MOTHER TERESA
Download
Report
Transcript MOTHER TERESA
Y FAM TERESA
Arwain fi o farwolaeth i fywyd,
o gelwyddau i wirionedd
Arwain fi o anobaith i obaith
o ofn i ymddiriedaeth
Arwain fi o gasineb o gariad
Arwain fi o ryfel i heddwch
Boed i heddwch lenwi ein calonnau,
ein byd,
ein bydysawd
heddwch, heddwch, heddwch. . .
Y Fam Teresa
27 Awst, 1910 – 5 Medi, 1997
ANNWYL IESU, helpa fi i ledaenu Dy
beraroglau ym mhobman. Boed i Dy ysbryd
a’th gariad orlifo yn fy enaid. Boed i ti
dreiddio a meddiannu fy modolaeth mor
llwyr fel bod fy mywyd yn ddisgleirdeb o Dy
fywyd Di. Llewyrcha trwydda i fel bod pob
enaid y byddaf yn dod i gysylltiad ag ef yn
teimlo Dy bresenoldeb yn fy enaid.
Gadewch iddynt edrych arna i heb fy
ngweld i ond Iesu yn unig. Arhosa gyda mi
a byddaf yn dechrau disgleirio fel rwyt ti’n
disgleirio, er mwyn bod yn oleuni i eraill.
1910 Ganed ar 27 Awst yn Agnes Gonxha
Bojaxhiu yn Skopje, Iwgoslafia, a elwir yn
Macedonia erbyn hyn. Roedd ei thad yn
adeiladwr o Albania. Hi oedd yr ieuengaf o
dri o blant.1928 Ymunodd ag urdd grefyddol
dan yr enw Teresa. Aeth i India i addysgu
mewn ysgol gwfaint yn Calcutta, yn nhalaith
gorllewin Bengal.
Agnes gyda Lazar ac Aga
1937 Cymerodd ei haddunedau olaf.1948
Gadawodd y lleiandy i weithio ar ei phen ei
hun yn y slymiau. Derbyniodd hyfforddiant ac
addysg feddygol ym Mharis.1950 Daeth yn
ddinesydd India. Dechreuodd y Cenhadon
Elusen. 1952 Agorwyd y tŷ i’r bobl oedd yn
marw. 1957 Dechreuodd y Cenhadon Elusen
weithio gyda gwahangleifion ac mewn sawl
man yn y bydd oedd wedi dioddef
trychinebau.1962 Ennill ei gwobr gyntaf ar
gyfer ei gwaith dyngarol: gwobr Padma Shri
am “wasanaeth neilltuol." Dros y
blynyddoedd defnyddiodd yr arian o wobrau
o’r fath i ariannu dwsinau o gartrefi newydd.
1971 Y Pab Paul VI yn anrhydeddu’r Fam
Teresa drwy wobrwyo’r Wobr Heddwch Pab
John XXIII gyntaf iddi. 1979 Derbyniodd
Wobr Heddwch Nobel ar ran y tlawd. 1993
Torri tair asen wrth gwympo yn Rhufain ym
mis Mai; derbyn triniaeth ar gyfer malaria yn
yr ysbyty ym mis Awst yn New Delhi; derbyn
triniaeth i glirio pibell waed wedi’i blocio yn
Calcutta ym mis Medi.1997 Bu farw ar 5
Medi yng Nghalcutta, India
Cyn i chi siarad, mae angen i chi
wrando, oherwydd bod Duw yn
siarad yn nhawelwch y galon. . .
Beth bynnag..
Mae pobl yn aml yn afresymol, yn afresymegol ac yn hunanol;
Maddeuwch iddynt beth bynnag.
Os ydych yn garedig, gallai pobl eich cyhuddo o fod yn hunanol, â chymelliannau
cudd;
Byddwch yn garedig beth bynnag.
Os ydych yn llwyddiannus, byddwch yn ennill ffrindiau ffug a gelynion go iawn;
Dylech lwyddo beth bynnag.
Os ydych yn onest ac yn agored, efallai y bydd pobl yn eich twyllo;
Byddwch yn onest ac yn agored beth bynnag.
Gallai rhywun ddinistrio dros nos yr hyn rydych wedi bod yn ei adeiladu ers
blynyddoedd.
Adeiladwch beth bynnag.
Os byddwch yn dod o hyd i dawelwch a hapusrwydd, efallai y byddant yn
genfigenus;
Byddwch yn hapus beth bynnag.
Bydd pobl yn anghofio’r da rydych yn ein wneud heddiw erbyn yfory;
Gwnewch bethau da beth bynnag.
Rhowch y gorau sydd gennych i’r byd, ac efallai na fydd byth yn ddigon;
Rhowch y gorau sydd gennych i’r byd beth bynnag.
Ar ddiwedd y dydd, mae rhyngoch chi a Duw;
Nid oedd erioed rhyngoch chi a hwy beth bynnag.
— Y Fam Teresa, Llwybr Syml
YN DERBYN GWOBR HEDDWCH
NOBEL