Transcript Tasg 2
Nodyn i’r athro/athrawes: Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn. Rhowch un cerdyn i bob disgybl. Dyma enghraifft o sut y gellid cwblhau’r dasg hon: Disgybl A: Beth ydy’r rhagenw dibynnol blaen sy’n achosi treiglad trwynol? Disgybl B: fy Disgybl A: Wnei di dreiglo ‘fy’ + ‘parot’ plîs. Disgybl B: Fy mharot. Disgybl A: Cywir. Beth ydy’r rheswm? Disgybl B: Mae’r enw ‘parot’ yn treiglo’n drwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’. Disgybl A: Cywir! Y dasg yn cael ei hail-adrodd gyda disgybl B yn holi y tro hwn. Cyfnewid cardiau a mynd at bartner gwahanol. Parot Parot • Parot + treiglad meddal = dy barot / ei barot o • Rheswm – Mae’r enw ‘parot’ yn treiglo’n feddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail berson unigol ‘dy’/trydydd person unigol, gwrywaidd ‘ei’. Teigr Teigr • Teigr+ treiglad trwynol = Fy nheigr • Rheswm – Mae’r enw ‘teigr’ yn treiglo’n drwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’. Cath Cath • cath+ treiglad llaes= ei chath hi • Rheswm – Mae’r enw ‘cath’ yn treiglo’n llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, trydydd person unigol, benywaidd ‘ei’. Babŵn Babŵn • Babŵn + treiglad trwynol = Fy mabŵn • Rheswm – Mae’r enw ‘babŵn’ yn treiglo’n drwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’. Dafad Dafad • Dafad + treiglad meddal = Dy ddafad / ei ddafad o • Rheswm – Mae’r enw ‘dafad’ yn treiglo’n feddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail berson unigol ‘dy’/trydydd person unigol, gwrywaidd ‘ei’. Gafr Gafr • Gafr+ ein = Ein gafr ni • Rheswm – Nid yw’r enw ‘gafr’ yn treiglo ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf lluosog ‘ein’. Llyffant Llyffant • Llyffant + treiglad meddal = dy lyffant / ei lyffant o • Rheswm – Mae’r enw ‘llyffant’ yn treiglo’n feddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail berson unigol ‘dy’/trydydd person unigol, gwrywaidd ‘ei’. Mwnci Mwnci • Mwnci + treiglad meddal = dy fwnci / ei fwnci o • Rheswm – Mae’r enw ‘mwnci’ yn treiglo’n feddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail berson unigol ‘dy’/trydydd person unigol, gwrywaidd ‘ei’. Rhinoseros Rhinoseros • Rhinoseros + treiglad trwynol = Fy rhinoseros • Rheswm – Nid yw’r enw ‘rhinoseros’ yn treiglo ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’ gan ei fod yn cychwyn â’r gytsain ‘rh’. Ci Ci • Ci+ treiglad llaes = ei chi hi • Rheswm – Mae’r enw ‘ci’ yn treiglo’n llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, trydydd person unigol, benywaidd ‘ei’.