Transcript Cyflwyniad

Dafydd ap Gwilym
‘Yr Wylan’
Amcanion
Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu:
-Adnabod nodweddion cerdd llatai
-Trafod y dylanwadau a fu ar Dafydd ap
Gwilym
(I gyd yn gywir a heb gymorth)
(Rhan 1)
Yr Wylan
Yr wylan deg ar lanw, dioer,
Unlliw ag eiry neu wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fal haul, dyrnfol heli.
Ysgafn ar don eigion wyd,
Esgudfalch edn bysgodfwyd.
Yngo'r aud wrth yr angor
Lawlaw â mi, lili môr.
Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
Lleian ym mrig llanw môr wyd.
(Rhan 2)
Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
Cyrch ystum caer a chastell.
Edrych a welych, wylan,
Eigr o liw ar y gaer lân.
Dywaid fy ngeiriau dyun,
Dewised fi, dos hyd fun.
Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
Bydd fedrus wrth fwythus ferch
Er budd; dywaid na byddaf,
Fwynwas coeth, fyw onis caf.
(Rhan 2 parhad)
Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
Och wŷr, erioed ni charawdd
Na Merddin wenithfin iach,
Na Thaliesin ei thlysach.
Siprys dyn giprys dan gopr,
Rhagorbryd rhy gyweirbropr.
(Rhan 3)
Och wylan, o chai weled
Grudd y ddyn lanaf o Gred,
Oni chaf fwynaf annerch,
Fy nihenydd fydd y ferch.
Dafydd ap Gwilym
www.dafyddapgwilym.net
Cynnwys Yr Wylan
Castell Cricieth
Castell Aberystwyth
Un o ferched
harddaf Prydain
yn ôl Brut y
Brenhinoedd.
Roedd Beirdd y
Tywysogion yn aml yn
cyfeirio ati.
Enw mam y
Brenin Arthur.
 Cymeriad pwysig yn
llenyddiaeth Cymru.
Cysylltiedig â’r hanesion am
Arthur.
Bardd o’r 6ed ganrif.
 Ymwybyddiaeth o’i gefndir
barddol.
Awyddus i gadw cysylltiad â’r
traddodiad hwnnw.
Myrddin yn adrodd ei farddoniaeth, o lyfr o
Ffrainc o'r 13eg ganrif.
•Bardd llys yn yr Hen Ogledd.
•6ed ganrif.
•Nifer o gyfeiriadau ato gan Feirdd y Tywysogion.
•Ymwybyddiaeth o gyfoeth y traddodiad barddol.
Tasg
Lluniwch grynodeb o gynnwys y cywydd hwn.
Gall fod ar ffurf siart lif.
Ydych chi’n cytuno â’ch partner?
Amser : 5 munud
Cloi’r gerdd gyda
chonfensiwn poblogaidd y
canu serch y bydd y ferch
yn achosi ei farwolaeth.
Cywydd llatai
Bardd yn anfon yr wylan
gyda neges serch at ei
gariad.
Mynd ymlaen i ofyn
wrth yr wylan
ddwyn neges i’w
gariad.
Merch di-enw.
Byw mewn tref lan-y-môr
sydd gyda chastell.
Agor trwy ganmol yr wylan.
Disgrifiad o’r ferch hefyd?
D.J. Bowen = Aberystwyth
Anthony Conran = Cricieth
Ai Morfudd yw’r ferch?
Tasg
Mewn parau trefnwch y cardiau yn ôl y
drefn y maent yn ymddangos yn y cywydd.
Trefn:
Tasg
Nawr, rhowch y cardiau geirfa gyda’r
lluniau cywir.
1. ‘eiry’ = eira
2. ‘gwenlloer’ = lleuad wen
3. ‘dyrnfol heli’ = maneg ddur
4. ‘lili môr’ = lili’r môr
5. ‘llythr’ = tudalen
6. ‘lleian’ = lleian mewn gwisg wen
Croen golau = harddwch yn yr Oesoedd Canol
Llun:www.flickr.co.uk
Lliw haul = harddwch heddiw
Cefndir Yr Wylan
Cywydd llatai
 Llatai = negesydd serch
 Anifail neu aderyn
e.e. gwylan, ehedydd, carw
Anfonir gan y bardd gyda
neges serch at ei gariadferch.
Pam dewis yr wylan fel llatai?
Cyflymder
Hedfan yn
syth i’r man a
ddynodwyd.
Symbol o
brydferthwch
y ferch. Pam?
Dylanwadau - Beirdd y Tywysogion
• Gwreiddiau’r confensiwn i’w darganfod yng ngwaith rhai o
Feirdd y Tywysogion yn y 12fed a’r 13eg ganrif.
• Cynddelw Brydydd Mawr = gyrru march fel negesydd
serch ar ei ran.
• NID OES enghraifft arall o adar neu anifeiliaid fel
negesyddion serch yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr.
Dylanwadau – Y Trwbadwriaid
•Confensiwn tebyg yng ngwaith Trwbadwriaid Profens a
Ffrainc hefyd.
•Ond, Eosiaid a anfonir ganddynt hwy fel rheol.
•Dim manylu hir a gorchestol fel a geir gan Dafydd
chwaith.
Dylanwadau – Pedair Cainc Y Mabinogi
Chwedl Branwen ferch Llŷr
• Atgoffa o’r ddrudwy a yrrodd Branwen gyda llythyr i’w
brawd yng Nghymru.
Tasg
Yn unigol, lluniwch siart bry cop gan gynnwys y
penawdau y byddwch chi’n ei drafod am
gefndir Yr Wylan a Dafydd ap Gwilym.
Er enghraifft:
Uchelwr
Cefndir Dafydd ap Gwilym
Bardd natur
a serch
fl. 1340-1370
Uchelwr
Cymeriad lliwgar
Ewythr –
Llywelyn ap Gwilym
– Cwnstabl Castell
Newydd Emlyn –
Athro Barddol
Geni: Brogynin,
Llanbadarn Fawr
Teulu dylanwadol
yn y Deheubarth.
28 copi mewn llawysgrifau
e.e. Peniarth 49
Cywydd llatai, serch a natur
Lleoliad –
D. J. Bowen yn awgrymu
Castell Aberystwyth.
Anthony Conran – Castell
Cricieth
Cywydd yn y person cyntaf –
Dafydd yw’r carwr
dioddefus
Merch di-enw
Morfudd?
Morfudd =
•Un o brif gariadon Dafydd
• Gwraig briod
• Llysenw ei gŵr oedd ‘Y Bwa Bach’.
• Byw ger Aberystwyth
• Dod o deulu da
• Gwallt golau ac aeliau tywyll
ganddi
• 80 o gerddi iddi
Y System Nawdd
Beirdd y Tywysogion
2 ganrif lewyrchus
Tywysogion yn noddi’r beirdd
1282 – Cwymp y Tywysogion
Diwedd nawdd
Dosbarth newydd o dirfeddianwyr
Beirdd yr Uchelwyr
Uchelwyr yn noddi’r beirdd ac
yn dechrau barddoni eu hunain
Clera
Datblygiad y Cywydd
Traethodl
Cywydd
Dafydd ap Gwilym yn safoni’r mesur yma drwy osod
cynghanedd ym mhob llinell.
• 4/5 o gerddi Dafydd yn ymwneud â serch a natur.
• Beirdd y Tywysogion:
- Awdlau serch Hywel ab Owain
- Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y
carwr dioddefus.
- Dafydd yn gyfarwydd â cherddi Hywel ab
Owain .
Perthynas rhwng y cerddi llatai â chysyniad Serch Cwrtais
Cyfandirol:
• Anfon llatai – delwedd o’r ferch fel un anghyraeddadwy
• Dafydd – y carwr dioddefus
• Claf o gariad
Yr Wylan – cerdd natur
• Cerddi Ffrangeg alegoriol lle mae’r adar yn trafod
pynciau serch ynddynt.
• Gramadeg Einion Offeiriad:
Hen englynion sy’n cyfuno doethineb â disgrifiadau cryno o
fyd natur.
Hefyd, mae adar yn cael eu personoli i fod â nodweddion
dynol ynddo yn union fel mae Dafydd yn ei wneud yn y
cywydd hwn.
Yr Wylan – cerdd natur
•Natur yn mynd law yn llaw â serch.
•Cerdd llatai – creadur o fyd natur yn cynorthwyo
Dafydd ar lwybr serch.
•Disgrifiad llachar o wynder yr Wylan – hefyd yn
awgrymu rhinweddau’r ferch.
•Yr wylan yn ddelwedd adnabyddus am harddwch
merch.
Yr Wylan – cerdd natur
Unigryw:
Yr hyn sy’n gwneud y cywydd hwn yn wahanol yw
manylder synhwyrus Dafydd –
Disgrifiadau y mae a wnelont fwy â phrofiad
a sylwgarwch y bardd nag ag unrhyw
gonfensiwn llenyddol.
Camp Dafydd ap Gwilym
Soniodd Huw Meirion Edwards am allu Dafydd ap
Gwilym i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl
ddylanwadau hyn gan greu, o ganlyniad, waith cwbl
newydd a ffres:
“Pwysicach na phob dylanwad yw dychymyg
ac egni creadigol cynhenid Dafydd, a’i
galluogodd i drawsnewid yr hyn a glywodd
ac a ddarllenodd ym mhair ei weledigaeth
ef ei hun.”
Tasg
Yn eich grwpiau, paratowch gyflwyniad am
gefndir Dafydd ap Gwilym a chywydd Yr Wylan.
Defnyddiwch eich siart bry cop i’ch helpu.
Byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau i
weddill y dosbarth.
Amser: 10 munud.
Tasg
Yn unigol, ysgrifennwch
frawddeg agoriadol eich
traethawd ar gefndir Dafydd ap
Gwilym a’r cywydd ‘Yr Wylan’.
Gwaith Cartref:
Ysgrifennwch draethawd am gefndir Dafydd ap
Gwilym a chywydd Yr Wylan gan ddefnyddio’r
hyn a wnaethoch yn y dosbarth heddiw fel
sylfaen i’r gwaith.
Erbyn wythnos i heddiw.
14. Unigryw
13. Natur –
Gramadeg Einion
Offeiriad
1. Cywydd llatai
+ serch a natur
2. Lleoliad Aberystwyth?/
Cricieth?
12. Natur –
cerddi Ffrengig
3. Morfudd?
4. 28 copi mewn
llawysgrif
11. Branwen ferch Llŷr
10. Serch Cwrtais
5. Bardd =
-Pwy?
- Beth?
- Pryd?
- Lle?
9. Serch –
Y Trwbadawriaid
8. Serch –
Beirdd y Tywysogion
6. System nawdd
7. Datblygiad y cywydd