Pecyn adolygu

Download Report

Transcript Pecyn adolygu

PECYN ADOLYGU
CWESTIWN 1B
GRAMADEG CY3
Bydd tri cwestiwn yn yr adran Gramadeg:
Cwestiwn 1a):
Bydd rhaid i chi lunio brawddeg i ddangos yn eglur ystyr a
defnydd:
- Berfau
-Arddodiaid
- Idiomau
-Cysyllteiriau
-Cymalau
Cwestiwn 1b):
Cywiro dau wall mewn brawddeg a nodi’r rheswm dros gywiro.
Cwestiwn 1c):
Cywiro deg gwall mewn paragraff. Gall y camgymeriadau gynnwys:
-Treiglo
-Berfau
-Rhagenwau
-Sillafu ac atalnodi
- Troadau chwithig / idiomau
- Camsillafu
-Cymalau
Pob lwc!
TABL TREIGLADAU
TREIGLAD MEDDAL
TREIGLAD TRWYNOL
TREIGLAD LLAES
P>b
P > mh
P > ph
T>d
T > nh
T > th
C>g
C > ngh
C > ch
B>f
B>m
D > dd
D>n
G>_
G > ng
Ll > l
M>f
Rh > r
BERFAU
Y Modd Mynegol
Amser Presennol
(a Dyfodol)
Unigol
Lluosog
1. –af
-wn
2. –i
-wch
3. –(a)
-ant
Amhersonol: -ir
Amser Amherffaith
Unigol
Lluosog
1. –wn
-em
2. –it
-ech
3. –ai
-ent
Amhersonol: -id
Amser Gorffennol
Unigol
Lluosog
1. –ais
-(a)som
2. –aist
-(a)soch
3. –odd
-(a)sant
Amhersonol: -wyd
Amser Gorberffaith
Unigol
Lluosog
1. –(a)swn
-(a)sem
2. –(a)sit
-(a)sech
3. –(a)sai
-(a)sent
Amhersonol: -(a)sid
-(e)sid
Rhagenwau Dibynnol Blaen
Rhagenwau a threigladau
h.y. Dyma’r rhagenwau sy’n dibynnu ar eraill yn y frawddeg:
Person
Unigol
Lluosog
1af
Fy
Ein
2il
3ydd
Dy
Ei gwrywaidd
Ei benywaidd
Eich
Eu
Rheolau:
•Ceir
•Ceir
•Ceir
•Ceir
treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, trydydd unigol gwrywaidd ‘ei’.
treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail unigol ‘dy’.
treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, cyntaf unigol ‘fy’.
treiglad llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, trydydd unigol benywaidd ‘ei’.
Hefyd:
• bod fi > fy mod = Y rhagenw dibynnol blaen cyntaf unigol ‘fy’ sy’n gywir o flaen y
ferf ‘bod’ er mwyn dynodi meddiant. Ceir treiglad trwynol ar ôl y rhagenw
dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’.
• eu gilydd > ei gilydd =Er bod y frawddeg yn sôn am fwy nag un person y rhagenw
dibynnol blaen, trydydd person unigol ‘ei’ sy’n gywir gyda ‘gilydd’. Mae’n eithriad
i’r rheol.
CENEDL ANGHYWIR =
e.e.
Mae’r ferch yn cyfleu ei deimladau iddyn nhw’n eglur iawn.
Camgymeriad
Cywiriad
Rheswm
ei deimladau
ei theimladau
Camdreiglad. Mae’r frawddeg yn cyfeirio at y
‘ferch’ ac felly mae angen y rhagenw dibynnol
blaen, trydydd person unigol, benywaidd i gydfynd. Ceir treiglad llaes ar ôl y rhagenw
dibynnol blaen, trydydd person unigol,
benywaidd.
Bydd ei mham yn gwrthod mynd i siopa.
3a
CAMGYMERIAD
ei mham
CYWIRIAD
ei mam
RHESWM
Camdreiglad. Nid yw ‘mam’ yn treiglo ar ôl y
rhagenw dibynnol blaen trydydd unigol
benywaidd.
RHAGENW MEWNOL + YCHWANEGU ‘H’
Bu Alaw yn alltud o’i ardal am ugain mlynedd.
CAMGYMERIAD
o’i ardal
CYWIRIAD
o’i hardal
RHESWM
Mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen enw sy’n
dechrau â llafariad os yw’n dilyn y
rhagenwau mewnol ‘i.
CENEDL ANGHYWIR – RHAGENW MEWNOL
Gwelodd y bardd lawer o’u gerddi mewn cylchgronau.
Camgymeriad
o’u gerddi
Cywiriad
o’i gerddi
Rheswm
Mae cenedl y rhagenw mewnol yn anghywir. Gan mai
enw unigol yw ‘bardd’ mae angen y rhagenw mewnol,
trydydd person unigol, gwrywaidd yma i gyd-fynd.
CAMSILLAFU
Rydw i wedi cyraedd tudalen olaf o’r llyfr.
Camgymeriad
i.i
cyraedd
Cywiriad
cyrraedd
Rheswm
Camsillafiad. Mae angen dwblu’r ‘r’.
Y fannod
y
O flaen cytsain
Rheol:
yr
O flaen llafariaid
O flaen ‘h’
‘r
Yn dilyn gair sy’n
gorffen gyda
llafariaid.
Mae enwau benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod.
e.e. Y bais, y gath
• Ceir eithriad i’r rheol hon: nid yw geiriau benywaidd unigol sy’n dechrau â ll a rh yn treiglo’n
feddal ar ôl y fannod.
e.e.
y + llynges = y llynges nid y lynges
y + rheol = y rheol nid y reol
• Nid yw enw gwrywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. = e.e. Y ci
• Nid yw enw lluosog yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. = e.e. Y merched
Mae gen i dri cath.
CAMGYMERIAD
tri cath
CENEDL Y RHIFOLYN
CYWIRIAD
tair cath
RHESWM
Mae cenedl y rhifolyn yn anghywir. Gan
fod ‘cath’ yn enw benywaidd unigol
mae’n rhaid cael y rhifolyn benywaidd
‘tair’ i gyd-fynd.
Rhifolion a threiglad
• Rheol: Mae enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn un.
e.e.
Un gath ddu, un gath wen.
• Rheol: Er bod enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn un, mae enw sy’n dechrau â ‘ll’ neu
‘rh’ yn eithrad i’r rheol.
e.e.
Mae gen i un raw.
• Nid yw enw gwyrwaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn un.
e.e.
Un bwrdd oedd yn y dosbarth.
• Mae enw gwrywaidd/ benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn dau/dwy.
e.e.
Mae gan y diafol ddau ben.
Mae gen i ddwy fraich a dwy goes.
• Mae blynedd, blwydd ac weithiau diwrnod yn treiglo’n drwynol ar ôl saith/wyth.
e.e.
Saith bunt gostiodd y bwyd.
Roedd Alan yn yr ysgol â mi saith mynedd yn ôl.
• Ceir treiglad meddal ar ôl y rhifolyn saith/wyth.
e.e.
Mewn wyth mlynedd byddaf yn mynd i Awstralia i fyw.
Pe / Os
•Os bydden nhw heb ildio bydden nhw wedi ennill.
Camgymeriad
Cywiriad
Rheswm
Os bydden nhw pe bydden nhw ‘Pe’ sy’n gywir yma yn hytrach na’r cysylltair ‘os’ gan
mai ‘pe’ ddylid ei ddefnyddio i gyflwyno amod y mae
ansicrwydd yn ei gylch.
•Cewch degan heno pe bydda i wedi ei brynu yn y farchnad leol.
Camgymeriad
Cywiriad
pe bydda i
os bydda i
Rheswm
Y cysylltair ‘os’ sydd ei angen yma gan ei fod yn cael ei
ddefnyddio i gyfleu sicrwydd am rywbeth, ond bodd y sicrwydd
hwnnw yn dibynnu ar rywbeth arall – yn amod y mae’n bosibl ei
gyflawni. Mae ‘pe’ yn cael ei ddefnyddio i gyfleu amheuaeth ac
felly nid yw’n berthnasol yma.
Mae / Mai
Mae – berf, 3ydd unigol
Mai = cysylltair
Dyma gerddoriaeth na chlywais erioed ond gwn mae ef yw’r cyfansoddwr.
Camgymeriad
Cywiriad
Rheswm
mae
mai
Y cysylltair ‘mai’ sydd ei angen
yma ar ddechrau’r cymal enwol er
mwyn pwysleisio ac nid y ferf
‘mae’.
Rydw i’n sicr mae’n mynd i groesi’r llinell yn y gêm heddiw.
Camgymeriad
mae e’n mynd
Cywiriad
ei fod e’n mynd
Rheswm
Mae angen y ferf ‘bod’ yn y cymal enwol.
Treigladau ar ôl arddodiaid
Pwrpas arddodiaid yw dangos y berthynas rhwng gair (e.e. berf) ac enw/rhagenw
e.e.
Mae’r gath ar y mat.
Mae’r gadair o dan y bwrdd.
TREIGLAD TRWYNOL
Mae treiglad trwynol mewn enwau lleoedd sy’n dod yn syth ar ôl ‘yn’
Sylwch fel mae’r ‘yn’ yn newid weithiau:
P
T
C
B
D
G
Rheol:
P > mh
T > nh
C > ngh
B>m
D>n
G > ng
ym Mhwllheli
yn Nhrefor
yng Nghricieth
ym Mangor
yn Ninas
yng Ngwynedd
Ceir treiglad trwynol ar ôl yr arddodiad ‘YN’
TREIGLAD LLAES
Rheol:
Ceir treiglad llaes ar ôl yr arddodiaid:
â / gyda /tua
P
T
C
P > ph
T > th
C > ch
â phensel
gyda thractor
tua cheiniog
TREIGLAD MEDDAL
Rheol:
Ceir treiglad meddal ar ôl yr arddodiaid:
am
ar
at
gan
heb
i
o
dan
tros
trwy
wrth
hyd
Arddodiaid
Rhedeg arddodiaid yn anghywir
Gofalwch eich bod yn rhedeg yr arddodiaid yn gywir:
e.e.
Mae’r dyn yn perthyn iddo fi
iddo fi > i mi
Rheol: Mae’r arddodiad ‘i’ wedi ei redeg yn anghywir yma
Defnyddio’r arddodiaid anghywir
e.e.
Rwy’n mynd i’r meddyg
i’r meddyg > at y meddyg
Rheol: Mae’r arddodiad anghywir wedi cael ei ddefnyddio.Mynd at berson yr ydych a mynd i le. Dylanwad
cyfieithu uniongyrchol o’r Saesneg yw hyn.
Camleoli arddodiaid
e.e.
Ble wyt ti’n dod o?
O ble wyt ti’n dod?
Rheol:
Mae’r arddodiad wedi cael ei gamleoli. Ni ddylid gorffen brawddeg gydag arddodiaid
Cyfieithu uniongyrchol o’r Saesneg
1. Byddai pethau’n well pe bydden nhw wedi gweithio’r broblem allan.
Gweithio’r broblem allan > datrys y broblem
Rheol: Cyfieithiad uniongyrchol o’r idiom Saesneg. Dylid defnyddio’r ffurf Gymreig.
2. Mae’n hawdd i ddehongli.
Hawdd i ddehongli > hawdd dehongli
Rheol: Cyfieithiad uniongyrchol o’r Saesneg yw ‘i ddehongli’. Mae berfenw Saesneg yn cynnwys y gair
‘to’. Ni ddylid cyfieithu ‘to’ i’r Gymraeg. Nid oes angen yr arddodiad ‘i’ yma felly.
3. ’Rydw i wedi cyrraedd y dudalen olaf o’r llyfr.
y dudalen > tudalen
Rheol: Nid oes angen y fannod. Effaith cyfieithu uniongyrchol o’r Saesneg yw hyn.
Y SANGIAD
Ceir treiglad meddal ar ôl y sangiad:
e.e.
1. Gwelais, ar ôl dychwelyd, tomen o sbwriel yn y gegin flêr.
Camgymeriad
tomen
Cywiriad
domen
Rheswm
Ceir treiglad meddal ar ôl y sangiad.
2. Gwelir, ar ddydd Sul, teuluoedd yn mynd am dro.
Camgymeriad
teuluoedd
Cywiriad
deuluoedd
Rheswm
Ceir treiglad meddal ar ôl y sangiad.
PRIFLYTHYREN
Mae angen llythyren fawr i enw priod e.e. Siôn a Siân
NEGYDD ANGHYWIR
Chlywais i mo’r gwcw eleni gan ni fûm yn cerdded yn y wlad.
Camgymeriad
ni
Cywiriad
na
Rheswm
Defnyddiwyd y negydd anghywir.
TREIGLO AR ÔL Y NEGYDD
Chlywais i mo’r gwcw eleni gan na bûm yn cerdded yn y wlad.
Camgymeriad
na bûm
Cywiriad
na fûm
Rheswm
Ceir treiglad meddal ar ôl y negydd ‘na’.
NEGYDDU ANGHYWIR
1 Dywedodd hi wrth ei mam fod dim ysgol yfory.
2 Hoffwn ymddiheuro i chi bod fi ddim wedi gorffen y gwaith.
3 Derbyniais y feirniadaeth fy mod i ddim yn gweithio’n ddigon caled.
4 Welais i mo’r lili wen fach eleni gan ni fûm yn cerdded yn y wlad.
5 Byddem ni’n deall y cerddi pe byddai’r beirdd ddim yn defnyddio cynghanedd.
6 Fe adwaenon nhw ei gilydd yn yr orsaf er eu bod nhw ddim wedi cyfarfod cyn hynny.
7 Mae’r heddlu heb wedi datgelu enw’r ferch a gyhuddwyd.
8 Ysgrifennodd lythyr ddoe i swyddfa S4C yn cwyno bod dim digon o raglenni ar gyfer pobl ifanc.
9 Mae’n debyg ni fyddant yn yr ysgol gan nad yw’r bws yn fodlon eu codi yn y pentref.
10 Phrynais i mo’r tŷ ddoe am fod dim arian gen i.
11 Clywais i mo John yn gweiddi ar y Prifathro, ond dywedodd wrtha i mai yn Gymraeg roedd yn gweiddi.
12 Prynais i mo’r sgert ddoe am nad oedd arian gen i.
13 Cwrddais i mo’r dyn a fu’n byw mewn bwthyn.
1.
Camgymeriad
fod dim
Cywiriad
nad oes
Rheswm
Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu
cymal.
nad wyf
Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu
cymal.
nad wyf
Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu
cymal.
na fûm
Defnyddiwyd y negydd anghywir yma.
pe na bai’r beidd
Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu
cymal.
er nad oedden nhw Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu
/ er eu bod nhw heb cymal.
gyfarfod
nid yw’r heddlu wedi Negyddu anghywir.
nad oes
Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu
cymal.
na fyddant
Defnyddiwyd y negydd anghywir yma.
am nad oedd
Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu
cymal.
chlywais i mo
Er nad yw’r negydd ‘ni’ wedi’i ysgrifennu yn y frawddeg
y mae’n rhaid treiglo’n llaes mewn gosodiad negyddol. /
Mae angen treiglad llaes wrth negyddu berf.
2.
bod fi ddim
3.
fy mod i ddim
4.
5.
6.
ni fûm
pe byddai’r beidd
ddim
er eu bod nhw ddim
7.
8.
heb wedi
bod dim
9.
10
ni fyddant
am fod dim
11.
clywais i mo
12.
prynais
phrynais
Er nad yw’r negydd ‘ni’ wedi’i ysgrifennu yn y frawddeg
y mae’n rhaid treiglo’n llaes mewn gosodiad negyddol. /
Mae angen treiglad llaes wrth negyddu berf.
13.
cwrddais
chwrddais
Er nad yw’r negydd ‘ni’ wedi’i ysgrifennu yn y frawddeg
y mae’n rhaid treiglo’n llaes mewn gosodiad negyddol. /
Mae angen treiglad llaes wrth negyddu berf.
Ansoddair + enw benywaidd unigol:
e.e.
Mae hon yn ystafell cul.
CAMGYMERIAD
ystafell cul
CYWIRIAD
ystafell gul
RHESWM
Mae ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl enw
benywaidd unigol.
Ansoddair + enw gwrywaidd unigol:
e.e.
Mae Pero yn gi ddel.
CAMGYMERIAD
ystafell cul
CYWIRIAD
ystafell gul
RHESWM
Camdreiglad. Nid yw’r ansoddair yn treiglo
ar ôl enw gwrwyaidd unigol.
Ansoddair + enw lluosog:
e.e.
Maent yn ddynion olygus iawn.
CAMGYMERIAD
dynion olygus
CYWIRIAD
dynion golygus
RHESWM
Camdreiglad. Nid yw ansoddair yn treiglo’
ar ôl enw lluosog.
Enw + yn traethiadol
Mae POB enw’n treiglo’n feddal ar ôl ‘yn’ traethiadol – enwau gwrywaidd, benywaidd a lluosog.
e.e.
ENW BENYWAIDD = merch > yn ferch
ENW GWRYWAIDD = bachgen > yn fachgen
ENW LLUOSOG = merched > yn ferched
e.e. Mae Steffan yn disgybl cydwybodol.
CAMGYMERIAD
yn disgybl
CYWIRIAD
yn ddisgybl
RHESWM
Mae’r enw gwrywaidd unigol ‘disgybl’ yn
treiglo’n feddal ar ôl ‘yn’ traethiadol.
Mae ANSODDAIR yn treiglo’n feddal yn y traethiad ar ôl ‘yn’:
e.e.
Mae’r gwpan yn poeth.
CAMGYMERIAD
yn poeth
CYWIRIAD
RHESWM
yn boeth
Mae’r ansoddair ‘poeth’ yn treiglo’n feddal
yn y traethiad ar ôl ‘yn’.
OND:
Nid oes treiglad os yw’r ansoddair yn dechrau gyda’r gytsain ‘ll’ neu ‘rh’.
e.e.
Mae fy ngwaith yn ragorol.
Camgymeriad
yn tawel
Cywiriad
yn dawel
Rheswm
Mae ansoddair yn treiglo’n feddal yn
y traethiad ar ôl yn/’n ond nid oes
treiglad os yw’r ansoddair yn dechrau
gyda’r gytsain ‘ll’ neu ‘rh’.
CENEDL YR ANSODDAIR DANGOSOL
e.e.
Cafodd y bachgen a’i frawd wobr y flwyddyn hwnnw.
CAMGYMERIAD
CYWIRIAD
RHESWM
blwyddyn hwnnw
y flwyddyn honno
Mae angen yr ansoddair dangosol
benywaidd ar ôl enw benywaidd.
CENEDL Y RHAGENW DANGOSOL
e.e.
Hwn yw’r flwyddyn orau.
Camgymeriad
Hwn
Cywiriad
hon
Rheswm
Mae cenedl y rhagenw dangosol yn anghywir. Mae
angen rhagenw dangosol benywaidd wrh gyfeirio
at enw benywaidd.
Berfau
Cwestiwn 1 b)
1. Amser anghywir y ferf –
e.e.
Clywaf fod y bwyd yn dda yno neithiwr.
clywaf > clywais
Rheswm:
Mae amser anghywir y ferf wedi cael ei ddefnyddio. Mae angen amser gorffennol y ferf yn y
person cyntaf unigol gan fod y weithred wedi digwydd yn y gorffennol (neithiwr).
2. Berf Amhersonol v Berf Bersonol
Berfau Personol yr Amser Presennol =
-af
-i
-a
Berf Amhersonol yr
Amser Presennol =
-wn
-wch
-ant
-ir
e.e.
Gwelir y bardd lawer o’i gerddi mewn cylchgronau.
Gwelir > Gwêl
Rheswm:
Nid berf amhersonol sydd ei angen yma am fod y ferf yn cyfeirio at berson. Dylid defnyddio’r trydydd person
unigol yn yr amser presennol.
3. Terfyniad anghywir y ferf o fewn yr un amser
e.e.
Gwyddaf fod llawer o drysorau yn yr amgueddfa y mae pobl leol yn ymddiddori ynddynt.
gwyddaf > gwn
Rheswm: Mae ffurf y ferf yn anghywir. Y person cyntaf unigol, amser presennol y berfenw ‘gwybod’ sy’n
gywir.
Berfau
Pan aeth i’r dref mae hi wedi gweld anrhegion yn y siopau.
iii.ii
Camgymeriad
mae hi wedi gweld
Cywiriad
gwelodd hi
Rheswm
Gan fod y ferf ‘aeth’ ar ddechrau’r
frawddeg mae angen defnyddio amser
gorffennol y ferf i gyd-fynd. O’r
herwydd, y ferf gryno, trydydd person,
unigol, benywaidd yn yr amser
gorffennol sydd ei angen yma.
DIM TREIGLAD AR ÔL BERF AMHERSONOL
e.e.
Gwelir fod yr haul yn machlud yn awr .
iii.ii
Camgymeriad
gwelir fod
Cywiriad
gwelir bod
Rheswm
Camdreiglad. Nid oes angen treiglo ar ôl
berf amhersonol.
ARDDODIAID A BERFAU
e.e.
Peidiwch a pharcio yma.
iii.ii
Camgymeriad
peidiwch a
Cywiriad
peidiwch â
Rheswm
Defnyddiwyd y gair anghywir yma. Mae
angen yr arddodiad ar ôl y ferf yn
hytrach na’r cysylltair.
Am restr lawn o’r arddodiaid sy’n dilyn berfau/berfenwau penodol gweler y daflen
‘arddodiaid’ rydych wedi’i gael yn ystod y tymor.
GEIRYN GOFYNNOL ‘A’.
Dylid defnyddio’r geiryn gofynnol ‘a’ i ofyn cwestiwn anuniongyrchol.
e.e.
A gyrhaeddi di cyn te?
A ruodd y llew drwy’r nos?
•Wn i ddim os ydi hi wedi ysgrifennu ynglŷn â’r achos.
Camgymeriad
os ydi
Cywiriad
a ydi
Rheswm
Dylid defnyddio’r geiryn gofynnol ‘a’ i ofyn
cwestiwn anuniongyrchol.
Os defnyddir y geiryn gofynnol ‘a’ i ofyn cwestiwn, mae’r ferf sy’n ei ddilyn
yn treiglo’n feddal.
e.e.
A plannaf fi’r syniad yn ei ben ai peidio?
Camgymeriad
a plannaf
Cywiriad
a blannaf
Rheswm
Y geiryn gofynnol ‘a’ sydd
yma. Mae’n rhaid i’r ferf sy’n
dilyn y geiryn gofynnol ‘a’
dreiglo’n feddal.
Cofiwch y gall camgymeriad fod yn gamgymeriad sillafu
hefyd!
CYSYLLTEIRIAU
Cysylltair yw gair sy’n cysylltu dau beth â’i gilydd.
e.e.
Siôn a Siân
CYSYLLTAIR – TREIGLAD MEDDAL
Mae enw/berfenw/ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl y cysylltair ‘neu’:
e.e.
Coch neu binc?
Beiro ddu neu goch sydd orau gen ti?
CYSYLLTAIR – TREIGLAD LLAES
Mae’r cysylltair â (as), a (and), oni / os na, na yn achosi treiglad llaes.
e.e.
Mae gen i gi a chath.
Cysylltair - a/ac
ac = cysylltair – o flaen geiriau sy’n cychwyn â llafariad
e.e. Afal ac oren
a = cysylltair – o flaen geiriau sy’n cychwyn â chytsain
e.e. Sion a Sian
Mae’r cysylltair ‘a’ yn achosi treiglad llaes:
p >ph
t > th
c > ch
e.e. papur a phensel
e.e. crys a thei
e.e. car a cheffyl
TREIGLAD MEDDAL =
Mae yn traethiadol yn achosi treiglad meddal:
•Mae Elwyn yn ddyn diog = Mae’r enw ‘dyn’ yn treiglo’n feddal yn y traethiad ar ôl ‘yn’.
• Nid yw Morys yn ddiolchgar am ddim = Mae’r ansoddair ‘diolchgar’ yn treiglo’n feddal yn y traethiad ar ôl
‘yn’.
EITHRIAD: Nid yw ‘ll’ a ‘rh’ yn treiglo yn y traethiad ar ôl ‘yn’.
e.e.
ll: A yw’r llety hwn yn lle cyfforddus?
rh: Mae’n rhaw gadarn.
Gwrthrych yw’r un y digwydd y gweithgaredd iddo.
e.e. Taflodd y bachgen y garreg yn galed er mwyn torri’r ffenestr.
gwrthrych
GWRTHRYCH BERF GRYNO
Ffurf gryno: Canodd y gân.
Ffurf gwmpasog: Yr oedd ef yn canu cân.
Mae gwrthrych berf gryno yn treiglo’n feddal:
e.e.
Cynlluniau pontydd i’r cyngor lleol.
Camgymeriad
Cywiriad
cynlluniau
cynlluniau
pontydd
bontydd
Rheswm
Mae gwrthrych berf gryno
yn treiglo’n feddal.
NEGYDDU
Brynais i mo’r tŷ ddoe am fod dim arian gen i.
Camgymeriad
i.i
i.ii
brynais
am fod dim
Cywiriad
Rheswm
phrynais
Camdreiglad. Mae angen treiglad llaes am ei
fod yn y ffurf negyddol.
am nad oedd
Defnydd anghywir o’r negydd. Ni ddylid
negyddu cymal drwy ddefnyddio ‘dim’.
RHAGENW PERTHYNOL
Beth yw’r rhagenw perthynol?
Mae rhagenw perthynol yn gwneud yn lle enw mewn brawddeg, pan mae’r enw ei hun wedi digwydd yn y
frawddeg yn barod.
Er enghraifft:
Dyma’r bachgen. Torrodd y bachgen y ffenestr.
Dyma’r bachgen a dorrodd y ffenestr.
Mae berf yn treiglo’n feddal os yw’n dilyn y rhagenw perthynol ‘a’.
e.e.
Dyma’r bachgen a plannodd yr ardd i mi.
Camgymeriad
a plannodd
Cywiriad
Rheswm
a blannodd
Mae berf yn treiglo’n feddal os
yw’n dilyn y rhagenw perthynol ‘a’.
Rhagenw Perthynol y, yr, ’r
1. Mae angen defnyddio’r rhagenw perthynol y/yr/’r cyn arddodiad personol
e.e.
Hwn yw’r car yr eisteddodd yr eliffant arno.
Hwn yw’r dyn a eisteddodd yr eliffant arno.
Camgymeriad
Cywiriad
a eisteddodd
yr eisteddodd
Rheswm
Mae angen defnyddio’r rhagenw
perthynol ‘yr’ cyn yr arddodiad
personol ‘arno’.
2. Mae angen defnyddio’r rhagenw perthynol y/yr/’r cyn rhagenw personol
e.e.
Dyma’r dyn y gwelais ei gar yn yr afon.
Dyma’r dyn a welais ei gar yn yr afon.
Camgyme
riad
a welais
Cywiriad
y gwelais
Rheswm
Mae angen defnyddio’r rhagenw perthynol ‘y’ cyn
y rhagenw dibynnol blaen, trydydd unigol ‘ei’.
3. Mae angen defnyddio’r rhagenw perthynol cyn berf yn y dyfodol neu’r amodol
e.e.
Dyma’r dyn y bydd hi’n ei briodi.