Trafodwch gynnwys y gerdd?

Download Report

Transcript Trafodwch gynnwys y gerdd?

teg fair ar y cyfan on the whole wedwn i I’d say gwnio to stitch / sew

CYNNWYS – cynnwys, stori, neges … ARDDULL – mesur, adeiladwaith, technegau … SYNOPTIG – ffilmiau a rhaglenni, erthyglau a

storiau, nofelau, dramau, cerddi …

BYW FORY

Isho heddiw isho rŵan, wrth stemio ffenest Owen Owen.

Isho cyllell isho fforc, isho peth’na i dynnu corc.

Isho llun isho rwbath i’w ddal isho petha arall i’w ddal ar y wal.

Isho handbag isho het isho’r thing’na i ddal syrfiêt.

Isho Coco Pops a Shreded Whît, isho be ti’n galw jyst fel trît.

Isho si-bŵts, isho Si-Di isho brêc bach bai ddy sî Isho Cantonîs têc awê isho îsi wê of pê Problemau heddiw Dwi’n teimlo’n well teimlo’n ffantastig yn llyncu ‘mil efo aspirin blastig.

Bachu ‘mag a sgrialu: byw fory, byw talu.

Myrddin ap Dafydd 1. Dyled 2. Tlodi 3. Diweithdra …

1. Trafodwch gynnwys y gerdd.

2. Dadansoddwch arddull y gerdd e.e. technegau effeithiol, adeiladwaith … 3. Trafodwch unrhyw lenyddiaeth arall rydych chi wedi astudio ar y thema “Cyfrifoldeb”

Ond dw i eisiau …

GEIRFA

isho = eisiau stemio = to steam up Llyncu mil = to swallow my bill bachu = to grab sgrialu = to scarper

ER COF AM KELLY

(sgwennwyd ym Melffast) Geneth naw mlwydd oed Ar gymwynas daith; Peint o laeth gwyn I gymydog.

Trwy gyrrau’r ffenest Gwyliodd ei mam, Ei gweld yn cerdded A chwympo; Bwled wedi’i bwrw Gwydr fel ei chnawd yn deilchion Panig wedi’r poen

“My God, it’s only a little girl”

Meddai’r glas filwr.

Moesymgrymodd.

Meidrolodd, Ei mwytho yn ei gledrau.

“Get your dirty hands off”

Medd cymydog mewn cynddaredd.

Y fam yn ymbil Am ei gymorth cyntaf – olaf.

Gwisgodd amdani ei ffrog ben-blwydd, Dodi losin yn ei harch Y tedi budr a anwesodd o’i chrud Ac aeth ar elor Angau ei noson hwyraf allan.

ar gymwynas = doing a favour yn deilchion = in pieces mwytho = to caress ymbil = to beg budr = dirty angau = death • • • • • CYNNWYS Sut mae’r gerdd yn dechrau?

• Beth sy’n digwydd ym mhennill un?

• Beth am bennill dau a thri? Sut mae’r stori yn datblygu?

Sut mae’r gerdd yn gorffen?

ARDDULL Beth ydy mesur y gerdd?

Pa dechnegau sy’n cael eu defnyddio gan y bardd?

(hyd llinellau, odl, ail-adrodd, defnydd o’r Saesneg, cyflythreniad, cyffelybiaeth, ansoddeiriau effeithiol, geirfa dda …) Pa mor effeithiol ydy’r technegau hyn?

CYFRIFOLDEB

Ffilmiau

Hedd Wyn Solomon a Gaenor Gadael Lenin Patagonia Lois

Storiau Cerddi Monica Blodeuw edd Esther

Mae gen i freuddwyd Diwrnod y Gêm Cilmeri Ailgylchu

EDRYCH MEWN DRYCH (gan Non Evans) Wrth edrych yn y drych Gwelaf berson gwan.

Bob dydd Pam?

Rwyf yn gweld wyneb lliwgar, Gwelw, coch a du-las.

Yr un hen stori bob tro, Plant yn flin ac yn gas.

Yn gaeth fel carcharor Yr unig un.

Fy mhlentyndod yn hir Ac yn boenus Bob nos ar ddi-hun.

Fy nhad a fy mam yn ddiamcan, “Beth ar y ddaear ddigwyddodd, Dan?” Fy nhu mewn yn berwi Fy nheimladau’n corddi, “Disgyn Mam” Y geiriau’n troi yn fy mhen “Dan, Dan, The Dyslexic Man” – Pryd wneith y bwlio Ddod i ben?

Trafodwch gynnwys y gerdd? Beth sy’n digwydd? Sut mae’r gerdd yn gwneud i chi deimlo?

Trafodwch arddull y gerdd e.e. y defnydd o liwiau, y defnydd o ddeialog, y cwestiynau, yr iaith …

GEIRFA drych = mirror gwan = weak gwelw = pale yn gaeth = captive carcharor = prisoner diamcan = clueless corddi = to churn disgyn = to fall, to drop

darn o glai = a piece of clay dofa fi = tame me deigryn = a tear gwallgo = mad, insane clo fi lan = lock me up

CYFRIFOLDEB

CYNNWYS •Dadansoddwch gynnwys y gerdd?

•Oes neges iddi?

ARDDULL •Dadansoddwch arddull y gerdd?

•Esboniwch y defnydd o’r technegau.

SYNOPTIG •Trafodwch thema’r gerdd – Cyfrifoldeb.

•Trafodwch lenyddiaeth neu lunyddiaeth ychwanegol ar y thema hon

GEIRFA hawl = right llofruddio = to murder caethiwo = to keep captive difetha = to destroy dyffrynnoedd = valleys aghenfilod = monsters llygru = to pollute budreddi = filth arteithio = to torture bychanu = to belittle

Sut mae’r gerdd hon yn gwneud i chi deimlo?

• • • • • • • euog?

trist?

cymysglyd?

ofnus?

di-fater?

pryderus?

…?

Eiliad = second Llosgi = to burn Truan = poor one Beddrod = a grave Angen = need I.

II.

Trafodwch gynnwys y gerdd hon gan Tudur Dylan. Beth ydy neges y bardd?

Dadansoddwch arddull y gerdd ac esboniwch resymau’r bardd am ddefnyddio’r technegau hyn.

III. Trafodwch unrhyw lenyddiaeth a ddarllenwyd neu lunyddiaeth a wyliwyd ar y thema hon.

Y MWNCI gan Gerallt Lyall Llygaid llosg ar dân Effaith ddrewllyd sebon gwallt melys.

Ei bawen grynedig yn dangos ofn, Y cotiau gwyn Yn ceisio bod yn garedig.

Ymddangos fel clown Yn gwisgo’r colur drud Sy’n cosi ei wyneb trist.

Rhoi mwythau a maldod A’i roi yn y cawell gorau Cyn rhoi pigiad iddo Fel gwenwyn gwyllt Yn teimlo’n sâl, swp sâl Yn wan, yn methu â symud bron.

Sŵn SGRECH Yn gweiddi mewn poen.

Y cotiau gwyn caredig Yn ei ddefnyddio Fel peiriant arbrofi Er mwyn elw I’r cwmni colur llosg = burning effaith ddrewllyd = the stinking effect pawen = paw crytnedig = shivering ymddangos = to appear colur = make-up cosi = to itch rhoi mwythau / maldod = to cuddle cawell = cage gwenyn = bees arbrofi = to test elw = profit 1. Dadansoddwch gynnwys y gerdd.

2. Dadansoddwch arddull y gerdd ac esboniwch resymau’r bardd am ddefnyddio’r technegau hynny.

3. Trafodwch unrhyw lenyddiaeth a ddarllenwyd neu lunyddiaeth a wyliwyd ar y thema hon.

Melinau

Neb yn gwylio, Neb yn gwrando, Distaw y daethant annisgwyl – Dros ben y bryn.

GEIRFA annisgwyl = unexpected heb siw na miw = without a sound pori = to graze byddin = army haearn = iron teyrnasu = to rule sathru = to trample diysbryd = without spirit di-baid = without ceasing troelli = to turn lloerig = mad grym = power gwawr = dawn marchogion = horsemen Heb siw na miw, Dim adar yn canu Na chwningod yn chwarae, Na defaid yn pori Ar lan yr afon.

• •

Dadansoddwch gynnwys y gerdd. Oes neges gyda’r bardd?

Y fyddin haearn yn teyrnasu Brenhinoedd y bryn yn sathru’r caeau Dan draed Dideimlad, diysbryd, Di-baid.

Dadansoddwch arddull y gerdd ac esboniwch resymau’r bardd am ddefnyddio’r technegau hynny.

Berfau effeithiol Defnydd o’r negyddol cyflythreniad Geirfa arbennig

Breichiau du’n troelli’n lloerig Herio’r gwynt â sgrech eu grym, Gwawr Armageddon, Marchogion modern yn disgwyl eu Don Quixote

Ail adrodd Hyd llinellau odl iaith

Lynn Phillips

CYFRIFOLDEB

Oes rhaid i mi?

Oes rhaid i mi ddarllen y darllen a deall ac ateb y cwestiynau ar gyfer yr ail wers yfory?

Oes rhaid i mi wrando a deall y sgwrsio a llenwi’r holl fylchau ar gyfer gwers pedwar yfory?

Oes rhaid i mi wrando ar fwletin radio am blant bach digartref yn llwgu yng Nghanol y baw?

Mae’n rhaid i mi wrando Mae’n rhaid i mi gofio ac wrth gydymdeimlo mae’n rhaid i mi estyn fy llaw.

Oes rhaid i mi ddarllen a chlywed yr hanes am grio a gormes yn Chechnya draw?

bylchau = gaps gormes = oppression llwgu = starving baw = dirt cydymdeimlo to sympathise estyn fy llaw to reach out my hand a) Trafodwch gynnwys y gerdd “Oes rhaid i mi?” b) Trafodwch ardull y gerdd hon?

c) Ydych chi wedi gwylio neu ddarllen unrhyw beth arall ar y thema yma? Trafodwch.

HELP

gwefus = lip gwahoddiad = invitation dall = blind croen = skin gwasgu = to press addewid= a promise cyrff = bodies gwaed = blood 1. Dadansoddwch gynnwys y gerdd.

2. Dadansoddwch arddull y gerdd ac esboniwch resymau’r bardd am ddefnyddio’r technegau hyn.

3. Prif thema’r gerdd ydy CARIAD. Manylwch ar y thema yma drwy gyfeirio at y gerdd ac at unrhyw lenyddiaeth a ddarllenwyd neu lunyddiaeth a wyliwyd gennych ar y thema yma.

Dadansoddwch gynnwys y gerdd.

Dadansoddwch arddull y gerdd. Trafodwch y technegau gwahanol a ddefnyddiwyd gan y bardd.

Meddyliwch am ddeunydd arall rydych chi wedi astudio ar y thema hon – cerddi, dramau, ffilmiau, erthyglau papur newydd ...

yr wythfed ran o fodfedd an eighth of an inch hirfain = slender hoelen = nail hudolus = enchanting minlliw = lipstick lludw = ashes pridd = earth deugain = forty

Cariad Oes

Â’r ffordd Yr oedd hi’n dal ei sigaret Y syrthiodd o Mewn cariad Yr holl flynyddoedd byr yn ôl.

Efo steil – Yr wythfed ran O fodfedd O ben ei bysedd hirfain Tra’n chwythu’r mwg Drwy gusan gwefus chwibanog Yn llinell fain lwyd a flodeuai yn gwmwl o stil yn yr awyr o’i blaen.

Ei choesau hirion Wedi eu croesi’n Secsi A’r sigaret Yn hoelen wen hudolus Gyda modrwy goch Cusan ei minlliw Yn briod â’r ffiltar brown.

Dyna’r darlun A wêl heddiw Wrth ollwng ei lludw i’r pridd A hithau Heb weld ei deugain oed.

Glyn Evans

Trafodwch i.

y cynnwys ii. yr arddull iii. y thema

HELP

crafion = scratches picellau gwydyr glass spears gwythiennau = veins rhychau = grooves fferu = to freeze aroglau = smells einioes = life rhwygo = to tear apart tywallt = to pour deugain llath = forty yards cerbyd = car gwrthdrawiad = crash clawdd = hedge

1. CYNNWYS : Beth ydy

thema’r gerdd? Beth sy’n digwydd yma?

Ar Ôl Colli

Wrth adael cae, mae’r pennau’n isel, A’r llygaid ar y llawr, Y gelyn wedi’n curo!

A’r tîm yn methu coelio Mewn siomedigaeth fawr.

Mae’r rhes cefnogwyr oedd yn gwylio Yn curo dwylo’n brudd Gan ddweud “Da iawn ‘chi hogiau, Mi wnaethoch chi eich gorau – Nid heddiw oedd eich dydd” Pob cyfle da a aeth yn wastraff Pob cic a aeth yn gam Pob pâr o ddwylo’n llithrig Pob tacl yn ddigynnig A’r tîm i gyd heb fflam.

Mae’n dawel yn y stafell newid A phob un am y tristaf Ond yna, Siôn sy’n codi Cau’i ddwrn a dechrau gweiddi: “Hei lwc, y Sadwrn nesaf!” (Myrddin ap Dafydd)

2. ARDDULL : Nodwch y

pethau da yn y gerdd hon?

3. Mae’r gerdd yn trafod rygbi. Beth ydy Cymru i chi? Ysgrifennwch baragraff yn trafod Cymru ac ym mha ffordd mae Cymru yn bwysig i chi?

GEIRFA

y gelyn = the enemy methu coelio = can’t believe siomedigaeth = disappointment llithrig = slippery dwrn = fist gweiddi = to shout

IE A NAGE

“How many ways do you need to say “yes” and “no” in Welsh?” Dysgwr yn Noc Penfro

Sawl ffordd sy yna o ddweud “yes” a “no” Yn Gymraeg?

Wel mae yna Ydw a Nac ydw, Ie a Nage!

Mae yna Oes a Nac Oes, Oedd a Nac oedd; Bydd, Na fydd; Do a Naddo; Gallwn, Na allwn.

Ond beth am drio Torri ambell gornel Trwy ddweud yn blaen, “Weithiau” ac “Efallai”?

(Menna Elfyn) Cynnwys – stori, neges, adeiladwaith … Arddull – technegau e.e. hyd llinellau, ail adrodd, defnydd o’r Saesneg … Synoptig – ffilmiau, storiau, nofelau, cerddi, rhaglenni teledu, erthyglau …

11.12.82

Daeth saith canrif ynghyd yn oerfel Cilmeri, a’r dail yn diferu atgofion: saith canrif o sôn am orchesion hen oesau, a’r dydd yn gymylau gwelwon: saith canrif o sefyll ar erchwyn y dibyn, a’n traed bron fferru’n eu hunfan: saith canrif o gyfri’r colledion yn dawel, ac edrych i’r gorwel yn ddistaw: aeth saith canrif yn ddistaw ger carreg Cilmeri, a’r awel ar rewi llif Irfon...

...yna bloeddiodd y baban a thoddi’r gaeafddydd a chwalu’r distawrwydd, a her canrif newydd yn nychryn ei waedd.

( Iwan Llwyd)

Trafodwch gynnwys y gerdd hon. Beth ydyn ni’n dysgu yn y gerdd? Beth ydy neges y gerdd?

Dadansoddwch arddull y gerdd. Esboniwch resymau’r bardd dros ddefnyddio’r technegau hyn.

Beth ydych chi’n gwybod am hanes 1282?

GEIRFA

canrif = century diferu = to drip atgofion = memories gorchestion = feats, accomplishments erchwyn = edge coledion = losses gorwel = horizon awel = breeze llif = flow bloeddio = to shout chwalu = to scatter, to spread distawrwydd = silence, quiet gwaedd = a shout