Tawelu’r Storm Mathew 8:23-27, Luc 8:22-26 Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw'r llyn?” Aeth Iesu.
Download ReportTranscript Tawelu’r Storm Mathew 8:23-27, Luc 8:22-26 Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw'r llyn?” Aeth Iesu.
Tawelu’r Storm
Mathew 8:23-27, Luc 8:22-26
Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw'r llyn?” Aeth Iesu i'r cwch, a'i ddisgyblion ar ei ôl.
Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau.
Roedd y disgyblion yn cael eu taflu o ochr i ochr gan y tonnau.
Roedden nhw wedi dychryn!
Ond cysgodd Iesu'n drwm drwy'r cwbl!
Dyma'r disgyblion yn mynd ato mewn panig a'i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni'n mynd i foddi!”
Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae'ch ffydd chi?”
Yna cododd ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau.......
.....ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel.
Addasiad GJenkins o waith gwreiddiol www.max7.org
Roedd ffrindiau Iesu wedi dychryn ac yn rhyfeddu at beth ddigwyddodd. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwynt a'r dŵr yn ufuddhau iddo.” Addasiad GJenkins o waith gwreiddiol www.max7.org