Caneuon Gwersyll

Download Report

Transcript Caneuon Gwersyll

Caneuon Gwersyll










Aderyn Melyn
Ar Hyd Y Nos
Bingbong
Ble Mae Daniel
Cân Y Cawr
Canu Roc A Rôl
Dacw Ti Yn Eistedd
Dathlwn Glod
(Ymdeithgan Yr Urdd)
Daw Hyfryd Fis
Don Y Meicrodon











Franz O Wlad Awstria
Hei Mistar Urdd
Hen Feic Peni-ffardding Fy
Nhaid
Hen Wlad Fy Nhadau
Het Tri Chornel
Joio Yn Y Jambori
Nant Y Mynydd
Nefol Dad
Oes Gafr Eto?
Pen, Ysgwyddau, Coesau,
Traed
Sosban Fach
ADERYN MELYN
Aderyn melyn i fyny yn y goeden banana, banana
Aderyn melyn i fyny yn y goeden banana,
Cytgan:
Paid a mynd i ffwrdd
Paid a fflio i ffwrdd
Paid a mynd i ffwrdd
Paid a fflio i ffwrdd
Paid a mynd i ffwrdd
Paid a mynd i ffwrdd nawr
Ww, 3,2,1, Cha Cha Cha.
Aderyn gwyrdd i fyny yn y goeden ciwcymber, ciwcymber
Aderyn gwyrdd i fyny yn y goeden ciwcymber,
Cytgan
Aderyn coch i fyny yn y goeden tomato, tomato
Aderyn coch i fyny yn y goeden tomato,
Cytgan
Aderyn brown i fyny yn y goeden siocled, siocled
Aderyn brown i fyny yn y goeden siocled,
Cytgan
Aderyn oren i fyny yn y goeden Fanta, Fanta
Aderyn oren i fyny yn y goeden Fanta.
Cytgan
nôl
AR HYD Y NOS
Holl amrantau'r sêr ddywedant
Ar hyd y nos,
Dyma'r ffordd i fro gogoniant
Ar hyd y nos,
Golau arall yw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren
Ar hyd y nos,
I oleuo'i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos,
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan i'n gilydd
Ar hyd y nos.
nôl
BINGBONG
Cytgan:
Bing, bong, bing bong be.
Bing, bong, bing bong be.
Bing, bong, bing bong be.
Bing, bong, bing bong be.
Dau gi bach yn mynd i'r coed
Esgid newydd ar bob droed,
Dau gi bach yn dwad adre,
Wedi colli un o'u sgidie.
Cytgan
Ma' nhw'n dwedydd ac yn sôn
Mod i'n caru yn Sir Fôn;
Minnau sydd yn caru'n ffyddlon
Dros y dŵr yn Sir Gaernarfon.
Cytgan
Mae Ffair y Borth yn nesu,
Caf deisen wedi ei chrasu,
A chwrw poeth o flaen y tân
A geneth lân i'w charu.
Cytgan
Bum yn claddu hen gydymaith
A gododd yn fy mhen i ganwaith;
Ac rwy'n amau, er ei briddo,
Y cyfyd yn fy mhen i eto.
Cytgan
nôl
BLE MAE DANIEL?
Ble mae Daniel?
Ble mae Daniel?
Yn ffau’r llewod
Yn ffau’r llewod
Am beth?
Am beth?
Am iddi beidio addoli’r ddelw.
nôl
CÂN Y CAWR
Roedd bachgen bach o’r enw Twm,
Roedd rhywbeth yn ei boeni,
Er bwyta bwydydd o bob math,
Doedd Twmi ddim yn tyfu.
Roedd ei ffrindiau i gyd yn fwy na fo,
A Twmi yn bitw bychan
Bob nos a dydd roedd y bachgen prudd
Yn gwneud dim on breuddwydio am fod yn
Cytgan:
Cawr mawr
A’i ben o yn bell o’r llawr
Cawr mawr
Y mwyaf yn y byd.
Un diwrnod yfodd Twmi bach
Botelaid o ffisyg hudol,
Ac yna’n syth fe dyfod Twm yn gaaawr anhygoel.
Fe dyfodd Twm yn fwy na’r tai,
Yn fwy na’r coed a’r bryniau,
A nawr ma’ Twmi o ddydd i ddydd
A’i ben yn y cymylau, mae o’n
Cytgan
nôl
CANU ROC A RÔL
Mae fy nghorff yn teimlo’n aflonydd,
Mae ‘na gyffro yn fy ngwaed,
Rwy bron a marw eisiau symud,
A neidio’n uchel ar fy nhraed.
Mae fy llais i eisiau gweiddi,
Does ‘na ddim dewis arall ar ôl
Ond bloeddio, dawnsio, jeifio, joio,
Canu roc â rôl.
Cytgan:
Rwy’n canu roc a rôl yn y bore
Rwy’n canu roc a rôl yn y p’nawn,
Rwy’n canu roc a rôl yn yr hwyr
Cenwch roc â rôl – bydd popeth yn iawn.
Rwy’n cribo ‘ngwallt yn ôl fel gwallt Elvis,
Mae’r sgidiau swêd yn dynn am fy nhraed,
Mae sn y drymiau’n cynnig y curiad
Dim ond cydio mewn gitâr sy raid,
Pan ddaw sn y gân a’r rhythum i nghlustiau
Does ‘na ddim dewis arall ar ôl
Ond bloeddio, dawnsio, jeifio, joio
Canu roc a rôl.
Cytgan
nôl
DACW TI YN EISTEDD
Dacw ti yn eistedd y deryn du,
Brenin y goedwig fawr wyt ti.
Can, dere deryn,
Can, dere deryn,
Dyna un hardd wyt ti.
nôl
DATHLWN GLOD (Ymdeithgan yr Urdd)
Dathlwn glod ein cyndadau,
Enwog gewri Cymru fu;
Gwŷr yn gweld y seren ddisglair
Trwy y cwmwl du,
Ar ôl llawer awel groes,
Atgyfodwn yn ein hoes,
Hen athrawon dysg a moes
Cymru Fu.
Cytgan
Sain, Cerdd a chân,
Hen Gymru lân
Heddiw lanwo Gymru wen Cymru lân
Plant Cymru fu, Hen Gymru gu,
Codwn enw Cymru lân.
Bonedd gwlad gyda'u gwerin,
Foesymgrymant ger ei bron,
Merched mwyn a llanciau
Rhoddant gêd ar allor hon;
Dewch a'i thelyn feinlais fwyn,
Hen alawon syml eu swyn,
Adlais odlau grug a brwyn Cymru Fu.
Cytgan
nôl
DAW HYFRYD FIS
Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo' hir
A chlywir y gwcw'n canu'n braf yn ein tir
Braf yn ein tir, braf yn ein tir.
Gwcw, gwcw, gwcw'n canu'n braf yn ein tir.
nôl
DON Y MEICRODON
Beth am bwdin reis, jeli neis,
Neu deisen sbeis i Nain?
Ac fe hoffwn i gael bwyd Tseini
Neu gyrri o’r Dwyrain.
Cau y drws – mae’r golau’n goch,
Eiliad fer – sŵn y gloch.
Tê neu swper unrhyw bryd,
Don sy’n gwneud y gwaith i gyd.
Beth am bryd go lew,
Dau bysgodyn tew
Efo sglodion silicôn.
Bara lawr, dwy sosej fawr
A wyau o Sir Fôn.
Cau y drws – mae’r golau’n goch,
Eiliad fer – sŵn y gloch.
Tê neu swper – unrhyw bryd,
Don sy’n gwneud y gwaith i gyd.
Cytgan:
Cytgan
Don y meicrodon ydw i,
Y brenin yn eich cegin chi,
Byth yn meddwl mynd ar streic,
Fi, Don y Meicro.
nôl
FFRANZ O WLAD AWSTRIA
Roedd Ffranz o wlad Awstria
Yn iodlan ar fynydd mawr
Pan ddaeth cwymp mawr o eira
A’i fwrw’n fflat i’r llawr.
Roedd Ffranz o wlad Awstria
Yn iodlan ar fynydd mawr
Pan ddaeth arth fawr ffyrnig
A’i fwrw’n fflat i’r llawr.
Cytgan
Cytgan:
Roedd Ffranz o wlad Awstria
Yn iodlan ar fynydd mawr
Pan ddaeth ci St Bernard
A’i fwrw’n fflat i’r llawr.
Cytgan
Roedd Ffranz o wlad Awstria
Yn iodlan ar fynydd mawr
Pan ddaeth ei annwyl gariad
A’i gusannu’n fflat i’r llawr.
Cytgan
Roedd Ffranz o wlad Awstria
Yn iodlan ar fynydd mawr
Pan ddaeth tad ei annwyl gariad
A’i saethu’n fflat i’r llawr.
Cytgan
Olia ci, olia cici ac olia cwcw,
swish, swish,
Olia cici ac olia cwcw,
swish, swish,
Olia cici ac olia cwcw,
Olia cici ac o.
nôl
HEI, MISTAR URDD
Cytgan:
Hei, Mistar Urdd yn dy coch, gwyn a gwyrdd
Mae hwyl i’w gael ymhobman yn dy gwmni.
Hei, Mistar Urdd, tyrd am dro ar hyd y ffyrdd
Cawn ganu’n cân i holl ieuenctid Cymru.
Gwelais di’r tro cyntaf ‘rioed yn y gwersyll ger y lli
A chofiaf am yr hwyl fu yno’n hir
Dyddiau hir o heulwen haf, y cwmni gorau fu
Ac af yn ôl i aros cyn bo hir.
Cytgan
Noson hir o aeaf oer, fe welais di drachefn
Dangosaist fod ‘na rywle i mi fynd.
Dyma aelwyd gynnes iawn a chriw ‘run fath â fi
A chyfle i adnabod llawer ffrind.
Cytgan
Diolch i ti, Mistar Urdd, dangosaist i mi’n glir
Fod gennyt rywbeth gwych i’w roi i mi
Gwersyll haf a chwmni braf mewn cangen ymhob tre’
A gobaith i’r dyfodol ynot ti.
Cytgan
nôl
HEN WLAD FY NHADAU
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Tros ryddid gollasant eu gwaed.
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad.
Tra môr yn fur i’r bur hoff bau,
O bydded i’r hen iaith barhau.
nôl
HEN FEIC PENI-FFARDDING FY NHAID
Mae 'na rai sydd yn hoffi trafeilio
Yn gyfforddus a swel mewn M.G.,
Mae rhai eraill yn dewis y bysus a'r trên
Ond mae'n llawer iawn gwell gennyf fi -
Pan yn reidio ar spid ryw ben bore
Fe ddaeth plismyn mewn car ar fy ôl,
Ond fe bedlais yn wallgo' â'm trwyn ar y bar,
A phan stopiais rown i yn y North Pôl.
Cytgan
Cytgan
Hen feic peni-ffardding fy nhaid
Well sticio at hwnnw sydd raid,
Bydd y dyrfa yn heidio i'm gweld i yn reidio
Hen feic peni-ffardding fy nhaid.
Mi bridaf fel pob creadur gwirion
Os caf afael ar ferch fach gwerth chweil,
Ond ni chrymaf 'run tacsi i'm cludo i'r llan,
Mi af yno fy hunan mewn steil.
Cytgan
Cytgan
Aeth y trip ysgol SuI rhyw ddiwmod
Draw i Fangor am dro efo'r traen,
Ond er cysgu yn hwyr ni chynhyrfais i ddim,
A chyrhaeddais y ddinas o'u blaen.
nôl
HET TRI CHORNEL
Mae gen i het dri chornel,
Tri chornel sydd i'm het,
Ac os nad oes tri chomel,
Nid honno yw fy het.
nôl
JOIO YN Y JAMBORI
Rwy’n teimlo cân yn dod
Mae’r rhythm yn fyw,
Rwy’n teimlo cân yn dod
Ymunwch â’r criw.
Cura dy ddwylo, Côd ar dy draed,
Canu hon sydd rhaid.
Joio yn y Jambori,
Joio yn y Jambori.
Mae gen i ffrindiau da,
Cyfeillion di-ri,
Mae gen i ffrindiau da,
A mae lle i ti.
Cura dy ddwylo, Côd ar dy draed,
Canu hon sydd rhaid.
Joio yn y Jambori,
Joio yn y Jambori.
Mae’r iaith yn dod yn fyw
Yng nghymoedd y De
Mae’r iaith yn dod yn fyw,
Fe fydd yma le.
Cura dy ddwylo, Côd ar dy draed,
Canu hon sydd rhaid.
Joio yn y Jambori,
Joio yn y Jambori
Joio yn y Jambori,
Dere lawr i’r jamba
Pawb yn ‘neud y Samba,
Dawnsio dawns y Mamba,
La la la la Bamba,
Dere lawr i’r Jambori!!
nôl
NANT Y MYNYDD
Nant y Mynydd groyw, loyw
Yn ymdroelli tua'r pant,
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
ana bawn i fel y nant.
Mewn a mas, mewn a mas (x4)
Grug y mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug,
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.
Nôl a mlaen, nô1 a mlaen (x4)
Adar mân y mynydd uchel
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn hedeg,
O na bawn fel deryn bach.
Lan a lawr, lan a lawr (x4)
Mab y mynydd ydwyf innau
Oddi cartref yn gwneud cân;
Ond mae nghalon ar y mynydd
Efo'r grug a'r adar mân.
Troi a throi, troi a throi (x4)
nôl
NEFOL DAD
Nefol Dad, mae eto'n nosi,
Gwrando lef ein hwyrol weddi
Nid yw'r nos yn nos i ti;
Rhag ein blino gan ein hofnau,
Rhag pob niwed i'n heneidiau,
Yn dy hedd, o cadw ni.
Cyn i'r caddug gau amdanom,
Taena d'adain dyner trosom
Gyda thi, tawelwch sydd;
Yn dy gariad mae ymgeledd,
Yn dy fynwes mae tangnefedd,
Wedi holl flinderau'r dydd.
nôl
PEN, YSGWYDDAU, COESAU, TRAED
Pen, ysgwyddau, coesau, traed,
Coesau, traed.
Pen, ysgwyddau, coesau, traed,
Coesau, traed.
Llygaid, clustiau trwyn a cheg,
Pen, ysgwyddau, coesau, traed.
nôl
OES GAFR ETO?
Oes gafr eto?
Oes heb ei godro
Ar y creigiau geirwon
Mae'r hen afr yn crwydro.
Gafr wen, wen, wen
Ie finwen, finwen, finwen.
Foel gynffonwen, foel gynffonwen
Ystlys wen a chynffon wen, wen, wen.
Oes gafr eto?
Oes heb ei godro
Ar y creigiau geirwon
Mae'r hen afr yn crwydro.
Gafr las, las, las
Ie finlas, finlas, finlas.
Foel gynffonlas, foel gynffonlas
Ystlys las a chynffon las, las, las.
a.y.b.
nôl
SOSBAN FACH
Mae bys Meri Ann wedi brifo
A Dafydd y gwas ddim yn iach;
Mae’r baban yn y crud yn crio
A’r gath wedi sgrapo Joni bach.
Cytgan:
Sosban Fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A’r gath wedi crafu Joni bach.
Dai Bach y Sowldiwr
Dai bach y Sowldiwr
Dai Bach y Sowldiwr
A chwt’i grys e mas
Cytgan
Mae bys Meri Ann wedi gwella,
A Dafydd y gwas yn ei fedd;
Mae’r babi yn y crud wedi tyfu
A’r gath wedi huno mewn hedd.
Cytgan
nôl