Cywirdeb Iaith
Download
Report
Transcript Cywirdeb Iaith
cywirdeb iaith cywirdeb iaith
Iaith iaith
cywirdebCywirdeb
iaith cywirdeb
cywirdeb iaith cywirdeb iaith
cywirdeb iaith cywirdeb iaith
cywirdeb iaith cywirdeb iaith
cywirdeb iaith cywirdeb iaith
cywirdeb iaith cywirdeb iaith
cywirdeb iaith cywirdeb iaith
cywirdeb iaith cywirdeb iaith
cywirdeb iaith cywirdeb iaith
Terfyniadau i’w cofio
- ir
- wn
- a*
Amhersonol. Presennol.
Gwelir, clywir, ceir, agorir, dangosir
Person cyntaf lluosog. Presennol.
Gwelwn, clywn, cawn
Trydydd person unigol. Presennol.
Gorffenna, prysura, dechreua
* Ond cofiwch yr amrywiadau; egyr, saif, caiff, aiff
Cywirwch y berfau
Saethiad llydan o stryd dawel. Clywyd sŵn ceir yn y
pellter ac rydyn ni’n gweld pobl yn cerdded hyd y
pafin. Yng nghornel y saethiad mae dyn yn sefyll.
Gwelid ei wyneb yng ngolau’r stryd ac rydym yn
cael cip ar rywbeth disglair yn ei law. Wrth i’r
gerddoriaeth ddechrau chwarae, dechreuir y dyn
gerdded yn araf i fyny’r stryd. Mae’r camera’n
prysuro i mewn ac rydym yn gweld ei ddillad. Mae
o’n gwisgo dillad tywyll o wneuthuriad da, caelir yr
argraff ei fod yn ddyn cyfoethog. Dangoswyd ei
esgidiau ac yna mae’n gadael y saethiad.
Atebion
Saethiad llydan o stryd dawel. Clywir sŵn ceir yn y
pellter a gwelwn bobl yn cerdded hyd y pafin. Yng
nghornel y saethiad saif dyn. Gwelir ei wyneb yng
ngolau’r stryd a chawn gip ar rywbeth disglair yn ei
law. Wrth i’r gerddoriaeth ddechrau chwarae,
dechreua’r dyn gerdded yn araf i fyny’r stryd.
Prysura’r camera i mewn ac rydym yn gweld ei
ddillad. Gwisg ddillad tywyll o wneuthuriad da, ceir
yr argraff ei fod yn ddyn cyfoethog. Dangosir ei
esgidiau ac yna mae’n gadael y saethiad.
Defnyddiwch ‘ti’
Defnyddiwch ‘chi’
Wrth gyfeirio at unigolyn
Rhwng ffrindiau
Mewn sgwrs anffurfiol
Rhwng dieithriaid
Os yw’r cymeriadau’n
Mewn sgwrs ffurfiol
adnabod ei gilydd yn dda
Wrth gyfarch oedolion
Wrth gyfarch plentyn
Wrth gyfeirio at sawl
unigolyn
Alys: Oeddet ti eisiau ‘ngweld i Miss Bowen?
Miss B: Oeddwn Alys. Tyrd i mewn, eisteddwch am eiliad.
(Alys yn eistedd)
Rydw i eisiau gwybod a oes rhywbeth yn dy boeni di,
rhywbeth sydd ar eich meddwl.
Alys: Wel, oes. Ond ydych chi’n addo na fyddi di’n dweud
dim wrth neb?
Miss B: Peidiwch â phoeni, rydw i’n addo peidio oni bai
fod dy fywyd mewn perygl. Rŵan, dywedwch bopeth.
Ateb
Alys: Oeddech chi eisiau ‘ngweld i Miss Bowen?
Miss B: Oeddwn Alys. Tyrd i mewn, eistedd am eiliad.
(Alys yn eistedd)
Rydw i eisiau gwybod a oes rhywbeth yn dy boeni di,
rhywbeth sydd ar dy feddwl.
Alys: Wel, oes. Ond ydych chi’n addo na fyddwch chi’n
dweud dim wrth neb?
Miss B: Paid â phoeni, rydw i’n addo peidio oni bai fod dy
fywyd mewn perygl. Rŵan, dywed bopeth.
Y saethiad ____________
Yr ____olygfa __________
Y __ymeriad ___________
Y ___eialog _________
Y ___erddoriaeth ____
Ar ddechrau’r golygfa hon, ceir saethiad
lydan o’r prif cymeriad yn canu. Bydd y
cerddoriaeth hwn yn pylu cyn y deialog.
Atebion
Y saethiad hwn
Yr olygfa hon
Y cymeriad hwn
Y ddeialog hon
Y gerddoriaeth hon
Ar ddechrau’r olygfa hon, ceir saethiad
llydan o’r prif gymeriad yn canu. Bydd y
gerddoriaeth hon yn pylu cyn y ddeialog.
‘Ei’ ac ‘Eu’
Ei
Eu
Unigol
(un person)
Hi
Treiglad llaes
ei phen
ei theimladau
ei chuddio
ei llaw
Lluosog
(mwy nag un person)
Fo
Treiglad Meddal
ei ben
ei deimladau
ei guddio
ei law
Dim treiglad