Ymchwil Addysg Ddwyieithog yn Ysgolion Cymru

Download Report

Transcript Ymchwil Addysg Ddwyieithog yn Ysgolion Cymru

Slide 1

Ymchwil Addysg Ddwyieithog
yn Ysgolion Cymru


Slide 2

Bwriadau’r Ymchwil



Cynnal yr arolwg cynhwysfawr cyntaf o’i fath o
ddulliau addysgu a dysgu dwyieithog mewn
ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.



Canolbwyntio ar y defnydd o’r Gymraeg a’r
Saesneg fel cyfryngau addysgu a dysgu gyda
gwahanol
grwpiau
o
ddisgyblion
mewn
amrywiaeth o wersi ar draws y cwricwlwm.


Slide 3

Nodiadau ar gyfer:
”Bwriadau’r Ymchwil ”

Nod y Project Ymchwil i Addysg Ddwyieithog yn Ysgolion Cymru ydyw:

• diffinio a dadansoddi gwahanol fodelau o addysg ddwyieithog
yng Nghymru. Dyma’r arolwg cynhwysfawr cyntaf o’i fath o
ddulliau addysgu a dysgu dwyieithog mewn ysgolion cyfrwng
Cymraeg.
• canolbwyntio'n bennaf ar ddefnydd athrawon o’r Gymraeg a’r
Saesneg fel cyfryngau addysgu a dysgu gyda gwahanol grwpiau
o ddisgyblion mewn amrywiaeth o wersi ar draws y cwricwlwm
cynradd (Cyfnod Sylfaen a CA2) ac uwchradd (CA3–5).
• doedden ni ddim yn edrych yn benodol ar wersi iaith
Cymraeg a Saesneg.


Slide 4

TRI cham i’r ymchwil:

1. Cynnal arolwg ac arsylwi ymarfer presennol yn yr
ystafell ddosbarth

2. Ymgynghori ag ymarferwyr ac ymgynghorwyr

3. Llunio deunyddiau hyfforddi


Slide 5

Nodiadau ar gyfer :
”TRI cham i’r ymchwil ”

Roedd tri cham i’r project ymchwil:
• cynnal arolwg ac arsylwi dulliau o ran defnyddio dwy
iaith yn y dosbarth;
• trafod gydag ymgynghorwyr ac ymarferwyr er mwyn
amlygu strategaethau effeithiol ar gyfer dyrannu iaith;

• cynhyrchu deunyddiau hyfforddi ar gyfer athrawon a
hyfforddwyr athrawon er mwyn dangos strategaethau
effeithiol ar gyfer dyrannu iaith yn y dosbarth.


Slide 6

Methodoleg Ymchwil

1. Cyfweliadau:
penaethiaid /athrawon /disgyblion
2. Arsylliadau
dosbarth / ysgol gyfan
3. Astudiaethau achos

4. Grwpiau ffocws/cynadleddau/ymgynghoriadau


Slide 7

Nodiadau ar gyfer:
”Methodoleg Ymchwil ”

Yn y fethodoleg defnyddiwyd amrywiaeth o gyfryngau
ymchwil er mwyn casglu’r dystiolaeth ansoddol a meintiol
ehangaf bosibl, yn cynnwys y canlynol:
• Cyfweliadau: penaethiaid /athrawon / disgyblion
• Arsylliadau Dosbarth
• Arsylliadau Ysgol Gyfan
• Astudiaethau achos

• Grwpiau ffocws / cynadleddau/ ymgynghoriadau


Slide 8

Dewis ysgolion


Slide 9

Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth
cyfrwng Cymraeg


Slide 10

Nodiadau ar gyfer:
”Diffinio ysgolion yn ôl y

ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ”

• Yn Hydref 2007, gyda chyhoeddiad y ddogfen hon cafwyd
diffiniadau newydd i ddisgrifio cefndir ieithyddol ysgolion
Cymru.
• Penderfynwyd canolbwyntio ar yr ysgolion sydd yn y
categorïau ‘Cyfrwng Cymraeg’ a ‘Dwyieithog’.
• Dewiswyd ysgolion cynradd ac uwchradd lle y defnyddir y
Gymraeg a’r Saesneg fel cyfrwng addysgu mewn
amrywiaeth o bynciau.
• Nid ymwelwyd ag ysgolion cynradd ac uwchradd lle
cyflwynwyd y Gymraeg fel pwnc (ail iaith) yn unig.


Slide 11

Lleoliadau Ysgolion
% yn siarad
Cymraeg
Cyfrifiad
2001

38 ysgol:
17 ysgol uwchradd
21 ysgol gynradd
14 Awdurdod Addysg Lleol

100 arsylliad gwers:
55 gwers ysgol uwchradd
45 gwers ysgol gynradd

Ysgol Uwchradd
Ysgol Gynradd >100 disgybl
Ysgol Gynradd <100 disgybl

52 cyfweliad:
31 cyfweliad ysgol uwchradd
21 cyfweliad ysgol gynradd


Slide 12

Nodiadau ar gyfer:
”Lleoliadau Ysgolion ”

• Mae’r map yn cyfeirio at leoliadau'r ysgolion a ddewiswyd.
• Ymwelwyd â chyfanswm o dri deg wyth o ysgolion ledled
Cymru mewn 14 o Awdurdodau Addysg lleol:
- 17 ysgol uwchradd
- 21 ysgol gynradd

• Cafwyd cyfle i arsylwi mewn 100 o wersi:
- 55 gwers ysgol uwchradd
- 45 gwers ysgol gynradd
• 52 cyfweliad:
- 31 ysgol uwchradd
- 21 ysgol gynradd


Slide 13

Meysydd Astudio y Cyfnod Sylfaen
Pynciau y Cwricwlwm Cenedlaethol

Roedd y gwersi’n cwmpasu
meysydd astudio y Cyfnod
Sylfaen a phynciau y
Cwricwlwm Cenedlaethol


Slide 14

Meysydd Astudio y Cyfnod Sylfaen
Pynciau y Cwricwlwm Cenedlaethol
Maes

Datblygiad Corfforol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
Datblygiad Creadigol
Pwnc

Mathemateg
Gwyddoniaeth
Dylunio a Thechnoleg
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Ieithoedd Modern Tramor
Hanes
Daearyddiaeth
Celf a Dylunio
Cerddoriaeth
Addysg Gorfforol
Addysg Grefyddol
Galwedigaethol

Nifer o wersi a
arsyllwyd

1
13
1
2
12
10
10
4
4
11
8
5
2
5
5
7


Slide 15

Prif themâu
• Cyswllt rhwng ymchwil gweithredol ac
arferion ar lawr dosbarth
• Addysg ddwyieithog yng Nghymru heddiw:
amrywiaeth
• Natur y cydbwysedd ieithyddol rhwng y
Gymraeg a’r Saesneg: cynllunio dyraniad
iaith
• Defnyddio dwy iaith yn y dosbarth:
trawsieithu
• Yr angen am ymchwil pellach


Slide 16

Nodiadau ar gyfer:
”Prif themâu ”
• Pwysigrwydd ymchwil gweithredol i ddulliau addysgu cyfrwng
Cymraeg/dwyeithog, gan gysylltu â hyfforddiant ac arferion ar lawr
dosbarth er mwyn datblygu'r maes.
• Wedi adnabod amrywiaeth 'caleidosgopig' o ran yr hyn a olygir wrth
addysg ddwyieithog yng Nghymru heddiw:
- addysgu a dysgu dwyieithog
(sy'n gwneud defnydd bwriadus o'r ddwy iaith)
- addysgu a dysgu mewn sefyllfa ddwyieithog
(sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio un iaith yn unig).


Slide 17

Nodiadau ar gyfer:
”Prif themâu ”
•Yn gallu cadarnhau llawer o negeseuon y
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ynghylch
natur y cydbwysedd ieithyddol rhwng y Gymraeg
a'r Saesneg.
•Pwysigrwydd cynllunio dyraniad iaith ar draws
ysgol gyfan/o fewn pynciau/o fewn gwersi:
gwahanu'r ddwy iaith/
defnyddio'r ddwy iaith i atgyfnerthu gwybodaeth
a dealltwriaeth.


Slide 18

Nodiadau ar gyfer:
”Prif themâu ”

• Un o'r trefniadaethau ieithyddol amlycaf y
daethpwyd ar ei draws oedd yr arfer o
'drawsieithu‘:
- o'r Saesneg i'r Gymraeg
- o'r Gymraeg i'r Saesneg
- gyda disgyblion cytbwys ddwyieithog
- gyda disgyblion dwyieithog datblygol.
• Nesaf gwelir y meysydd lle mae angen ymchwil
pellach.


Slide 19

Ymchwil pellach

• Dulliau addysgu a dysgu sy’n cyfarfod ag
anghenion dysgwyr gydag amrediad o
gyrhaeddiad yn y Gymraeg a’r Saesneg yn yr un
dosbarth.
• Dulliau o wneud cynnwys gwersi pynciol yn
ystyrlon i ddysgwyr mewn addysg drochi (cf.
CLIL/Cynllun Trochi).

• Dulliau asesu dwyieithog sy’n adlewyrchu
arferion dosbarth o ddefnyddio dwy iaith ar gyfer
addysgu a dysgu.


Slide 20

Ymchwil pellach

• Dulliau addysgu a dysgu AAA/ADY yng nghyddestun addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
• Dulliau addysgu a dysgu Cymraeg fel Ail Iaith.

• Egwyddorion dulliau addysgu a dysgu dwyieithog lle
mae iaith leiafrifol yn bodoli ochr yn ochr ag
iaith fwyafrifol yn yr un dosbarthiadau fel
cyfryngau addysgu a dysgu.