Transcript Uwch 01-14

Cyflwyno Uwch 1
Unedau 1-14
Unedau 1-14 Uwch 1
1. Atebion
2-4. Y Cymal Enwol: bod, y, na, i
5-6. Pwyslais a taw
7. yn a mewn
8-9. Yr Amodol: byddwn i, yr amodol cryno
10. Adolygu
11. Enwau Lluosog
12. Y Dyfodol Cryno
13. Y Goddefol
14. Yr Amhersonol
5 Eitem Ramadegol
1. Atebion
2-1. Y Cymal Enwol: bod, y, na, i
5-2. Pwyslais a taw
7. yn a mewn
8-3. Yr Amodol: byddwn i, yr amodol cryno
10. Adolygu
4. Enwau Lluosog
12. Y Dyfodol Cryno
15. Y Goddefol
15. Yr Amhersonol
3 Chwestiwn
1. Beth sy’n digwydd yn
ramadegol?
2. Pa anawsterau allai godi i
ddysgwyr?
3. Sut mae goresgyn yr
anawsterau hyn?
1. Y Cymal Enwol
• Cymal sy’n cyflawni
swyddogaeth enw
Gwelais i sebra
Gwelais i fod crocodeil yn y dŵr
1. Y Cymal Enwol
presennol mae
amherffaith roedd
cadarnhaol
negyddol
bod
na(d)
dyfodol
amodol
bydd, caniff
basai, gallai
y
na(d)
gorffennol
cerddodd
i
na(d)
1. Y Cymal Enwol
• bod yn disodli’r ferf (mae,
roedd ayyb) - problem lefel
Sylfaen/Canolradd
• ffurfio cymal ag i a chofio’i
ddefnyddio
1. Y Cymal Enwol
• defnyddio na
Mae’n dweud bod corryn yn y
bath
Mae’n dweud bod y corryn yn
fawr
1. Y Cymal Enwol
• defnyddio na
Mae’n dweud nad oes corryn yn
y bath
Mae’n dweud nad yw’r corryn yn
fawr
1. Y Cymal Enwol: Anffurfiol
Mae hi’n dweud nad oes gobaith
caneri ’da fe
Dw i’n credu y bydd hi’n
marchogaeth
Dwedodd Dafydd iddyn nhw ddal
y parot yn y pen draw
1. Y Cymal Enwol: Anffurfiol
Mae hi’n dweud bod dim gobaith
caneri ’da fe
Dw i’n credu y bydd hi’n
marchogaeth
Dwedodd Dafydd bod nhw wedi
dal y parot yn y pen draw
2. Pwyslais a taw
• Brawddeg niwtral ddibwyslais:
berf + godd. (+ berfenw) + gwrth. + adf.
Bwytodd cadno dair iâr neithiwr
Bydd e’n bwyta rhagor heno
2. Pwyslais a taw
• Brawddeg bwyslais: blaenu
elfen
Tair iâr fwytodd cadno neithiwr
Bwyta rhagor bydd e heno
2. Pwyslais a taw
• Brawddeg â berf gryno:
Bwytodd cadno dair iâr neithiwr
Cadno fwytodd dair iâr neithiwr
Tair iâr fwytodd cadno neithiwr
Neithiwr bwytodd cadno dair iâr
2. Pwyslais a taw
• Brawddeg â berf gwmpasog:
Bydd e’n bwyta rhagor heno
Fe fydd yn bwyta rhagor heno
Bwyta rhagor bydd e heno
Rhagor bydd e’n (ei) fwyta heno
Heno bydd e’n bwyta rhagor
2. Pwyslais a taw
• Brawddeg â berf gryno:
goddrych, gwrthrych + TM/sy/oedd
adferfol + dim newid
• Brawddeg â berf gwmpasog:
goddrych + TM/sy/oedd
berfenw, gwrthrych, adferfol + dim
2. Pwyslais a taw
• Brawddeg gypladol:
dibeniad + cyplad (bod) + goddrych
enw: Angharad yw’r perchennog
Barcud oedd e
rhif: Pymtheg fydd y ci eleni
ansoddair: Du fyddai’r gwryw
2. Pwyslais a taw
• Brawddeg “equals”:
enw: Angharad = y perchennog
Barcud = e
rhif: Pymtheg = y ci
ansoddair: Du = y gwryw
2. Pwyslais a taw
• Eich tro chi:
Gwelodd y plant ddraenog yn yr
ardd.
Roedd y draenog yn bwyta bwyd y
gath yn gyflym.
Roedd e’n ddraenog bach llwglyd.
2. Pwyslais a taw: Pwysig!
• Strwythur y frawddeg sy’n
penderfynu a oes taw, hynny
yw, nid oes taw o flaen berf
• Rhaid cael berf rywle yn y
cymal
*Dw i’n credu taw corgi gyda hi
2. Pwyslais a taw: Pwysig!
• Brawddeg “equals”:
Mae hi’n filfeddyg
→ Milfeddyg yw hi
*Mae hi’n y/ein milfeddyg
→ Y/Ein milfeddyg yw hi
3. Yr Amodol
Mynediad Canolradd
Uwch 1
baswn i’n mynd
byddwn i’n mynd
elwn i
awn i
baset ti’n mynd
byddet ti’n mynd
elet ti
aet ti
basai fe/hi’n mynd
byddai fe/hi’n mynd
elai fe/hi
âi fe/hi
basen ni’n mynd
bydden ni’n mynd
elen ni
aen ni
basech chi’n mynd
byddech chi’n mynd
elech chi
aech chi
basen nhw’n mynd
bydden nhw’n mynd
elen nhw
aen nhw
3. Yr Amodol
Byddan / Bydden nhw’n merlota
Fyddi di ddim yn bwyta moch
cwta, fyddi di?
/ Fyddet ti ddim yn bwyta moch
cwta, fyddet ti?
3. Yr Amodol
Allwch / Allech chi ofalu am y ci?
Os bydd hi’n braf, awn ni i’r sw
Tasai hi’n braf, elen ni i’r sw
4. Enwau Lluosog
4. Enwau Lluosog
• Sut mae eu ffurfio
1. newid llafariad: dafad → defaid
2. ychwanegu terfyniad: cath → cathod
3. tynnu terfyniad: mochyn → moch
4. cyfnewid terfyniad: cwningen → cwningod
neu gyfuniad o 1 a 2/3/4: buwch → buchod
5. ffurfiau afreolaidd: dwrgi → dwrgwn
4. Enwau Lluosog
Roedd tair *cathod gyda nhw
Mae llawer o *fuwch ar y fferm
Beth yw’r ddau *adar yna?
Gwibiodd gwiwer lan y *coed
(“the tree”)
5. Yr Amhersonol
• Mynediad - Canolradd:
Rhyddhawyd y morlo
Trinnir yr asynnod yn ofnadwy
• Uwch 1:
Cedwid mochyn gan bob teulu yng
Nghymru → Roedd mochyn yn arfer cael
ei gadw gan bob teulu yng Nghymru
5. Yr Amhersonol
• Nid oes brawddeg oddefol gyfatebol bob
tro
Gwelwyd deinosor → Cafodd deinosor ei
weld
Gellir dod â chŵn → *Mae dod â chŵn yn
cael ei allu
Gofynnwyd i Eog Llyn Llyw → *Cafodd
Eog Llyn Llyw ei ofyn (…iddo?)
5. Yr Amhersonol
• Gellir cyfieithu’r amhersonol drwy
ddefnyddio “one”
Daethpwyd o hyd i afr yn y gegin
Eid â’r defaid i’r hafod
Ceir sawl rhywogaeth ar yr ynys
Ymdriniwyd â sefyllfa’r pengwiniaid
I gloi…
Cofiwch rhannu!
• cwestiynau, pryderon
• syniadau, deunyddiau
llwyddiannus, adborth