml yn arwain at
dangyflawni neu broblemau
presenoldeb. Mae grwpiau
penodol o ddisgyblion yn
wynebu risg uwch na’r cyffredin
o gael eu bwlio, gan gynnwys :
 disgyblion ag anghenion
arbennig neu anabledd;
 disgyblion lesbiaidd, hoyw,
deurywiol a thrawsrywiol; a
 disgyblion o gefndir ethnig
lleiafrifol neu grefyddol.
• Too many pupils suffer from
bullying at some point during
their time in school. The effects
of being bullied can be short or
long-term, psychological or
social, and often result in
underachievement or attendance
problems. Certain groups of
pupils are at a higher-thanaverage risk of being bullied,
including:
 pupils with special needs or a
disability;
 lesbian, gay, bisexual and
transgender pupils; and
 pupils from a minority ethnic or
religious background.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Mae profiadau disgyblion o fwlio
a’r ffyrdd y mae ysgolion yn delio
ag ef yn amrywio’n eang. Mewn
llawer o ysgolion uwchradd,
gallai pa mor dda y mae staff yn
delio â bwlio amrywio o fewn
ysgol hefyd. Hyd yn oed mewn
ysgolion sydd â strategaethau
cadarn i fynd i’r afael â bwlio, yn
aml, nid oes dealltwriaeth ar y
cyd o bwysigrwydd y
nodweddion gwarchodedig na’u
goblygiadau cyfreithiol.
• Pupils’ experiences of bullying
and the ways in which schools
deal with it vary widely. In many
secondary schools, how well
staff deal with bullying may also
vary within a school. Even in
schools that have robust
strategies to address bullying,
there is often not a common
understanding of the importance
of the protected characteristics
or their legal implications.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Mae disgyblion yn adrodd am lai
o achosion o fwlio, yn gyffredinol
ac ar sail y nodweddion
gwarchodedig, mewn ysgolion
lle ceir ethos cryf sy’n hyrwyddo
cydraddoldeb ac amrywiaeth.
• Ceir cyswllt agos rhwng y modd
y mae disgyblion yn trin ei gilydd
a pha mor dda y mae arweinwyr
yn cyfleu disgwyliadau am
ymddygiad disgyblion. Mae’r
ysgolion gorau yn defnyddio dull
rhagweithiol o atal bwlio a lliniaru
ei effeithiau pan fydd yn
digwydd.
• Pupils report lower instances of
bullying, both generally and on
the grounds of the protected
characteristics, in schools where
there is a strong ethos that
promotes equality and diversity.
• There is a close link between
how pupils treat one another and
how well leaders communicate
expectations about pupil
behaviour. The best schools
take a proactive approach to
preventing bullying and to
mitigating its effects when it
occurs.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Ychydig iawn o ysgolion sy’n
ymgynghori â grwpiau o
ddisgyblion i gael darlun go iawn
o raddau a natur bwlio yn yr
ysgol. Mae’r ysgolion gorau yn
defnyddio ystod o ddulliau i
gasglu barn disgyblion, rhieni
neu ofalwyr, a staff am fwlio.
• Mewn lleiafrif o ysgolion
cynradd, nid oes gan staff
ddarlun clir o raddau’r bwlio
geiriol sy’n digwydd neu’r math o
iaith a ddefnyddir yn rheolaidd
fel ffurf o sarhad. Mewn lleiafrif
o ysgolion uwchradd, nid yw
staff yn trin sylwadau a all achosi
tramgwydd yn ddigon difrifol.
• Very few schools consult with
groups of pupils to gain a true
picture of the extent and nature
of bullying at the school. The
best schools use a range of
methods to collect the views of
pupils, parents or carers, and
staff about bullying.
• In a minority of primary schools,
staff do not have a clear picture
of the extent of verbal bullying
that takes place or the sort of
language that is used routinely
as a form of insult. In a minority
of secondary schools, staff do
not treat remarks that can cause
offence seriously enough.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn yr
arolwg yn cadw cofnodion o
achosion ymddygiadol a chofnod
penodol o achosion o fwlio.
Ychydig iawn o ysgolion cynradd
sy’n categoreiddio achosion yn
unol â’r nodweddion
gwarchodedig. O ganlyniad, nid
oes ganddynt ddarlun clir o
batrymau ymddygiad dros
gyfnod y gallant ei ddefnyddio i
lywio cynllunio gwrth-fwlio.
• Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion
yn gwybod wrth bwy i ddweud os
ydynt yn gweld rhywun yn cael ei
fwlio neu’n cael eu bwlio eu
hunain. Wrth i ddisgyblion fynd
yn hŷn, maent yn mynd yn llai
hyderus y bydd yr ysgol yn gallu
datrys problemau bwlio.
• Most schools in the survey keep
records of behavioural incidents
and a minority keep a specific
record of bullying incidents.
Very few primary schools
categorise incidents according to
the protected characteristics. As
a result, they do not have a clear
picture of patterns of behaviour
over time that they can use to
inform anti-bullying planning.
• Most pupils know whom to tell if
they witness or experience
bullying. As pupils get older,
they become less confident that
the school will be able to resolve
bullying issues.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Ni chynllunnir ar gyfer datblygu
cadernid yn ddigon da yn y
cwricwlwm ysgol yn gyffredinol.
Mewn llawer o ysgolion, mae’r
cwricwlwm yn dathlu
gwahaniaethau unigol, ond
mae’n aml yn osgoi’r agweddau
y mae staff yn teimlo’n llai
hyderus yn eu trafod, fel
homoffobia ac ailbennu
rhywedd.
• Mae lleiafrif o ysgolion yn
bryderus ynghylch amlygu
problemau amrywiaeth. Mae’r
agwedd hon yn golygu eu bod
ond yn mynd i’r afael â
phroblemau wrth iddynt godi, yn
hytrach nag adeiladu arnynt yn y
cwricwlwm mewn modd
rhagweithiol.
• Developing resilience is not
planned for well enough in the
school curriculum generally. In
many schools, the curriculum
celebrates individual differences,
but often shies away from the
aspects that staff feel less
confident in discussing, such as
homophobia and gender
reassignment.
• A minority of schools are
anxious about highlighting
diversity issues. This attitude
means that they only tackle
issues as they arise, rather than
building them into the curriculum
proactively.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Yn y rhan fwyaf o ysgolion
uwchradd, mae disgyblion a staff
yn pryderu am y cynnydd mewn
bwlio seiber, yn enwedig mewn
perthynas â’r nodweddion
gwarchodedig.
• Mae bwlio seiber wedi creu
mathau newydd o fwlio nad yw
rhai staff yn gyfarwydd â nhw.
• Yn yr arfer orau, mae staff yn
cael y wybodaeth ddiweddaraf
am y technolegau y mae
disgyblion yn eu defnyddio ac yn
deall y potensial i’w
camddefnyddio yn yr ysgol a thu
hwnt.
• In most secondary schools,
pupils and staff are concerned
about the rise in cyberbullying,
particularly in relation to the
protected characteristics.
• Cyberbullying has created new
forms of bullying that are
unfamiliar to some staff.
• In the best practice, staff keep
up-to-date with the technologies
that pupils use and understand
their potential for misuse inside
and outside school.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Nid yw llawer o gynlluniau
cydraddoldeb strategol ysgolion
yn rhoi digon o sylw i’r ystod
lawn o nodweddion
gwarchodedig.
• Mae rhai ysgolion wedi cyfuno
polisïau ymddygiad a gwrth-fwlio
mewn un ddogfen. Yn yr
enghreifftiau gorau, caiff y
polisïau hyn eu deall yn dda ac
maent yn nodi disgwyliadau’r
ysgol ynglŷn â’r modd y dylai
aelodau o gymuned yr ysgol drin
ei gilydd. Mae’r ysgolion hyn yn
gweld bwlio o fewn continwwm
ymddygiad ac yn tueddu i ddelio
ag ef yn fwy llwyddiannus.
• Many school strategic equality
plans do not pay enough
attention to the full range of
protected characteristics.
• A few schools have combined
behaviour and anti-bullying
policies into a single document.
In the best examples, these
policies are well understood and
set out the school’s expectations
about how members of the
school community should treat
each other. These schools see
bullying within a continuum of
behaviour and tend to deal with
it more successfully.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Wrth lunio cynlluniau cydraddoldeb
• In drawing up strategic equality
strategol, mae llawer o ysgolion yn
plans many schools consult
ymgynghori â disgyblion, rhieni a
pupils, parents and staff, but few
staff, ond prin yw’r rhai sy’n gofyn
ask the views of groups linked to
barn grwpiau sy’n gysylltiedig â’r
the protected characteristics.
nodweddion gwarchodedig.
• Mewn llawer o ysgolion, mae cyrff • In many schools, governing
bodies review progress towards
llywodraethol yn adolygu cynnydd
meeting the strategic equality
tuag at fodloni’r cynllun
plan annually. However, the
cydraddoldeb strategol bob
quality of this monitoring and the
blwyddyn. Fodd bynnag, mae
information provided to
ansawdd y monitro hwn a’r
governors varies too much and
wybodaeth a roddir i lywodraethwyr
is generally unsatisfactory.
yn amrywio gormod ac mae’n
anfoddhaol ar y cyfan.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Er bod awdurdodau lleol wedi
rhoi cymorth cychwynnol i
ysgolion gyda llunio cynlluniau
cydraddoldeb strategol, nid yw
pob un ohonynt yn rhoi cymorth
a chyngor parhaus trwy fonitro
priodoldeb amcanion strategol
ysgolion neu’r cynnydd tuag at
eu bodloni yn ddigon da.
• Mae ansawdd yr hyfforddiant i
sicrhau bod llywodraethwyr yn
cyflawni eu cyfrifoldebau
statudol i fonitro cynlluniau ac
amcanion cydraddoldeb
strategol yn amrywiol.
• Dim ond rhai clystyrau o
ysgolion sy’n cydweithio i baratoi
cynlluniau cydraddoldeb.
• Although local authorities
provided schools with initial
support when drawing up
strategic equality plans, not all
provide ongoing support and
advice through monitoring the
appropriateness of objectives or
progress towards meeting them.
• The quality of training to ensure
governors meet their statutory
responsibilities to monitor
strategic equality plans and
objectives is variable.
• Only a few clusters of schools
collaborate when preparing
equality plans.
Prif ganfyddiadau
Main findings
• Mae llawer o ysgolion yn rhoi
• Many schools train staff on
hyfforddiant i staff ar fwlio, er
bullying, although the training
bod yr hyfforddiant yn tueddu i
tends to be general and does not
fod yn gyffredinol ac nid yw’n
ymwneud yn benodol â’r
relate specifically to the
nodweddion gwarchodedig. Pan
protected characteristics. Where
fydd staff yn cael hyfforddiant
staff receive specific training,
penodol, maent yn gweld hyn yn
they find this useful. Schools
ddefnyddiol. Mae ysgolion yn
dweud nad oes hyfforddiant
report an absence of high-quality
wyneb yn wyneb o ansawdd
face-to-face training, especially
uchel, yn enwedig mewn
related to transgender issues.
perthynas â materion
Many schools are unaware of
trawsrywiol. Nid yw llawer o
ysgolion yn ymwybodol o
the Welsh Government’s useful
ganllawiau defnyddiol
guidance ‘Respecting Others’.
Llywodraeth Cymru ‘Parchu
Eraill’.
Argymhellion
Recommendations
Dylai ysgolion:
• godi ymwybyddiaeth am fwlio ar sail
nodweddion gwarchodedig gyda
disgyblion, rhieni, staff, a
llywodraethwyr a defnyddio dull mwy
rhagweithiol o atal a lliniaru ei
effeithiau (gweler Atodiad 3 am restr
wirio);
• ymgynghori â disgyblion, rhieni, a
phobl eraill i nodi graddau a natur
bwlio yn yr ysgol a chytuno ar
gynnwys cynlluniau cydraddoldeb
strategol;
• cynllunio cyfleoedd sy’n briodol i
oedran yn y cwricwlwm i drafod
materion yn ymwneud â’r
nodweddion gwarchodedig a
meithrin gallu disgyblion i wrthsefyll
bwlio;
Schools should:
•
•
•
raise awareness of bullying on the
grounds of protected characteristics
with pupils, parents, staff, and
governors and take a more proactive
approach to preventing and mitigating
its effects (see Appendix 3 of report for
a checklist);
consult pupils, parents, and others, to
identify the extent and nature of
bullying in the school and to agree the
contents of strategic equality plans;
plan age-appropriate opportunities in
the curriculum to discuss issues
related to the protected characteristics
and to build pupils’ resilience to
bullying;
Argymhellion
Recommendations
• sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth •
glir o raddau a natur y bwlio a allai
ddigwydd yn yr ysgol, gan gynnwys
bwlio seiber;
• gwneud yn siŵr bod staff yn gwybod
sut i ddelio ag achosion o fwlio a’u •
cofnodi;
• cofnodi a monitro achosion o fwlio
mewn perthynas â’r nodweddion
•
gwarchodedig a defnyddio’r
wybodaeth hon i adolygu amcanion
cydraddoldeb strategol; a
• gwneud yn siŵr bod yr holl bolisïau a
gweithdrefnau yn bodloni gofynion
Deddf Cydraddoldeb 2010.
•
ensure staff have a clear
understanding of the extent and
nature of bullying that may take
place in school, including
cyberbullying,
make sure that staff know how to
deal with and record incidents of
bullying;
record and monitor incidents of
bullying in relation to the protected
characteristics and use this
information to review strategic
equality objectives; and
make sure all policies and
procedures meet the requirements
of the Equality Act 2010.
Argymhellion
Recommendations
Local authorities and regional
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia consortia should:
rhanbarthol:
• ddarparu hyfforddiant a chymorth i • provide training and support for
staff ysgolion i wella eu dealltwriaeth school staff to improve their
understanding of the Equality Act
o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’i
2010 and its implications;
goblygiadau;
• provide training and support for
• darparu hyfforddiant a chymorth i
lywodraethwyr ysgol i’w galluogi i
school governors to enable them to
gyflawni eu cyfrifoldebau statudol i
fulfil their statutory responsibilities to
fonitro cynlluniau ac amcanion
monitor strategic equality plans and
cydraddoldeb strategol; a
objectives; and
• monitro ansawdd ac effeithiolrwydd
cynlluniau cydraddoldeb strategol • monitor the quality and effectiveness
of schools’ strategic equality plans
ysgolion yn agosach.
more closely.
Argymhellion
Recommendations
Dylai Llywodraeth Cymru:
The Welsh Government should:
• roi cyhoeddusrwydd i ganllawiau • publicise the ‘Respecting Others’
‘Parchu Eraill’
guidance
Arfer orau
Best practice
Mae Ysgol Gynradd Hafod yn Abertawe wedi codi
ymwybyddiaeth am y nodweddion gwarchodedig
gyda disgyblion a rhieni. Fe wnaeth yr ysgol
gynnwys disgyblion yn llwyddiannus wrth
esbonio’r nodweddion gwarchodedig i rieni ac
aelodau o’r gymuned leol.
Mae’r effaith yn cynnwys y canlynol:
• mae dealltwriaeth glir o’r nodweddion
gwarchodedig gan lawer o ddisgyblion, rhieni
ac aelodau o’r gymuned leol erbyn hyn.
• cymerodd llawer ohonynt ran yn yr
ymgynghoriad cyn drafftio’r cynllun
cydraddoldeb strategol.
• gall llawer o ddisgyblion drafod materion
cydraddoldeb ac amrywiaeth yn hyderus ac
mae ganddynt ddealltwriaeth glir o
wahaniaethu ar sail y nodweddion
gwarchodedig.
• mae rhai disgyblion hŷn yn monitro achosion o
fwlio ac effaith y cynllun cydraddoldeb
strategol ac yn cyfrannu at ei adolygiad.
Hafod Primary School in Swansea has raised
awareness of the protected characteristics
with pupils and parents. The school
successfully involved pupils in explaining the
protected characteristic to parents and
member of the local community.
The impact includes:
• many pupils, parents and members of the
local community now have a clear
understanding of the protected
characteristics.
• many participated in the consultation prior
to drafting the strategic equality plan.
• many pupils can discuss issues of
equality and diversity confidently and
have a clear understanding of
discrimination on the grounds of the
protected characteristics.
• A few older pupils monitor instances of
bullying and the impact of the strategic
equality plan and contribute to its review.
10 cwestiwn i ddarparwyr
10 questions for providers
Ysgolion:
Schools:
•
•
•
•
A ydym ni’n codi ymwybyddiaeth am fwlio
ar sail y nodweddion gwarchodedig gyda
disgyblion, rhieni, staff, a llywodraethwyr ac
a ydym yn rhagweithiol wrth atal a lliniaru ei
effeithiau? (gweler Atodiad 3 yr adroddiad
am restr wirio)
A ydym ni’n ymgynghori â disgyblion, rhieni
a phobl eraill, i nodi graddau a natur y bwlio
yn yr ysgol a chytuno ar gynnwys
cynlluniau cydraddoldeb strategol?
A ydym ni’n cynllunio cyfleoedd sy’n briodol
i oedran yn y cwricwlwm i drafod materion
sy’n gysylltiedig â’r nodweddion
gwarchodedig a magu cadernid disgyblion
o ran bwlio?
•
•
Do we raise awareness of bullying on the
grounds of protected characteristics with
pupils, parents, staff, and governors and
are we proactive in preventing and
mitigating its effects? (see Appendix 3 of
the report for a checklist)
Do we consult pupils, parents, and others,
to identify the extent and nature of
bullying in the school and to agree the
contents of strategic equality plans?
Do we plan age-appropriate opportunities
in the curriculum to discuss issues related
to the protected characteristics and to
build pupils’ resilience to bullying?
10 cwestiwn i ddarparwyr
10 questions for providers
•
•
•
•
A oes gan bob un o’r staff ddealltwriaeth
glir o raddau a natur bwlio sy’n digwydd yn
yr ysgol, gan gynnwys bwlio seiber?
A yw staff yn gyson yn y modd y maent yn
delio ag achosion o fwlio ac yn eu cofnodi?
Pa mor effeithiol ydym ni’n cofnodi ac yn
monitro achosion o fwlio mewn perthynas
â’r nodweddion gwarchodedig ac a ydym
yn defnyddio’r wybodaeth hon i adolygu
amcanion cydraddoldeb strategol?
A yw ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn
bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb
2010?
•
•
•
•
Do all staff have a clear understanding of
the extent and nature of bullying that
takes place in school, including
cyberbullying?
Are staff consistent in how they deal with
and record incidents of bullying?
How effectively do we record and monitor
incidents of bullying in relation to the
protected characteristics and do we use
this information to review strategic
equality objectives?
Do all our policies and procedures meet
the requirements of the Equality Act
2010?
10 cwestiwn i ddarparwyr
10 questions for providers
Awdurdodau lleol a chonsortia
rhanbarthol:
• Pa mor effeithiol yw’r cymorth yr
ydym yn ei roi i staff a
llywodraethwyr ysgol i wella eu
dealltwriaeth o Ddeddf
Cydraddoldeb 2010 a’i
goblygiadau?
• A ydym ni’n monitro ansawdd ac
effeithiolrwydd cynlluniau
cydraddoldeb strategol ysgolion yn
ddigon da?
Local authorities and regional
consortia:
• How effective is the support we
provide to school staff and
governors to improve their
understanding of the Equality Act
2010 and its implications?
• Do we monitor the quality and
effectiveness of schools’ strategic
equality plans well enough?
Dolen gyswllt i’r adroddiad llawn
Web-link to full report
Cwestiynau...
Questions…