Welcome to a new presentation

Download Report

Transcript Welcome to a new presentation

TGAU ECONOMEG Y CARTREF
TGAU Datblygiad y Plentyn
Gwybodaeth Bwnc
Mae’r cwrs hwn yn angenrheidiol i unrhyw un sy’n gwybod y byddent yn hoffi
gweithio gyda phlant neu i’r rheiny sydd eisiau dysgu am deuluoedd, beichiogrwydd
a sut mae plentyn yn datblygu – yn gorfforol, yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn
ddeallusol hyd at 5 mlwydd oed.
Mae 6 prif faes astudio:
• Adran
1 – Y Teulu a’r Plentyn
•Adran 2 – Bwyd a Iechyd
• Adran 3 – Beichiogrwydd
• Adran 4 – Datblygiad Corfforol
• Adran 5 – Datblygiad Deallusol
• Adran 6 – Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol
• Mae cysylltiad â phlant ifanc yn hanfodol
TGAU Datblygiad y Plentyn
Gwybodaeth Bwnc
CRYNODEB O’R ASESIAD
Uned 1: Egwyddorion Datblygiad y Plentyn: (40%)
Papur Ysgrifenedig: 1½ awr
80 marc (80 GMU)
Un papur a gaiff ei osod a'i farcio'n allanol, wedi'i dargedu at yr ystod lawn o raddau
TGAU.
Bydd y papur yn cynnwys cwestiynau atebion byr, strwythuredig ac ymateb rhydd
wedi'u tynnu o bob maes o'r fanyleb a bydd yn asesu ansawdd cyfathrebu
ysgrifenedig.
Uned 2: Astudiaeth o Blentyn (30%)
Asesiad dan Reolaeth
60 marc (60 GMU)
Un dasg i'w dewis o fanc o dair tasg a osodir gan CBAC, i gynnwys archwiliad a
chynhyrchiad yn canolbwyntio ar ddatblygiad plentyn.
Hyd: 15 awr i gychwyn yn hanner cyntaf y cwrs.
Wedi'i hasesu'n fewnol gan ddefnyddio meini prawf gosod CBAC ac wedi'i safoni'n
allanol.
Uned 3: Tasg yn canolbwyntio ar blentyn (30%)
Asesiad dan Reolaeth
60 marc (60 GMU)
Un dasg i'w dewis o fanc o ddwy dasg wedi'u gosod gan CBAC, i gynnwys
ymchwilio, cynllunio, gwneud a gwerthuso.
Hyd: 15 awr i gychwyn yn ail hanner y cwrs.
Wedi'i hasesu'n fewnol gan ddefnyddio meini prawf gosod CBAC ac wedi'i safoni'n
allanol.
TGAU Datblygiad y Plentyn
Gwybodaeth Bwnc
Gellir cael y wybodaeth ofynnol trwy gwblhau llyfrynnau gwaith, Gweithgareddau
chwarae rôl e.e. trafod gyda ffrind peryglon ysmygu yn ystod beichiogrwydd;
Gemau e.e. bingo, dominos, datganiadau cywir neu anghywir; Gwylio fideos e.e.
Teenage Mums a Gwaith Ymarferol e.e. paratoi prydau bwyd addas ar gyfer
gwraig feichiog. Gellir hefyd defnyddio siaradwyr gwadd i gyflwyno materion
sensitif megis Moesoldeb, Cynllunio Teulu ac Erthyliad.
LLWYBR AWGRYMEDIG TRWY’R FANYLEB
BLWYDDYN 10 – Tymor 1 (tua 30/35 gwers)
Awgrymir cymryd gwaith o feysydd astudio craidd 3 a 4 gan mwyaf.
Ar ddiwedd y tymor, cyflwyniad sylfaenol i’r datblygiad corfforol, deallusol,
emosiynol a chymdeithasol, h.y. meysydd craidd 4, 5 a 6. Mae hwn i
baratoi ar gyfer cychwyn ar Uned 2, yr asesiad dan reolaeth ym mis Ionawr.
Blwyddyn 10 – Tymor 2 (tua 30 gwers)
Dylid cymryd gwaith y tymor hwn o feysydd astudio 4, 5 a 6 gan bydd y rhain yn
cefnogi Uned 2, y dasg dan reolaeth.
Bydd angen cydblethu’r addysgu â rhywfaint o’r 15 awr dan reolaeth sydd yn
rhaid eu treulio ar Uned 2 y dasg dan reolaeth. Bydd angen amser ar yr
ymgeiswyr rhwng y sesiynau dan oruchwyliaeth fel y bod modd iddynt gasglu
gwybodaeth a chwblhau arsylwadau o’u hastudiaeth.
TGAU Datblygiad y Plentyn
Gwybodaeth Bwnc
Blwyddyn 10 – Tymor 3 (tua 28 gwers)
Bydd gwaith y tymor hwn yn canolbwyntio ar faes astudio 2 – Bywd a
Iechyd a’r gweddill yn oriau tasg dan reolaeth Uned 2.
Blwyddyn 11 – Tymor 1 (tua 30/35 gwers)
Bydd gwaith y tymor hwn yn canolbwyntio ar y maes astudio cyntaf – Y Teulu a’r
Plentyn. Bydd angen cyflwyno Uned 3 a dylid rhoi arweiniad i ymgeiswyr o ran y
dull cwblhau ym mis Ionawr.
Blwyddyn 11 – Tymor 2 (tua 30 gwers)
Bydd gwaith y tymor hwn yn cwblhau testunau o faes astudio 1 a bydd yr
ymgeiswyr yn cwblhau asesiad dan reolaeth Uned 3, 15 awr.
Bydd gweddill y gwersi y tymor hwn ar gyfer cwblhau testunau, adolygu a
chwblhau papurau arholiad enghreifftiol.
Llwybrau dilyniant i Astudio Pellach:
UG/U2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
U/UG Seicoleg / Cymdeithaseg
BTEC Cyrsiau gofalu
Llwybrau dilyniant i Yrfa a Chyflogaeth:
Nyrs Feithrin, Arweinydd Cylch Chwarae, Nani, Athro/Athrawes, Cynorthwyydd Cefnogi
Dysgu, Nyrs Paediatreg.
Cyfuniadau pwnc:
Gwyddoniaeth – elfen fiolegol, TG ar gyfer cynhyrchu gwaith cwrs, Technoleg
(tecstilau neu ddefnyddiau gwrthiannol), Lletygarwch ac Arlwyo – ar gyfer sgiliau
ymarferol, asesiad dan reolaeth a Maeth.