Yr 8 Ymddygiad Darllen
Download
Report
Transcript Yr 8 Ymddygiad Darllen
Cynhadledd ‘Datblygu rôl y
cydlynydd llythrennedd’
24-25ain o Ebrill, 2013
Mrs Rhian Edwards-Jones
(Pennaeth y Gymraeg,Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn
Tawe)
Hybu Sgiliau Darllen
“Rwy’n disgwyl i bob athro
fod yn athro
llythrennedd.”
(Leighton Andrews, 2011)
Strategaeth Llythrennedd Abertawe
“Wrth werthuso sgiliau, rhaid i ni
ganolbwyntio ar a yw’r sgiliau cyfathrebu,
rhifedd a TGCh angenrheidiol gan
ddisgyblion i gael mynediad i’r cwricwlwm
llawn, a pha mor dda mae’r cwricwlwm
ehagnach yn datblygu sgiliau disgyblion. Yn
gyffredinol, rhaid i ni roi’r pwyslais
pennaf ar sgiliau llythrennedd, yn
enwedig darllen ac ysgrifennu,
oherwydd y rhain sy’n debygol o gael
yr effaith fwyaf ar wella mynediad i bob
maes yn y cwricwlwm.”
Hunanfonitro
Delweddu
Yr Wyth Ymddygiad
Darllen
Dadansoddi a
Chysylltu
Dadansoddi a
Darllen Rhwng
y Llinellau
Dadansoddi
a Gwerthuso
Dadansoddi
a Chrynhoi
Yr 8 Ymddygiad Darllen
Dull o ddatblygu dealltwriaeth o destunau darllen ar
draws y cwricwlwm.
Seiliedig ar gyfuniad o astudiaethau ymchwil gan
arbenigwyr ieithyddol e.e. George Hillocks a Jeff
Wilhelm.
Yn syml, i wella llythrennedd disgyblion a dealltwriaeth
o ddeunydd darllen, mae angen mwy o amser arnynt
i ymarfer prosesau meddwl a strategaethau
datrys problemau’r darllenydd profiadol.
Bydd ymagwedd drawsgwricwlaidd at ddarllen yn
helpu i ddatblygu gallu disgyblion i drosglwyddo
syniadau.
Peilot yr ‘8 Ymddygiad Darllen’
Gwaith ymchwil a phrofion i brofi effaith yr ‘8 Ymddygiad
Darllen’ ar 2000 o ddisgyblion rhwng 8 ac 14 oed.
Llwyddiannus iawn a gwelwyd cynnydd sylweddol yn
sgorau darllen y disgyblion.
Gallu’r disgyblion i ganolbwyntio a’u cymhelliad wedi gwella.
Disgyblion wedi mwynhau’r dulliau dysgu gweithredol ac, o
ganlyniad, maent yn ymroi mwy i ddarllen.
Atebion llafar, gwaith ysgrifenedig a sgiliau ymchwil a
chydweithio’r disgyblion wedi gwella hefyd.
Yn gyffredinol, mae’r ffordd hon o weithio wedi bod
yn ddeniadol ac yn adeiladol i athrawon a disgyblion.
Yr Wyth Ymddygiad Darllen
Syniadau….
Dwyn i
gof
Dwyn i gof: gosod cyd-destun i’r
darllen trwy ddwyn i gof gwybodaeth
flaenorol
Cyn darllen
Mwy na
thebyg
yn wir
Ar ôl darllen
Mwy na
thebyg yn
anghywir
Gosodiad
1. Roedd y Cymry wedi pleidleisio dros gael
Cynulliad yn 1990.
2. Pan oedd y Cymry wedi pleidleisio o blaid
Cynulliad, geiriau enwog Ron Davies oedd “Dyma
noson dda iawn yng Nghymru”.
3. Mae adeilad y Senedd yn Aberystwyth.
4. Agorwyd adeilad newydd y Senedd yn 2006.
5. Y prif weinidog pan agorwyd adeilad newydd y
Senedd oedd Carwyn Jones.
6. Ar 19 Medi, 2006 y pasiwyd deddf gyntaf y
Senedd newydd.
7. Nid yw adeilad y Senedd yn “wyrdd” iawn ac
yn gynaliadwy.
8. Pan agorodd y Cynulliad, roedd 24 o’r 60
aelod yn fenywod.
9. Caiff yr ystafell lle mae Aelodau’r Cynulliad
yn trafod ei galw’n “swyddfa”.
10. Mae adeilad y Senedd yn edrych fel tonnau’r
bae y tu allan.
Gwir
Gau. Ail ysgrifennwch y gosodiad yn gywir
Beth ydw i’n
Gwybod?
Beth ydw i Eisiau
gwybod?
Beth ydw i wedi Dysgu?
Mynd am 5!
Nodwch 5 peth
rydych yn gwybod yn
barod am…
Grid
yr
Wyddor
ABC
G Ng H
I J L
O P Ph
Dwyn i gof
Ch D Dd
E F Ff
Ll M N
R Rh S
W Y
T Th U
Tabŵ – Pasta
•
•
•
•
•
•
•
•
•
•
Yr Eidal
Sbageti
Penne
Sbiralau
Tomato
Carbonara
Saws
Bwyd
Bwyta
Gwenith
Wil Ifans
“Dwyn i Gof”
Cymeriadau “Y Gelyn
ar y Trên”
Hunanfonitro
Hunanfonitro: monitro’r hunan wrth
ddarllen, darnio’r geiriau, darllen gair
yng nghyd-destun brawddeg.
System golau
traffig
Darnau sy’n ddryslyd mewn coch
Darnau nad ydych yn siŵr ohonynt
mewn oren
Lliwio darnau hawdd yn wyrdd
Delweddu
Delweddu’r Darllen: troi gair yn
ddarlun gweledol, defnyddio’r
synhwyrau wrth ddarllen ac ymateb.
Delweddu
Alli di dynnu llun o’r hyn a ddisgrifir yma?
Roedd ein tŷ ni ar y pen mewn stad o dai cyngor, yn eithaf agos i’r
môr. Os oeddech chi’n mynd trwy’r bwlch yn y ffens mi roeddech
chi allan ar y twyni, gyda thywod a glaswellt garw ymhob man.
Doeddech chi dim yn gallu gwthio bygi trwyddo fe. Dyna pam
roedd y bygis yn pydru yn yr ardd.
Delweddu
Olwyn stori
Delweddu
Cwestiynu
Cwestiynu: I sicrhau eglurder, creu
ystyr, ehangu’r meddwl e.e.
Pwy? Pa? Pryd? Pam? Beth? Ble? Sut?
Cwestiynu
Pa
Pa gwestiynau sy’n dod i’r
dudalen meddwl ar hyn o bryd?
ydw i
arni?
Cwestiynu
Beth ydw i’n credu bydd yn digwydd
nesaf?
Dadansoddi
a chysylltu
Dadansoddi a chysylltu: gwneud y
darllen yn berthnasol - testun a fi,
testun a thestun arall, testun a’r byd.
Mae darllenwyr da yn gwneud
cysylltiadau tra’n darllen.
“Pan gaiff gwybodaeth ei
darllen ar ei phen ei hun a heb
ei chysylltu â gwybodaeth
sydd eisoes yn bodoli, mae'n
cael ei hanghofio a bernir nad
yw'n bwysig. Mae galw ar
wybodaeth a phrofiadau sydd
eisoes yn bodoli'n hanfodol er
mwyn i ddarllenwyr gymhathu
gwybodaeth newydd.”
( I Read it but I Don’t Get it –
Chris Tovani)
Mae hwn fel…
Sy’n f’atgoffa o…
Dallenais lyfr tebyg
lle…
Y cymeriad a fi
Cymeriad
Yn
debyg
Un o brif ddigwyddiadau’r stori yw…..
Ni fyddwn/ Byddwn wedi ymateb yn yr un ffordd, oherwydd….
Fi
Diagram Lotus
Dadansoddi
a darllen
rhwng y
llinellau
Dadansoddi a darllen rhwng y
llinellau: dod i gasgliadau, camu tu
hwnt i’r llythrennol, agor drysau ar
ystyr ehangach.
Yr hyn mae athrawon yn ei ddweud
Darllenwch
rhwng y
llinellau.
Meddyliwch
yn galetach.
Casglwch
Dewch i
gasgliad.
Yr hyn y gallai athrawon ei ddweud
effeithiol)
(a allai fod yn fwy
Chwiliwch am eiriau nad
ydych yn eu gwybod ac a
yw'r geiriau eraill yn y
frawddeg yn gallu rhoi
cliw i chi am eu hystyr?
Ar ôl darllen yr adran
hon, a allwch esbonio
pam ymatebodd y
cymeriad fel hyn?
Sut rydych
chi'n gwybod?
A oes unrhyw wybodaeth
ar goll neu heb ei
hesbonio'n iawn?
Edrychwch ar sut
dywedodd y cymeriad
hynny. Sut byddai wedi
newid yr ystyr pe bai
wedi'i ddweud mewn
ffordd wahanol? Sut
gwnaeth hyn effeithio ar y
cymeriadau eraill?
Meddyliwch am
rywbeth rydych yn ei
wybod am hyn a gweld
sut mae'n gweddu i'r
testun.
Fy ymateb cyntaf
yw……
Dyma fy
marn
bellach….
Nawr rwy’n
meddwl….
Gair newydd
Beth mae’n ei olygu
Beth helpodd fi i’w
ddatrys?
Dadansoddi
a
Gwerthuso
“Dylai darllenwyr
fabwysiadu agwedd
feirniadol at destun
fel y gallant gymryd
mwy o ran yn y
broses ddarllen.
Gwerthuso neu
benderfynu yw'r
cam terfynol mewn
rhyngweithio â
thestun. “
Llawlyfr Darllen
Cyfarwyddol Ar-lein
Dadansoddi a Gwerthuso: ymateb
trwy ddod i farn am werth y testunymateb beirniadol cytbwys
Cloriannau
Pwyntiau o
blaid
Pwyntiau yn
erbyn
Dadansoddi
a chrynhoi
Dadansoddi a Chrynhoi: dewis a
dethol y wybodaeth bwysicaf yn gryno,
profi dealltwriaeth
Tasgau Dadansoddi a Chrynhoi
• Map Stori
• Cist Stori
• Geiriadur Yr Wyddor
• Ailddweud
• Diagram asgwrn
pysgodyn
Diagram asgwrn pysgodyn
Crynhowch y prif bwyntiau mewn:
3 sleid
15 gair
5 delwedd
Mewn Gair: crynhowch y testun i 25 gair
Siart llif
Golau coch!
Bob tro rydych yn
gweld colau coch ar
y testun, mae angen
cymryd seibiant a
chrynhoi yr hyn
rydych wedi darllen.
Cylch coch Crynodeb
Rhif
tudalen
Hunanfonitro
Delweddu
Yr Wyth Ymddygiad
Darllen
Dadansoddi a
Chysylltu
Dadansoddi a
Darllen Rhwng
y Llinellau
Dadansoddi
a Gwerthuso
Dadansoddi
a Chrynhoi
Data’r ysgol
Cwrs CAMU
Ar gyfartaledd, disgyblion Blwyddyn
7 wedi gwneud cynnydd o ddwy
flynedd yn ôl eu sgôr darllen ar
ddechrau ac ar ddiwedd y flwyddyn.
Grwpiau Targed Llythrennedd
Blwyddyn 7
Ar gyfartaledd, disgyblion y grwpiau
targed wedi gwneud cynnydd o 3.9
blwyddyn yn eu hoedrannau darllen
yn ystod y flwyddyn.
“Mae’r Wyth Ymddygiad Darllen yn gyfres o
strategaethau hawdd i’w deall sy’n galluogi
disgyblion i ddod yn ddarllenwyr mwy
gweithredol. Mae’r disgyblion yn datblygu sgiliau i
ddarllen yn annibynnol ac yn cael eu hannog i fod yn
ddarllenwyr beirniadol sy’n medru llunio barn ac yn
medru darllen rhwng y llinellau wrth ddadansoddi. Yn
ogystal, mae’r sgiliau darllen yn eu cynorthwyo i
ddatblygu ym mhob maes, o ymchwilio pwnc
hanesyddol i ddatrys a dehongli problem
fathemategol. “
Stephanie Vaughan
(Cydlynydd Llythrennedd Dinas a Sir Abertawe)