Ysgrifennu deialog

Download Report

Transcript Ysgrifennu deialog

Sut i Ddefnyddio’r Pecyn Hwn
Rwyf wrth fy modd yn gwneud y dasg sgriptio gyda myfyrwyr Cymraeg UG;
mae’n dasg gwbl newydd iddynt ac yn un sy’n apelio bron bob tro. Fel safonwr
gwaith cwrs, rwyf wedi sylwi mai hon yw’r dasg fwyaf llwyddiannus yn y mwyafrif
o ffolios ond, mai hon hefyd yw’r un sy’n achosi mwyaf o broblemau!
Pwrpas y pecyn yw arwain athrawon a myfyrwyr wrth iddynt baratoi i lunio’u
sgript bersonol. Fydd dim amser i wneud pob ymarfer, ond gan nad ydynt yn
ddibynnol ar ei gilydd, gallwch eu defnyddio fel y mynnoch. Gall myfyrwyr
ddefnyddio’r pecyn ar eu liwt eu hunain hefyd wrth gwrs.
Byddaf yn cyflwyno’r dasg sgriptio i fy nisgyblion ar ddechrau Medi gan
bwysleisio’r angen i ddarllen cymaint â phosibl o straeon byrion. Byddaf yn
sefydlu ‘llyfrgell straeon’ i’r pwrpas a byddwn wedyn yn mynd ati i wneud rhai o’r
ymarferion am yn ail a gwaith gramadeg cyn mynd ati i wneud y dasg derfynol o
gwmpas hanner tymor yr Hydref.
Doedd hi ddim yn ymarferol seilio pob ymarfer ar stori fer wahanol felly rwyf wedi
cadw at dair stori fer, sef Y Dieithryn gan Eleri Llewelyn Morris; Cwtsho gan
Manon Rhys; a ‘Sglyfaeth gan Meleri Wyn James.
Einir Lois Jones
Ysgol Morgan Llwyd
Wrecsam